Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

siomedigaeth yma i weithgarwch ymarferol. Llusgo 'mlaen wnaeth Harwell, gyda llawer yn cwyro am y gost ond neb yn gwneud dim. Aeth y sefydliad yn lle digalon iawn i weithio ynddo. Pallodd y fflam a oleuodd Syr John, a cheisiodd llawer adael i swyddi eraill. Ond erbyn hyn 'roedd prifysgolion hefyd yn dechrau llenwi a 'roedd gwyddonwyr Harwell, er yn gymharol ifanc o hyd, wedi prisio'u hunain allan o'r farchnad. Nid oedd modd iddynt ennill yr un cyflog y tu allan i ffens Harwell a r canlyniad oedd fod surni a difaterwch yn meddiannu'r lle. Dyma'r math o Ie a ddaeth i feddiant Walter Marshall, ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae wedi ceisio newid cyfeiriad y lle a dod â bywyd newydd iddo. Nid yw'r pwyslais ar ymchwil mwclear yn awr. Ceisio gwerthu y wybodaeth sydd wedi eu chasglu yn Harwell i ddiwydiant a wnaeth Walter Marshall. Ni ddaeth hyn yn hawdd i wyddonwyr pendefigaidd Harwell Yn lle rhoi arian i brifysgolion i wneud ymchwil ar eu rhan, 'roedd yn rhaid iddynt yn awr ymbil am gytundebau oddi wrth y colegau neu oddi wrth ddiwydiant. Yn naturiol ni chawsant y newid yma yn eu byd yn hawdd iawn, ac 'roedd yno gwyno mawr, wrth reswm. Cyfeiriwyd llawer o'r cwyno tuag at Walter Marshall ei hun, ond ni ddangosodd unrhyw arwydd ei fod yn sylwi Profodd yn berson ansensitif, dygn ac yn wir, creulon ar adegau. 'Roedd y drefn yn bwysicach na phersonau a sgubai wrthwynebiad gyda haerllugrwydd ac effeithiolrwydd. O un cyfeiriad, sef y llywodraeth a Wedgwood Benn yn arbennig, derbyniodd ganmoliaeth, ac o'r cyfeiriad arall, sef y gwyddonwyr druan, fe'i galwyd yn bopeth ond ei enw. Ni ellir dweud iddo lwyddo eto i wneud Harwell yn sefydliad sydd yn talu amdano'i hun o bell ffordd. Am y flwyddyn 1970 disgwylir gwario £ 4m. a derbyn y bumed rhan o hyn yn ôl mewn incwm. Yn ogystal, dadleua Marshall fod Harwell hefyd yn gwneud ymchwil i broblemau cym- deithasol na ellir disgwyl i neb dalu amdano, er enghraifft, i ddulliau newydd i leihau'r halogi cyson yn yr awyrgylch, gwaith sydd yn rhaid ei wneud gan rywun neu fe gawn i gyd ein gwenwyno. Gwir, wrth gwrs ond er huotled ei ddadleuon, fe erys y teimlad mai chwilio am athrawiaeth i fyw mae Harwell o hyd. Dinistriwyd sefydliad ymchwil rhagorol-dadleuai rhai y gorau o'i fath yn y byd-ac ail wampiwyd yr offer a'r dynion i geisio gwneud rhywbeth na fwriadwyd iddynt erioed ei wneud. Oni fyddai n well cau y lle os oedd yr angen amdano wedi darfod, ac ail ddechrau ar hyd llinellau arbennig ar gyfer problemau arbennig? Fe fydd yn rhaid aros yn hir eto am ateb i hyn. Y mae stori Harwell yn sicr yn dangos mor bwysig yw cael polisi cyson tuag at ymchwil wyddonol y llywodraeth. Y mae diwydiant yn ddigon pendant-rhaid talu am bob ymchwil o'r elw a wneir ac os nad oes elw, yna ni ellir cynnal yr ymchwil. Nid felly'r wladwriaeth, a gellir dadlau nad elw yw'r bwriad, ac na ddylai fod bob amser chwaith. Wedi'r cwbl, mae'n rhaid i rywun arloesi ac ymchwilio a datblygu ar raddfa eang er mwyn gwneud y llawn ddefnydd o'r ymchwil academig sydd hefyd yn cael ei noddi mewn prifysgolion gan y llywodraeth. Diddorol yw sylwi mai Cymro arall, ac eto yn un o blant Harwell yng nghyfnod Syr John Cockroft, ond un a ddihangodd bnfysgol sef Syr Brian Flowers, sydd yn awr yn rheoli'r Cyngor Ymchwil Gwyddonol prif gefnogydd ymchwil sylfaenol y wlad. Mae yntau hefyd llawn mor frwdfrydig yn lledaenu'r un neges a Walter Marshall. Rhaid edrych am gyfiawnhad diwydiannol i ymchwil Prifysgol. Fel canlyniad mae yntau yn wrthrych digon o feirniadaeth gan wyddonwyr. Efallai y bydd y wlad yn ddiolchgar i wizz-kids hyn rhyw dro, ond efallai hefyd y bydd eu brwdfrydedd i ennill canmoliaeth v gwleidyddion a'u sel i gwtogi ar ymchwil sylfaenol y wlad yn ergyd farwol yn y pen draw GLYN O. PHILLIPS