Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymhlith y copynnod gwe, mae'r gwryw yn aml ■ n tynnu ymyl y we mewn ffordd arbennig i ysbysu ei bresenoldeb. Er bod dirgryniadau'n cael u cynhyrchu gan y gwryw, nid ydynt yn cyffroi'r >»nyw yn yr un modd ag y byddai gelyn yn ei .neud. Cyrcha'n araf a phwyllog ar hyd y we tuag ati, wedyn. Fel y crybwyllais eisoes, mae'r gwryw yn nyddu gwe fach ac yn gosod ei had semen arni. Yna, mae'n sugno'r cyfan i'r codennau bach ar flaen y pedipalp. Mae'r weithred o ffrwythloni wedi'i chyflawni pan esyd y gwryw flaen ei bedipalp yn organau cenhedlu'r fenyw a chwistrellu'r had i mewn. Yn ystod ei garwriaeth, yr unig beth sy'n mynd â bryd y gwryw druan, mae'n siwr, yw sut i ddadlwytho'i had yn y ffordd iawn fel y bo'n gadwedig ar ddiwedd yr ornest unochrog! Yn ystod Mai a Mehefin mae gwryw y rhywog- aeth Heoborus yn rhoi ei we heibio ac yn cychwyn ar daith i chwilio am gymar. Wedi darganfod gwe'r fenyw, mae'n gollwng edau arbennig ac yn mynd ati, wedyn, i ddenu'r fenyw ato drwy ddawnsio i fyny ac i lawr arni. Ymetyb hithau drwy wneud yr un peth ac yn raddol deuant yn nes at ei gilydd. Yn y man, mae hi'n cydio yn yr edau ac yn hongian wyneb i waered. Tra bo hi fel hyn, mae'r gwryw yn ymestyn ei bedipalp ac yn ei osod yn agoriad gwain y fenyw. I wneud yn siwr bod y palp yn aros ddigon hir i'w ffrwythloni, mae'n gafael yn dyn yn ei choes Dwy filimedr yw hyd y fenyw Oonops, ond mae'r gwryw yn llai o dipyn na hyn, a phinc i gyd yw lliw y ddau. Pan ddeuant wyneb yn wyneb, maent yn rhwbio coesau'i gilydd ac yn clecian eu chaelicerau. Os yw hi'n barod i dderbyn ei chymar serchog, mae'n gadael i'r gwryw ei thynnu ato gyda'i grafangau. Wedyn, gyda phlwc sydyn, mae'n ymlusgo odani ac yn gogwyddo'i phrosoma dros ei un ef ei hun. Yn y safle yma gall ei ffrwythloni. Mae carwriaeth Pisaura mirabi/is yn un diddorol tu hwnt gan fod y gwryw yn gorfod dal pryf i'w roi i'r fenyw fel anrheg, cyn y caiff gyfle o gwbl i'w ffrwythloni. Yna mae'n dal ei gorff yn unionsyth gan sicrhau fod yr anrheg rhyngddo a'r fenyw! Os yw hi'n barod i uno ag ef, fe symuda'n nes ac fel y rhydd ei chaelicerau yn y pryf, mae'r gwryw yn troi'n sydyn yn ei unfan fel y bo ar ei ben i lawr ac o dan ei chorff hi. Mae wedyn mewn safle gwerth chweil i'w ffrwythloni. Gall y weithred hon gymryd oddeutu awr, ac yn y cyfamser mae hi wrthi'n gloddesta ar y pryf, heb betruso llawer am beth sy'n digwydd iddi. Pan genfydd gwryw Atypus diwb y fenyw, mae'n ei daro'n gyflym gyda'i balpau a'i goesau dir- grynedig. Ond yn groes i'w harfer, nid yw'r fenyw yn symud o'i hunfan, felly mae'n rhaid bod y gwryw yn rhoi arwydd pwrpasol i sicrhau nad yw hi'n ei gamgymryd am ysglyfaeth. Ymhen ysbaid wedyn, mae e'n torri trwy'r wal ac yn ei ffrwythloni. Gan fod cymaint o wahanol fathau o bryfed cop a phob un gyda'i ddull dihafal ei hun o ffrwythloni'r fenyw, dim ond cyffwrdd â'r pwnc a wneuthum i yma. Defnyddioldeb y we Mae'r defnydd a roddwyd i'r we yn mynd yn ôl ganrifoedd lawer. Crybwyll llenorion Rhufeinig amryw ffyrdd o ddefnyddio'r we i atal gwaedlif. Mae Sais o'r enw Eleazar Albin (1736) yn gweith- redu hyn drwy guro gwe pryf cop gyda grifft llyffant, sychu'r cymysgedd ar blât piwter cyn ei ddefnyddio ar archoll neu'r trwyn. Sonia Evan Isaac yn ei lyfr Coelion Cymru (1938) fel y cyfarfu â dyn yn 1931 a ddefnyddiai'r we fel y Rhufeiniaid gynt, i 'atal gwaed o archoll'. Yn y Beibl mae sôn fel yr arbedwyd bywyd Dafydd oddi wrth Saul, drwy i bryf cop adeiladu gwe dros agoriad yr ogof lle'r oedd yn cuddio a pherswadio ei elynion na allai neb guddio tu draw iddi. Yn yr un modd y dihangodd Mohammed oddi wrth y Coreishites a oedd am ei waed. Eto Yoritomo-arwr o Japan yn y ddeuddegfed ganrif, a guddiodd tu mewn i foncyff gwag ac a achubwyd gan bryf cop mewn ffordd debyg. Coel gyffredin y werin oedd fod y we yn hin- fynegydd. Os oedd y pryf cop yng nghanol y we, neu pe byddai'r we'n cael ei hadeiladu ar ôl glaw, rhagfynegai hyn dywydd teg. Mae pryf cop y gwawn yn nyddu sidan ar fore heulog yn yr Hydref wedi noson llugoer a'r gweoedd wedyn, gyda'r copynnod, yn cael eu cario gan yr awel i bob man. Felly mae'n berffaith iawn cysylltu tywydd braf yn yr Hydref a dechrau'r Gaeaf â phryf cop y gwawn. Pan osodir haenau o weoedd ar ei gilydd, maent yn ffurfio defnydd sidan main tryloyw. Yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, paentiwyd amryw o luniau prydferth cain arnynt gan deulu o Innsbruck o'r enw Burgman. Mae un o'r rhain, sef y Forwyn Fair a'r plentyn, i'w weld heddiw yn Eglwys Gadeiriol Caer (Llun 2).