Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERYSTWYTH Teyrnged i gyn-fyfyrwyr Blin gennym gofnodi marwolaeth Mr. F. Wynn Jones, cyn-fyfyriwr o'r ( oleg ac aelod o'r Llys a'r Cyngor. (iraddiodd o'r Adran Economeg yma ym 1923 gydag Anrhydedd yn y Dos- barth Cyntaf. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn y Gwasanaeth Sifil, yn Adran Ystadegol y Weinyddiaeth Lafur. Drin- godd i safle gyfrifol iawn ynglyn ag Ystadegaeth Llafur a bu'n cynrychioli'r Weinyddiaeth mewn llawer cynhadledd ryngwladol ar broblemau llafur. Er mai ystadegaeth oedd ei faes bro- ffesiynol yr oedd yn wr amryddawn ei ddiddordebau. Yn ystod ei yrfa'n fyfyriwr ymddiddorai lawer ym mywyd a llenyddiaeth Cymru a dilynodd gyrsiau Cymraeg y diweddar Athro T. Gwynn Jones. Parhaodd y diddordeb yma yn Llundain a rhoddodd lawer o wasanaeth i'r Cymdeithasau Cymreig yno. Cyhoeddodd erthyglau niferus mewn cyfnodolion Cymreig a bu'n Drys- orydd Urdd Gobaith Cymru am gryn amser; hefyd yn un o Is-lywyddion yr Urdd. Yr oedd hefyd yn aelod o Gyngor Cymdeithas y Cymmrodorion ac yn un o'i His-Iywyddion. Rhoddodd wasan- aeth gwerthfawr i'r Coleg fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Ychydig ddyddiau cyn i'r 'Nodiadau' yma fynd i'r wasg daeth y newydd trist a sydyn am farwolaeth Dr. Idris Jones, Is-lywydd y Coleg, cyn-fyfyriwr o'r Adran Gemeg ac, ymhlith llawer o weithgarwch arall, cefnogwr teyrngar i Y Gwyddonydd a chyfrannwr helaeth a gwerthfawr iawn i'w golofnau. Bydd colli ei bersonoliaeth hynaws, ei bresen- oldeb addfwyn a'i gyngor doeth yn gadael bwlch mawr yn Aberystwyth. Ceir cyfle eto i dalu teyrnged deilyngach i goffadwriaeth y cyn-fyfyriwr annwyl yma. Llongyfarch Estynnodd Cyngor y Coleg lon- gyfarchion i Syr Graham Sutton, Is- Lywydd y Coleg, ar ei ethol yn Aelod Am Oes o Academi Wyddonol Efrog Newydd; i Dr. Gwendolen Rees, C.G.F. (F.R.S.) ar ei hanrhydeddu gan y (iymdeithas Frenhinol; i Syr William mrys Jones (cyn-fyfyriwr o'r Adran \maethyddiaeth) ar ei greu'n Farchog; Mr. D. G. Pritchard, cyn-fyfyriwr ar i benodi'n Athro Addysg yng Ngholeg ^bertawe; i Dr. Harry Smith, cyn- Nodiadau o'r Colegau fyfyriwr, ar ei benodi'n Athro Ffisioleg Planhigion ym Mhrifysgol Manceinion ac i Mr. S. John Dawes, cyn-fyfyriwr o'r Adran Gemeg, ar ei benodi'n Gapten Tim Rygbi'r 'Llewod'. Gallwn ychwanegu at y rhestr uchod longyfarchion pellach i'r Dr. Gwendolen Rees, C.G.F., ar ei phenodiad i Gadair Bersonol yn yr Adran Swoleg. An- rhydedd a braint i'r Coleg yw cael parhau i fanteisio ar wasanaeth y wraig athrylithgar hon. Graddiodd Dr. Rees o Goleg y Brifysgol yng Nghaer- dydd yn 1927. Enillodd ei Doethuriaeth yn 1930 mewn parasitoleg cyn ei phenodi ar staff Sŵoleg Aberystwyth. Enillodd radd D.Sc. Prifysgol Cymru yn 1942 ac fe'i penodwyd yn Ddarllenydd yn 1966. Bu ar deithiau ymchwil yn Ghana a Bermuda a chyhoeddodd ba- purau ymchwil safonol niferus iawn ar Barasitoleg. Y mae'n Gadeirydd Bwrdd Golygyddol y cylchgrawn Parasitologÿ ac yn Is-Lywydd y Gymdeithas Bara- sitoleg Brydeinig. Ymhlith y rhai a benodwyd gan y Bwrdd Academig i Gymrodoriaethau Athrofaol yng Ngholeg Aberystwyth, pleser yw nodi enw Mr. Edgar Jones, M.A. (Cymru) cyn-fyfyriwr o'r Adran Economeg. Graddiodd Mr. Jones gydag Anrhydedd yn y Dosbarth Cyntaf yn 1938. Wedi dwy flynedd o ymchwil bu'n Ddarlithydd Cynorthwyol yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe am flwyddyn cyn ei benodi ar staff y Trysorlys lIe y gwasanaethodd o 1941 i 1947. Yna fe'i penodwyd i Wasanaeth Sifil Rhyngwladol Banc y Byd a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol. Ar hyn o bryd y mae ef yn llywio Gweith- gareddau Ewropeaidd y G.A.R. (I.M.F.). Yn ddiau bydd ymweliad Mr. Jones yn Gymrawd Athrofaol yn gyfle arbennig i'r Adran Economeg ac i'r Coleg yn gyffredinol i fanteisio ar ei brofiad anghyffredin. Ymddeol Estynnwn ein dymuniadau gorau i Mr. John H. Morris ar ei ymddeoliad o staff yr Adran Economeg wedi deugain mlynedd o wasanaeth i'r Coleg ag eithrio bwlch o 1939 i 1945 pan oedd ar wasanaeth milwrol yn yr India. Gra- ddiodd John Morris gydag Anrhydedd yn y dosbarth cyntaf o Ysgol Economeg Llundain (L.S.E.) yn 1926. Yr oedd yn un o ddisgyblion disgleiriaf R. H. Tawney. Bu'n ddarlithydd ym Mhri- fysgol Lerpwl am ychydig flynyddoedd cyn dod i Aberystwyth 1le y treuliodd y gweddill o'i yrfa academaidd tan ei ymddeoliad. Yr oedd yn un o bileri mwyaf dibynnol ei adran yn rhinwedd ei allu fel athro, ei gyfraniadau ysgol- heigaidd i hanes economaidd Cymru a'i waith gweinyddol. Rhoddodd lawer o wasanaeth gwerthfawr y tu allan i'w Adran hefyd yn rhinwedd ei swydd yn Is-Ddeon y Celfyddydau am wyth mlynedd, tair ohonynt wedi i'w Adran ef ei hun gychwyn y Gyfadran newydd Economeg ac Astudiaethau Cymdeith- asol. Bu am flynyddoedd yn Warden Neuadd Plunlumon ac yna'n Is-Warden Pantycelyn. Fe gofia cenedlaethau o fyfyrwyr am ei gyngor caredig a doeth a'i ddull mwyn ond effeithiol o weinyddu ei awdurdod yn y neuaddau yma. Dymunwn iddo flynyddoedd maith o dramwy rhwydd yn Aberystwyth a'r cylch ar ei hoff feisicl. Penodiadau Cadarnhaodd y Cyngor ddyrchafiad yr aelodau a ganlyn o'r staff i safle Darlithydd uwch: Mr. H. T. Conway (Addysg), y Drd. H. G. Heller ac Alun H. Price (Cemeg), Dr. V. I. Stewart (Biocemeg Amaethyddol) a'r Dr. E. M. Job (Ffiseg). Cymeradwyodd Ymddiriedolwyr Leverhulme Dr. S. R. Hashim, Pri- fysgol Baroda, India (a enwebwyd gan Goleg Aberystwyth) yn ddeiliad un o'u Cymrodoriaethau i Ymwelydd Ysgol- heigion. Bydd Dr. Hashim yn ymweld â'r Adran Economeg yn 1971/72. Penodwyd Dr. I. Ikemoto, B.Sc., M.Sc., D.Sc. (Tokyo) yn Gymrawd Ymchwil Post-Ddoethurol yn yr Adran Gemeg. Grantiau Ni ellir rhestri'r holl grantiau ym- chwil a dderbyniwyd ond efallai y caniateir nodi rhai newydd o'u plith wrth gydnabod dyled gyffredinol y Coleg i'r amryfal ffynonellau sy'n cynnal ei waith ymchwil. Derbyniodd yr Adran Lysieueg a Microbioleg £ 29,527 o'r C.Y.G. i gynnal gwaith ymchwil yr Athro J. G. Morris ar bacteria anaerobig; yr Adran Gemeg £ 9,482 o'r C.Y.G. at waith yr Athro J. M. Thomas a Dr. Graham Williams; yr Adran Ffiseg £ 14,427 o'r