Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ffìg. 3. Proinsulin mochyn. Cysylltir y ddwy gadwyn A a B gan gadwyn o 33 o asidau amino yn yr Unol Daleithiau. Mae'r ffaith iddo gael ei gynhyrchu fel hyn wedi rhoi lle arbennig i insulin ymhlith prodinau eraill. Dyma'r prodin cyntaf i gael ei adnabod fel hormon, y cyntaf i gael ei ffurf wedi'i disgrifio ac, yn olaf, yr un cyntaf i gael ei gynhyrchu mewn labordy. Tra 'roedd ffurfio'r cadwyni yn weddol syml, y broblem fwyaf wrth gynhyrchu insulin oedd eu pontio yn y modd priodol. Nid yw'r broblem yma'n codi yn y corff, gan nad yw'r pancreas yn cynhyrchu'r ddwy gadwyn ar wahân ond, yn hytrach, yn cynhyrchu un molecwl mawr ar ffurf un gadwyn-proinsulin. Yn hwn mae'r pontydd sylffur wedi'u gosod yn barod yn y mannau priodol. Troir y proinsulin yn insulin drwy dorri'r gadwyn gysylltu (gweler Ffigur 3). Rhaid aros i weld a fydd y darganfyddiad yma, a wnaed yn 1968, o help i gemegwyr organig yn eu gwaith o geisio cynhyrchu insulin. Mae'r broses yn dal yn gostus a chymhleth, er i R. B. Merrifield ddyfeisio proses awtomatig, ac fe gymer flynyddoedd eto cyn y gall insulin wedi'i gynhyrchu yn y labordy fod yn ddigon rhad i'w roi i gleifion. Daliwn i ddibynnu ar insulin o bancreas gwartheg a moch, ond mae'n ddefnyddiol fod gennym ffynhonnell arall petai'r cyflenwad presennol yn prinhau. Un fantais o ddefnyddio insulin synthetig yw y gall fod ar ffurf insulin dynol. Gwyddom fod insulin gwahanol anifeiliaid yn gwahaniacthu ychydig yn eu ffurf. Nid yw'r gwahaniaethau yma'n ddigon i effeithio ar weithrediad bywydegol insulin, ond golyga fod peth prodin estron yn cael ei gyf- lwyno i'r corff, sydd felly'n cynhyrchu antibodïau ar ei gyfer. Dangoswyd fod antibodïau insulin yng ngwaed cleifion a gafodd driniaeth gydag insulin anifeiliaid eraill. Fel arfer, nid yw'r antibodïau yma'n niweidiol, ond yn achlysurol gwnant y claf yn wrthiannol i insulin, ac mae hyn yn cymhlethu'r driniaeth. Effeithiau biocemegol Gwnaed astudiaethau manwl o weithrediad bywydegol insulin er pan ddarganfuwyd ef. Dangosodd Banting a Best ei fod yn cael effaith syfrdanol ar lefel y glucos yn y gwaed, a gwyddom fod yn rhaid i insulin fod yn bresennol cyn y gall nifer o organau yn cynnwys y cyhyrau a'r meinwe brasterog (ond nid yr ymennydd na'r afu) dderbyn glucos o'r gwaed. Os nad yw'r hormon yma i'w gael, mae lefel y glucos yn y gwaed yn para'n uche' a'r cyhyrau'n cael eu hamddifadu ohono. Mac cymaint o glucos yng ngwaed dioddefwyr o'r clefyd melys sydd heb fod dan driniaeth, fel ei foc