Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bywyd y Pryf Copyn MELFYN R. WILLIAMS MAE pob pryf cop yn deor o wyau bach hirgrwn sydd fel arfer o liw hufen neu felyn. Maent i gyd, o ddau i oddeutu mil ohonynt, wedi'u cynnwys mewn rhwydwe o sidan (cocoon). Mae'r amser a gymer yr wyau i ddeor yn dibynnu'n uniongyrchol ar dymheredd yr amgylchedd, a hefyd ar yr adeg o'r flwyddyn y cânt eu dodwy. Mae'r rhai sy'n cael eu dodwy yn y Gwanwyn yn deor ymhen tua tair wythnos ac wedyn ceir ail gnwd cyn diwedd y flwyddyn. Mae rhai rhywogaethau sydd ddim yn aeddfedu tan yr Hydref yn dodwy ar ddiwedd y flwyddyn ond nid ydynt yn datblygu tan y Gwanwyn. Mae'r oedolyn yn marw cyn gynted ag y mae'r wyau'n cael eu dodwy. Llun I. Pryf cop ifanc yn barod hedfan Mae'r rhai bychain yn union o ran eu golwg â'r oedolion, heblaw am eu maint, ac nid ydynt wedi datblygu'n rhywiol. Gelwir hwy yn y cyflwr hwn yn chwileren (nymph). Ar ddechrau'u hoes, ni fedrant symud na nyddu gwe, a'u hunig gynhaliaeth yw'r melynwy tra bônt tu mewn i'r rhwydwe. Gan nad yw'r croen yn 'rhoi' wrth iddynt dyfu, rhaid iddynt ei ddiosg amryw o weithiau cyn datblygu i'w llawn maint. Arhosant, felly, tu mewn i'r rhwydwe nes iddynt fwrw eu croen cyntaf. Wedyn maent yn torri trwodd ac yn gwasgaru oherwydd y duedd ynddynt i fwyta'i gilydd. Y dull mwyaf cyffredin o wasgaru yw nofio trwy'r awyr ar yr edau sidanaidd. Gelwir yr edau yma'n wawn (gossamer), ac mae'n bosib ei weld yn glir ar ddiwrnod teg (Llun 1). Mae'r pryf cop ifanc yn dringo i ben glaswelltyn ac yno y saif gyda'i abdomen ar i fyny i wynebu awel o wynt. Yna mae'n gollwng hylif sidanaidd sy'n cael ei gario ar yr awel ac mae hyn yn cynhyrchu tyniant sy'n caledu'r sidan i'w wneud fel lastig. Fel mae'r sidan yn cael ei ollwng mae'n mynd yn hwy a'r dynfa'n cryfhau nes o'r diwedd fe godir y copyn i'r awyr. Mae'n amlwg na ellir rheoli'r dull yma o wasgaru a thrwy hap yn unig mae hyd y siwrne'n cael ei benderfynu. Cofnodir yn ami bod pryfed cop yn glanio ar fwrdd llong a'u bod wedi teithio tua dau gan milltir o'r tir agosaf. Gelwir y teulu hwn yn Gopynnod y Gwawn. Yn ei gywydd i mis Mai, mae Robin Ddu, un o feirdd yr Uchelwyr, yn disgrifio'r mis fel hyn: Angel mwyn yng ngwely Mai O baradwys a'i brodiai. Gwawn yn aur, gwenyn eres, Gloynnod Duw, gleiniau tes. Carwriaeth y pryfed cop Mae safle'r gwryw yn ei garwriaeth â'r fenyw yn un sigledig, ac hefyd, peryglus tu hwnt, gan ei fod yn llai o lawer na'r fenyw, ac os nad yw hi'n hoffi'r berthynas mi geisia ei gorau glas i'w fwyta. Felly, rhag ofn digio'r fenyw rhaid i'r gwryw roi rhyw fath o arwydd iddi, i ddangos ei fod o'r un rhywogaeth.