Skip navigation

Y gwyddonydd

 - 

Cyf. 9, Rhif 4 Rhagfyr 1971

Insulin 1921-71 : hanner can mlynedd o waith ymchwil /

Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
n gorlifo i'r urin. Gwyddom hefyd fod gan insulin
;ffeithiau eraill, er enghraifft, mae'n symbylu
ynthesis prodin ac yn atal torri i lawr braster.
felly, pan nad oes insulin yn y corff, caiff unrhyw
raster ei dorri i lawr yn gyflym, a newidir y
jynnyrch (asidau brasterog) yn yr afu i roi ketonau.
Mae cynhyrchiad y rhain yn un o'r agweddau
mwyaf difrifol o'r clefyd melys gan eu bod yn
asidau cryf a newidiant pH y corff. Os na reolir
hwy, gallant achosi coma.
Effaith insulin
Er y gallwn egluro beth yw effaith insulin ar y
corff, ni wyddom hyd sicrwydd fanylion y broses.
Yr hypothesis gorau y gellir ei gynnig ar hyn o bryd
yw fod insulin yn ymuno â philen nifer o wahanol
fathau o gelloedd, ac yn newid ei ffurf mewn rhyw
ffordd. Mae hyn wedyn yn galluogi'r celloedd yma
i gymryd glucos i mewn.
Yr hyn sy'n achosi'r clefyd melys yw nad oes
insulin yn cyrraedd organau o'r corff ble mae'n
angenrheidiol. Gall hyn ddigwydd mewn un o
ddwy ffordd. Yn gyntaf, gall fod nam yng nghyn-
hyrchiad a gollyngdod yr insulin o'r pancreas.
Golygai hyn naill ai nad oes dim insulin yn cael ei
ffurfio, neu mai ffurfiau diweithredol o'r hormon
a gynhyrchir. Hefyd, mae'n bosibl na ryddheir yr
insulin i'r gwaed. Yn ail, gall y diffyg insulin godi
am fod rhyw ffactor yn bresennol yn y gwaed sy'n
atal yr insulin rhag bod yn effeithiol. Tua deng
mlynedd yn ôl dangosodd yr Athro J. Vallance-
Owen (Cymro sy'n awr yn gweithio ym Melfast)
fod ffactor o'r math yma yn gysylltiedig ag albumin
gwaed pobl yn dioddef o'r clefyd melys. Ond, beth
bynnag yw'r achos, mae diffyg insulin yn cael
ei achosi'n rhannol gan nam genetig (gweler
Y GWYDDONYDD, 4, 46). Felly, gellir etifeddu'r
tueddiad i ddioddef o'r clefyd melys.
Y clefyd melys
Yn y cyswllt yma, mae'n ddiddorol sylwi fod
un archwiliwr (Ashley (1967), J. Med. Genetics, 4,
274) wedi dangos fod cyfartaledd uwch o unigolion
o dras Cymreig yn dioddef o'r clefyd melys yn
ne-orllewin Cymru nag unigolion o dras arall yn
yr un ardal. Teimla Ashley fod hyn yn bod o achos
fod gwahaniaeth yng nghyfansoddiad genetig y
ddau grwp o bobl, cyn belled ag y mae'r genynnau
sy'n gyfrifol am achosi'r clefyd melys yn y cwestiwn.
Y camau nesaf
Mae'n ddiddorol meddwl beth fydd y cam nesaf
yn nhriniaeth y clefyd melys. Yn sicr ni allwn
feddwl am atal y clefyd yn y dyfodol agos, am ei fod
yn cael ei etifeddu. Yn wir, mae'n bur debyg y
daw mwy o gleifion i'r amlwg fel y gwellheir y
dechneg o ddarganfod y gwaeledd. Soniodd Charles
Best am ddau ddatblygiad diddorol pan ymwelodd
â Llundain yn ddiweddar. Tynnodd ein sylw at y
ffaith fod llaw-feddygon yn yr Unol Daleithiau
wedi gosod pancreas newydd yng nghyrff pobl yn
dioddef o'r clefyd melys. Gwnaed hyn gyntaf dros
flwyddyn yn ôl ac mae'r driniaeth yn dal yn
effeithiol. Soniodd Best yn ogystal am ddatblygiad
yr hyn a elwir yn 'storfa insulin' -insulin nad yw'n
toddi yn y corff ac sy'n dal i weithredu dros gyfnod
o wythnosau a misoedd. Golyga hyn nad oes raid
mewnsaethu insulin i'r claf yn ddyddiol. Pan
ddarganfuwyd insulin gyntaf, cai ei dorri i lawr yn
y corff mor gyflym fel fod angen sawl mewnsaethiad
y dydd. Bu ffurfiau didawdd, hir-effeithiol o insulin
ar gael ers blynyddoedd bellach, ond hyd yn oed
wedyn 'roedd mewnsaethiad dyddiol yn angen-
rheidiol. Felly, byddai datblygiad o 'storfa insulin' o
werth aruthrol. Y ffordd ddelfrydol i roi insulin i'r
claf fyddai trwy adael iddo ei lyncu, ond yn an-
ffodus, torrir yr hormon i lawr mor gyflym gan y
sudd yn y perfedd fel nad oes unrhyw obaith gweith-
redu'n llwyddiannus fel hyn. Gwneir llawer o
ymchwil y dyddiau yma i geisio darganfod ffordd
o amddiffyn insulin rhag effaith y sudd yn y perfedd
ac i sicrhau y caiff ei amsugno oddi yno i'r corff.
Pe gellid gwneud hyn, golygai na fyddai angen
mewnsaethu mwy a byddai'n gystal ag iachâd.
Llwyddwyd i ddysgu llawer am insulin yn yr
hanner can mlynedd er pan ddarganfuwyd ef gan
Banting a Best, ond gwybodaeth am gemeg yr
hormon sydd gennym gan mwyaf; ni fu dargan-
fyddiad chwyldroadol yn nhriniaeth ac atal y
clefyd melys. Er hyn, amcangyfrifir fod 130 miliwn
o bobl drwy'r byd i gyd wedi cael budd o driniaeth
gydag insulin yn ystod yr hanner can mlynedd
diwethaf. Siawns nad yw hyn ynddo'i hun yn
ddigon o symbyliad inni bara i ymchwilio mewn
gobaith o allu atal y clefyd melys yn gyfangwbl.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.