Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gymdeithas ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor Y Gymdeithas Wyddonol HEN drawiad erbyn hyn yw'r syniad bod gwyddon- iaeth a'r iaith Gymraeg yn elynion, neu o leiaf, ddim ar delerau da. Ond y gwir yw iddynt gyd- gerdded drwy'r canrifoedd er yr ymraniad a ddig- wyddodd yn gymharol ddiweddar. Er enghraifft, yn y llyfr ar Yr Aradr Gymreig, gan F. G. Payne, cewch ddarnau o farddoniaeth a ysgogwyd gan ddisgrifiadau technegol o'r teclyn hwn. I'r Cymro dyddiau gynt doedd dim bwlch rhwnggwyddoniaeth amaethyddol a'i fywyd beunyddiol. Yn ddiwedd- arach yn ein hanes fe godwyd diwydiant yn chwareli llechi'r gogledd a gynhyrchodd eirfa dechnegol ddigon i lenwi llyfryn arall gan Wasg y Brifysgol neu i symbylu awen bardd. Mae gwyddoniaeth yn rhan annatod o'n bywyd cyfoes ac mae'n amhosibl inni geisio ei hysgaru o'r iaith heb ganlyniadau difrifol i'r Gymraeg. Os ydyw hyn o bwys i'r cyhoedd yn gyffredinol mae'n hollbwysig i'r gwyddonydd proffesiynol, boed fyfyriwr, athro neu ymchwilydd amser-llawn. Gyda dysgu gwyddoniaeth yn ein hysgolion trwy gyfrwng yr iaith mae'n hollol ymarferol i ehangu'r maes er mwyn cyrraedd y bobl yma. Un ffurf a fabwysiadwyd gan y mudiad yw creu cymdeithasau gwyddonol cysylltiedig â'r colegau. Er enghraifft, fe ddechreuwyd cymdeithas o'r fath yn Aberystwyth ddwy flynedd yn ôl. Mae hon yn cynnal cyfarfodydd cyson lle clywir gwyddonwyr yn trafod eu gwahanol bynciau yn Gymraeg. Llwyddiant y fenter hon a ysbrydolodd gymdeithas gyffelyb yng Nghaerdydd eto gyda chysylltiadau agos â cholegau'r ardal. 'Roedd yn naturiol wedyn i aelodau'r cymdeith- asau hyn gwrdd â'i gilydd yn yr Eisteddfod ym Mangor eleni i ffurfio cymdeithas wyddonol i Gymru gyfan. Llogwyd 'Pabell Wyddonol' ar y maes er mwyn denu cyhoeddusrwydd ac i ar- ddangos rhai o weithgareddau'r cymdeithasau yn Aberystwyth a Chaerdydd. Ymysg yr eitemau i'w gweld toedd esiamplau o lyfrau gwyddonol, rhai o'r ddeunawfed ganrif ac eraill o'r ganrif hon, yn