Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

C.Y.G. i gynnal ymchwil yr Athro W. J. G. Beynon, Mr. E. R. Williams a Dr. Phil. J. S. Williams; yr Adran Ffiseg eto £ 33,992 o'r C.Y.G. at waith ymchwil yr Athro N. D. Twiddy yn ymwneud â gwrthdaro atomig, ffiseg yr ionosffer etc. Yn ôl yr ystadegau sydd ar gael wrth fynd i'r wasg y mae sefyllfa ceisiadau am fynediad i Aberystwyth yn Hydref, 1971 yn para'n addawol. Derbyniwyd cyfanswm o 9,553 o geisiadau a'r cyfar- taledd ohonynt yn "ddewis cyntaf' yn sylweddol uwch na'r eiddo 1970. J.B.B. BANGOR Bu Mr. D. Taylor Smith o'r Adran Eigioneg yn cynrychioli Prydain mewn cynhadledd UNESCO yn Seattle (UDA) ar beirianneg gwely'r môr. Ymwelodd hefyd â Labordai yn Edmonton, Houston, Miami a Thoronto. ALLTROEDIG (seicol.): yn disgrifio'r sawl sy'n cyfeirio ei sylw a'i ddiddordebau at bethau y tu allan iddo ef ei hun; allblyg; S. extrovert. ATALNWYD (seicol.) S. inhibition. DIHEINTYDD (fferyll.): cemegolyn sy'n lladd bac- teria a'u hadau; S. disinfectant. DIRGRYNU (ffiseg): S. vibrate. FFWYTHIANT (math.) S. function. lleisw (fhsiol.): iwrin, trwnc, dwr; S. urine. Cynhaliwyd Cyngres dan nawdd NATO yn y Coleg yn ystod mis Gor- ffennaf. Y pwnc trafod oedd dynameg hylifaidd geoffisegol. Gyda'r datblygiadau newydd ym meysydd llafur y lefel A mewn Ffiseg a Chemeg, bu cyrsiau ar gyfer athrawon ysgol yn ystod mis Gorffennaf. Daeth dros 70 i'r naill a 50 i'r llall gan gynnwys amryw o athrawon tramor. Prinder gwaith Daeth diwedd y flwyddyn academaidd i ben, a llawer o fyfyrwyr heb swyddi. Bu amryw, a fuasent yn y gorffennol wedi cael grantiau i wneud cyrsiau ychwanegol hebddynt ac yn gorfod chwilio am waith, ac mae rhai sydd wedi gorffen eu tair blynedd o ymchwil ar gyfer Ph.D. yn methu â chael y gwaith y teimlant ei fod yn addas iddynt. Dichon y bydd y sefyllfa yn gwneud i ni, yn y prifysgolion, ystyried mewn difrif swydd a diben y Ph.D. Geirfa MEWNBLYG (seicol.): yn disgrifio'r sawl sy'n cyfeirio ei sylw a'i ddiddordebau ato ef ei hun; S. introvert. PELYDREG (ffiseg): y wyddor sy'n ymwneud â phelydrau a'u priodoleddau; S. radiation science. seicogenig (seicol.): yn ymwneud â datblygiad yr ymennydd a'i alluoedd; S. psychogenic. seicosomatig (seicol.) yn ymwneud â'r berthynas rhwng y corff a'r meddwl S. psychosomatic. TRACHYWIREDD (math.) mesur o fanyldeb mathe- mategol rhywbeth; S. precision. Hefyd mae'n bosibl y bydd yr h U fyfyrwyr sy'n honni eu bod yn add s ac yn awyddus i wneud ymchwil, n barod i dalu dros eu hunain! Bydd y coleg yn croesawu'r Brifysg jl Agored am pum wythnos ym misoeod Awst a Medi. Y cyrsiau a fydd yma yw'r cyrsiau wythnos ar Fathemateg a Gwyddoniaeth. Mae rhai o'r staff wedi bod yn cymryd rhan yng ngweith- gareddau'r Brifysgol Agored trwy'r flwyddyn, a bydd rhai eraill yn darlithio yn ystod y cyrsiau hyn. Bydd yn brofiad diddorol cwrdd â'r rhai mewn oed sydd â chymaint o ddiddordeb yn eu pynciau fel y bont yn barod i aberthu eu hamdden a'u gwyliau. Mae'n wir ddrwg gennyf gofnodi marwolaeth Syr William Roberts, cyn- fyfyriwr o'r coleg hwn. Cafodd yrfa lwyddiannus ym Mhacistan, ac, yn llythrennol rhoddodd filoedd o arian i'r coleg yn ystod ei fywyd. LL.G.C.