Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ry' neu rywbeth tebyg, daw'r pryf cop ar ei hyd 'i ddal gyda'r chaelicera. Ymhen ychydig tyn yr sglyfaeth drwy hollt yn y tiwb. Mae'r Eresus, sy'n byw ar lethrau grugog, yn loddio twll unionsyth tua tair modfedd o hyd ac n ei orchuddio o'r tu mewn â sidan. Mae un ochr y twll yn ymestyn i fyny a throsodd, ac yn ffurfio math o dô. Yn ymestyn o'r tô mae nifer o edau croesymgroes wedi'u glynu i'r grug oddi amgylch. Weithiau cymerant ffurf llian gan gynrychioli edau'r fagl. Caiff yr ysglyfaeth druan ei ddal yn ddiar- wybod ynddynt. Llun 2. Magl Daironglog Hyptiotes Magi daironglog fydd Hyptiotes yn ei hadeiladu. Eistedd yn ddisylw, a'i gorff yn cyffwrdd cangen a'i goesau blaen yn ymestyn i ddal edau sy'n gysylltiedig â blaen y triongl. Cyn gynted ag y cyffyrddir y we gan bryf yn annisgwyl mae'r pryf cop yn ei rwymo mewn cwd sidanaidd (Llun 2). Mae un rhywogaeth o'r teulu Scytodes yn dal eu hysglyfaeth nid ag edau sidan na gwe ddyrys ond lrwy chwistrellu math o lud o'u chaelicerae a'u ilynu i'r llawr. Gall y pryf cop, wedyn, ei chymryd li'n braf i fwynhau ei ymborth. Mae'r dull yma o ddal ysglyfaeth yn angenrheidiol o ran y copyn gan na all symud yn gyflym iawn. Er hynny, mae'n cynhyrchu edau a ddefnyddia i ddal yr wyau gyda'i gilydd. Diddorol iawn yw astudio'r pryf copyn o'r enw Cteniza california sy'n trigo yn yr Unol Daleithiau, oherwydd y defnydd gwreiddiol iawn a roddir i'r sidan. Mae'r copyn mawr du yma'n byw mewn twll sydd oddeutu chwe modfedd o ddyfnder a thri chwarter modfedd ar draws ac sydd wedi'i orchuddio tu mewn â sidan (Llun 3). Mae'n adeiladu drws gyda chymysgedd o we ac ychydig bridd, ac mae hwn wedyn, yn ffitio'n union dros yr agoriad ac yn toddi i mewn i'w amgylchedd. Gan fod i'r drws cudd hwn golfach, wedi'i wneud eto â sidan, mae'n gweithredu fel ceuddrws. Felly, enw cyffredin y Cteniia california yw copyn ceuddrws. Dyma'i annedd am ei oes ac mae'n ennill ei fywoliaeth trwy ddal creaduriaid sy'n ddigon ffôl i grwydro'n rhy agos i'r drigfan. Gan fod y ceuddrws bron yn anweledig o'r tu allan mae pryfed yn naturiol yn loetran o gwmpas yn ddiarwybod o'r perygl mawr o'u cwmpas. Yn sydyn, egyr y drws