Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol r Iae Prydain bellach yn gwario £ 1000m. ar ymchwil a datblygu mewn gwyddoniaeth a thechnoleg bob blwyddyn, swm anferth yn ôl unrhyw safon. Fodd bynnag, mae llawer yn pryderu nad yw'r v lad yn gyffredinol yn cael gwerth ei phres yn y gwario mawr yma. Yn aml iawn, wedi cymryd y penderfyniad i ddechrau rhyw gynllun neu sefydliad gwyddonol newydd, nid yw peirianwaith anwyddonol y llywodraeth yn ddigon cyflym nac yn ddigon effeithiol i bwyso a mesur gwerth y datblygiad newydd. Y canlyniad yw y gall miliynau o bunnoedd gael eu gwastraffu cyn i gyfeiriad y gwaith gael ei newid. Rhaid ond cyfeirio at Blue Streak, Jodrell Bank, Concorde, Atomfa'r Wylfa yn unig i brofi nad oedd gan y cynllunwyr gwreiddiol unrhyw syniad o'r gost terfynol. Wedi dechrau ar y rhain, rhaid oedd i'r cyhoedd sefyll o'r neilltu, yn gwbl analluog i wneud dim, tra 'roedd y pris gwreiddiol yn dyblu a threblu. Wedi gwario £ 100m., mae bron yn amhosibl rhoi terfyn ar gynllun, gan fod y golled mor aruthrol mewn arian a diweithdra pe cymerir y cam eithaf. Fel arfer, felly, rhyw rygnu 'mlaen yn aneffeithiol a wneir, er ei bod hi'n amlwg i bawb y byddai'n well pe na fyddid erioed wedi cychwyn ar y fenter. Oherwydd bod cyn lleied o ystyriaeth wedi ei roddi i'r materion hyn, y mae cyfres newydd o lyfrynnau yn cael eu cyhoeddi. Y cyntaf yw The New Scientists (gol. David Fishlock, Gwasg Rhydychen, 1971, 95c) a bydd eraill yn y gyfres, sydd o dan olygyddiaeth gyffredinpHSyr-líarrie Massey a Syr Frederick Dainton, yn ymdrin â Engineers and Engineering, Innovattons. Scientific, Technological and Social a I.iving with the Computor. Tro ar fyd yn Harwell f =<1 Yn The New Scientists y mae chwech o reolwyr ymchwil, heb yr un ohonynt fodbŵ fwy na deugain oed, yn adrodd fel y bu iddynt hwy geisio sianelu ymchwil i gyfeiriadau a fyddai'n Wpffidiol i'r wlad. Rhyw wizz-kids o bobl ydyw'r rhain i gyd, a'u henwau yn boendod i lawer o wyddorrw^ba«h*digon diniwed, sy'n ceisio gwneud eu gwaith heb ymyrraeth o'r tu allan. Mae Walter MarshaTTTÌpennaeth presennol Harwell, yn nodweddiadol iawn ohonynt. Nid yw ond 38 oed yn awr, ac yn ei swydd bresennol ers 3 mlynedd bron. 'Roedd yn bennaeth Adran Ffiseg Ddadansoddol, Harwell, pan yn 27 oed ac felly wedi cael gyrfa anhygoel oddi ar gadael yr ysgol ramadeg yng Nghaerdydd, lle cafodd ei eni. Ers iddo ddilyn Dr. Robert Spence yn gyfarwyddwr y sefydliad yn Harwell, ni fu un munud yn llonydd yno. Ers i'r sefydliad ymchwil enwog gael ei sefydlu ar ôl y rhyfel diwethaf gan Syr John Cockroft, mae wedi bod yn enw cyfareddol drwy'r byd. Cofiaf yn dda am yr awyrgylch yno o dan arweinyddiaeth Syr John. Pwyslais ar ragoriaeth a roddwyd pryd hynny, heb gyfrif y gost. Credai Syr John bod lle i un sefydliad i roi cyfle i wyddonwyr ifanc disglair i ddilyn eu trwyn mewn ymchwil atomig, oherwydd, maes o law, byddai rhyw werth ymarferol yn siwr o ddilyn eu hymdrechion. Onid fel hyn oedd ynni niwclear wedi datblygu yn y lle cyntaf, drwy sylwadau yr Arglwydd Rutherford a Syr John ei hun tra yng nghelloedd dirgel Caergrawnt ? A thra yr oedd addewid am fathau newydd o fomiau, a phwerdai a fyddai'n cynhyrchu ynni yn ddi-ben-draw, yna 'roedd y llywodraeth yn ddigon parod i dalu'r gost, heb holi fawr am gyfeiriad y gwaith. Heidiodd cannoedd o bobl ifanc disglair yno o brifysgolion y wlad, lle y'u dyrchafwyd o fewn ychydig flynyddoedd i swyddi'n cynnig cyflogau mawr iawn. Credai pawb mai sefyllfa oedd hon a fyddai'n parhau am byth. Ond, wrth gwrs, fe ddaeth tro ar fyd. Siomedig fu datblygiad y pwerdai niwclear ac wedi cael digon o fomiau hidrogen mewn stôr, pa synnwyr oedd mewn gwario miliynau eto am fomiau mwy dinistriol? O hyn ymlaen y cludiant, nid y bomiau oedd yn allwedd i ddiogelwch neu safle flaenllaw vn y clwb niwclear. Er waethaf yr ymdrechion yn y sefydliad gerllaw Harwell, sef Wantage, a ideiladwyd i ddefnyddio ymbelydredd i ddibenion diwydiant, siomedig iawn fu'r canlyniadau. Yn wir, erbyn 1960, 'roedd y freuddwyd atomig wedi ei chwalu a'r llywodraeth yn dechrau atal ei "hymorth i'r maes. Ond dengys yr arafwch yng nghwtogiad Harwell mor anodd yw cyfieithu'r