Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tynwyd y llun yma gan Mariner 7 a dengys ran o begwn deheuol Mawrth. Nid yw gwyddonwyr eto'n siwr ai haen o garbon diocsid a welir yn y llun neu haen o rhyw fodfedd o ddwr wedi rhewi filltiroedd ar hanner tro, ac ar linell syth o bellter o 160,000,000 o filltiroedd oddi wrth y ddaear. Pan ddaw'r Viking yn agos at Fawrth gall gorchymyn o'r ddaear danio rocedi arafu, gan roi'r llongau mewn cylch o amgylch y blaned. Bydd y ddwy yn chwilio am fannau tebygol i lanio, ac wedi cael hyd i un addas, gollyngir cerbyd glanio ysgafn ar barasiwt. Nid yw'r arbrofion wedi eu penderfynu eto ond yn sicr cynhwysir teclynnau i geisio darganfod unrhyw ffurf o fywyd ar Fawrth neu ei hamgylchedd. Bydd offer i astudio'r pridd yn angenrheidiol yn yr ymchwil yma am dystiolaeth o fodolaeth bywyd. Gall llaw fecanyddol godi samplau o'r pridd a'i ddosbarthu i dri mesurydd Swahanol i'w ddadansoddi. Bydd y wybodaeth a gesglir gan y ddwy Orbiter -leni yn dylanwadu ar yr arbrofion osodir i'r llong anio. Rhaid i'r rhain, fel y ddwy Viking, deithio nil gwaith y pellter rhwng y ddaear a'r lleuad, er od y ddwy blaned yn nes at ei gilydd eleni nag arfer. Eleni dônt o fewn 35,000,000 o filltiroedd at ei gilydd-yr agosaf iddynt fod ers 1924. Tynnu lluniau fydd pennaf waith y gyntaf o'r ddwy Orbiter, i gael darlun cyflawn o ran helaeth o'r wyneb. Gwaith yr ail fydd astudio nodweddion amgylchedd a wyneb y blaned. Anelir at gasglu gwybodaeth am bwysedd yr awyrgylch, dosbarthiad pwysedd a thymheredd, gwneuthuriad y wyneb, ei ddwysedd, a'i dymheredd. Yn ystod tri mis, gyda'r ddwy long yn gweithio, gobeithir astudio tua 70 y cant o wyneb Mawrth. Dechreuir yng nghyhydedd y De, gan weithio i fyny at gyhydedd y Gogledd. Rhoir camerau teledu yn y ddau deithydd i gael darluniau eang o'r wyneb yn ogystal â chamera gyda lens telephoto i roi mwy o fanylder yn y darlun. Uchelgeisiol, efallai, ond fe fydd yn debyg o ateb yr amheuon a fu yn ein poeni cyhyd am ein cymydog planedol agosaf yn y greadigaeth. RHIAIN M. PHILLIPS