Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GORONWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth yn awr mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 240,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHA U Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Mae gan y Coleg bum neuadd i ddynion (yn un ohonynt, a orffennwyd yn 1960, ceir lie i 250) a phum neuadd i ferched (lle i 600 o ferched), ynghyd â neuadd newydd (gymysg) i'r myfyrwyr hyn. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL GOGLEDD CYMRU, BANGOR UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: SYR CHARLES EVANS, M.A., D.SC., F.R.C.S Darperir cyrsiau gradd Prifysgol Cymru yng Nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth, Diwinyddiaeth, a Cherddoriaeth. Mae'r cyfadrannau'n cynnwys testunau arferol curricula prifysgol, a cheir yn ychwanegol, ddarpariaeth arbennig mewn Ieithyddiaeth, Archaeoleg, Seicoleg, Peirianneg Electronig, Technoleg Defnyddiau, Bioleg y Môr, Cefnforeg, Coedwigaeth, ac Amaethyddiaeth. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn mewn canlyniad i arholiadau a gynhelir yn yr ysgolion ym mis Mawrth. Y mae gan y Coleg bump Neuadd Breswyl â lle i fil o fyfyrwyr. Gellir cael manylion pellach a chopi o Brospectws y Coleg oddi wrth y Cofrestrydd.