Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Insulin 1921-71; hanner can mlynedd o waith ymchwil HANNER can mlynedd yn ôl, yn ystod haf 1921, daeth y byd i wybod am fodolaeth insulin, yr hormon sy'n atal y clefyd melys, diabetes mellitus. Gwnaed y darganfyddiad chwyldroadol yma gan ddau wr ifanc o Ganada-Frederick Grant Banting a Charles H. Best. Profasant yn ddiamheuaeth mai yn un o chwarennau'r corff, y pancreas, y cyn- hyrchid y sylwedd a allai ostwng y cyfartaledd uchel o glucos yng ngwaed dioddefwyr o'r clefyd melys. Credai gwyddonwyr eraill, ers peth amser, mai'r pancreas oedd yn gyfrifol am gynhyrchu'r sylwedd yma, er na lwyddodd neb i brofi'r ddamcaniaeth. Ond 'roedd Frederick Banting yn argyhoeddedig y gallai ddatrys y broblem, a chafodd gydweithiwr delfrydol yn Charles Best. Dewisasant weithio ar gwn, a dechreuasant drwy glymu y bibell a arweiniai J. HYWEL THOMAS Brodor o'r Hendy, Pontardulais, yw Hywel Thomas. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, L/anelli, a Choleg y Brifysgol, Ceardydd, lie graddiodd mewn Biocemeg. Yng Nghaerdydd hefyd y cafodd ei Ph.D. a bu am gyfnod yn dal Cymrodor- iaeth I.C.I. yno. Mae ar hyn 0 bryd yn ddarlithydd yn Adran Biocemeg, Ysgol Feddygol Ysbyty Sant Tomos, Llundain. Mae'r Dr. Thomas yn gefnogwr brwd i bopeth Cymraeg a chanddo ddiddordeb arbennig mewn cyflwyno gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Ymddangosodd peth o'i waith eisoes ar dudalennau Y GWYDDONYDD. Mae'n briod â Nesta Roberts, bioìegydd o Sir Fôn, sydd hefyd wedi cyfrannu erthyglau i'r GWYDDONYDD. o'r pancreas (y dwythell pancreatig). Dadleuent y byddai hyn yn gwneud i'r chwarren ddechrau maluno gan adael ar ôl yr ynysoedd Langerhans, y celloedd a oedd yn gyfrifol, yn eu barn hwy, am gynhyrchu insulin. Mewnsaethwyd sudd o'r cell- oedd arbennig yma i gwn yn dioddef o'r clefyd melys, a chafwyd nifer o ganlyniadau diddorol a phwysig. Gostyngwyd y lefel uchel o glucos yn y gwaed ar unwaith, a diflannodd nifer o arwyddion eraill, fel syched mawr, sy'n nodweddiadol o'r clefyd melys. Yn ogystal bu lleihad yn foliwm yr urin a gynhyrchid. Sylweddolodd Banting a Best y gallent wella'r clefyd melys mewn dyn yn awr, a dechreuasant neilltuo cymaint ag a allent o'r sylwedd a alwasant yn insulin (LIadin-insula, ynys). Cawsant gymorth cemegydd ifanc disglair o'r enw Collip yn y dasg yma, ac erbyn 1922 'roedd