Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

n gorlifo i'r urin. Gwyddom hefyd fod gan insulin ;ffeithiau eraill, er enghraifft, mae'n symbylu ynthesis prodin ac yn atal torri i lawr braster. felly, pan nad oes insulin yn y corff, caiff unrhyw raster ei dorri i lawr yn gyflym, a newidir y jynnyrch (asidau brasterog) yn yr afu i roi ketonau. Mae cynhyrchiad y rhain yn un o'r agweddau mwyaf difrifol o'r clefyd melys gan eu bod yn asidau cryf a newidiant pH y corff. Os na reolir hwy, gallant achosi coma. Effaith insulin Er y gallwn egluro beth yw effaith insulin ar y corff, ni wyddom hyd sicrwydd fanylion y broses. Yr hypothesis gorau y gellir ei gynnig ar hyn o bryd yw fod insulin yn ymuno â philen nifer o wahanol fathau o gelloedd, ac yn newid ei ffurf mewn rhyw ffordd. Mae hyn wedyn yn galluogi'r celloedd yma i gymryd glucos i mewn. Yr hyn sy'n achosi'r clefyd melys yw nad oes insulin yn cyrraedd organau o'r corff ble mae'n angenrheidiol. Gall hyn ddigwydd mewn un o ddwy ffordd. Yn gyntaf, gall fod nam yng nghyn- hyrchiad a gollyngdod yr insulin o'r pancreas. Golygai hyn naill ai nad oes dim insulin yn cael ei ffurfio, neu mai ffurfiau diweithredol o'r hormon a gynhyrchir. Hefyd, mae'n bosibl na ryddheir yr insulin i'r gwaed. Yn ail, gall y diffyg insulin godi am fod rhyw ffactor yn bresennol yn y gwaed sy'n atal yr insulin rhag bod yn effeithiol. Tua deng mlynedd yn ôl dangosodd yr Athro J. Vallance- Owen (Cymro sy'n awr yn gweithio ym Melfast) fod ffactor o'r math yma yn gysylltiedig ag albumin gwaed pobl yn dioddef o'r clefyd melys. Ond, beth bynnag yw'r achos, mae diffyg insulin yn cael ei achosi'n rhannol gan nam genetig (gweler Y GWYDDONYDD, 4, 46). Felly, gellir etifeddu'r tueddiad i ddioddef o'r clefyd melys. Y clefyd melys Yn y cyswllt yma, mae'n ddiddorol sylwi fod un archwiliwr (Ashley (1967), J. Med. Genetics, 4, 274) wedi dangos fod cyfartaledd uwch o unigolion o dras Cymreig yn dioddef o'r clefyd melys yn ne-orllewin Cymru nag unigolion o dras arall yn yr un ardal. Teimla Ashley fod hyn yn bod o achos fod gwahaniaeth yng nghyfansoddiad genetig y ddau grwp o bobl, cyn belled ag y mae'r genynnau sy'n gyfrifol am achosi'r clefyd melys yn y cwestiwn. Y camau nesaf Mae'n ddiddorol meddwl beth fydd y cam nesaf yn nhriniaeth y clefyd melys. Yn sicr ni allwn feddwl am atal y clefyd yn y dyfodol agos, am ei fod yn cael ei etifeddu. Yn wir, mae'n bur debyg y daw mwy o gleifion i'r amlwg fel y gwellheir y dechneg o ddarganfod y gwaeledd. Soniodd Charles Best am ddau ddatblygiad diddorol pan ymwelodd â Llundain yn ddiweddar. Tynnodd ein sylw at y ffaith fod llaw-feddygon yn yr Unol Daleithiau wedi gosod pancreas newydd yng nghyrff pobl yn dioddef o'r clefyd melys. Gwnaed hyn gyntaf dros flwyddyn yn ôl ac mae'r driniaeth yn dal yn effeithiol. Soniodd Best yn ogystal am ddatblygiad yr hyn a elwir yn 'storfa insulin' -insulin nad yw'n toddi yn y corff ac sy'n dal i weithredu dros gyfnod o wythnosau a misoedd. Golyga hyn nad oes raid mewnsaethu insulin i'r claf yn ddyddiol. Pan ddarganfuwyd insulin gyntaf, cai ei dorri i lawr yn y corff mor gyflym fel fod angen sawl mewnsaethiad y dydd. Bu ffurfiau didawdd, hir-effeithiol o insulin ar gael ers blynyddoedd bellach, ond hyd yn oed wedyn 'roedd mewnsaethiad dyddiol yn angen- rheidiol. Felly, byddai datblygiad o 'storfa insulin' o werth aruthrol. Y ffordd ddelfrydol i roi insulin i'r claf fyddai trwy adael iddo ei lyncu, ond yn an- ffodus, torrir yr hormon i lawr mor gyflym gan y sudd yn y perfedd fel nad oes unrhyw obaith gweith- redu'n llwyddiannus fel hyn. Gwneir llawer o ymchwil y dyddiau yma i geisio darganfod ffordd o amddiffyn insulin rhag effaith y sudd yn y perfedd ac i sicrhau y caiff ei amsugno oddi yno i'r corff. Pe gellid gwneud hyn, golygai na fyddai angen mewnsaethu mwy a byddai'n gystal ag iachâd. Llwyddwyd i ddysgu llawer am insulin yn yr hanner can mlynedd er pan ddarganfuwyd ef gan Banting a Best, ond gwybodaeth am gemeg yr hormon sydd gennym gan mwyaf; ni fu dargan- fyddiad chwyldroadol yn nhriniaeth ac atal y clefyd melys. Er hyn, amcangyfrifir fod 130 miliwn o bobl drwy'r byd i gyd wedi cael budd o driniaeth gydag insulin yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Siawns nad yw hyn ynddo'i hun yn ddigon o symbyliad inni bara i ymchwilio mewn gobaith o allu atal y clefyd melys yn gyfangwbl.