Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mathau o Bryfed Cop Gwenwynig, eon ei anian-diwyd Uchedydd heliwr bychan; A chnaf erch yn ei we fan Dyrys hudwr i'w sidan. William Roberts (Ap Meirig). MAE pryf cop, efallai, yn dwyn i gof greadur arswydus yn eistedd yng nghanol ei we yn disgwyl yn eiddgar i ryw anifail anffodus ddisgyn i mewn i'r fagl. Nid yw hyn, mewn gwirionedd, yn gwbl wir gan nad oes llawer ohonynt yn adeiladu gwe. Nid ydynt yn bwydo ar fodau dynol, ac maent yn gyndyn iawn i frathu, hefyd. Fel rheol y mae croen dyn yn rhy wydn iddo fedru brathu trwodd ond mae'n bosib trwy rannau meddal y croen. Mae gan y rhan fwyaf golynnau a chwarennau gwenwynig. Defnyddiant hwy i lonyddu eu hysglyf- aeth fel y gallant ei fwyta, neu hyd yn oed ei barlysu, fel y bo'n cadw'n ffres am ddyddiau! Gan MELFYN R. WILLIAMS fod ysglyfaeth y pryfed cop yn cynnwys llawei pryfyn sy'n cael ei ystyried yn achosi pla i ddyn, mae felly'n fwy naturiol i'w derbyn fel cyfeillion. Nid yw pob pryf cop yn nyddu gwe. Tra gall y cyfan gynhyrchu edau sidanaidd o un math neu'i gilydd, dim ond ychydig sy'n nyddu y we nodwedd- iadol, gymhleth a phrydferth yr ydym ni mor gyfarwydd â hi. Mae rhai o'r tylwyth Atypus yn adeiladu tiwb sidan i fyw ynddo, a'r wyrth ryfeddol yw nad oes unrhyw fynediad gweledig. Fel arfer, tua wyth modfedd yw hyd y tiwb ond tair modfedd yn unig ohono sydd i'w weld ar wyneb y ddaear (Llun 1); mae'r gweddill yn diflannu'n syth i'r pridd. Maent i'w gweld yn eglur ar y wyneb ar ôl cawod o law gan eu bod yn sychu'n gyflymach ac felly, yn oleuach na'r pridd llaith. Mae'r Atypus yn aros yn y tiwb trwy gydol ei oes. Os cyffyrddir y tiwb gan Llun I. Atypus yn dal pryf