Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

c tytuno â'u hagwedd ambell dro, yn union fel y rethais gytuno â phwyntiau a wnaed gan aelodau c r staff, ond ar rai o'r troeon hyn fe fûm yn barod, a,- ôl ail-ystyried, i dderbyn eu safbwynt. 'Rwy'n s cr y byddai cynrychiolwyr y myfyrwyr yr un mor larod i gyfaddef nad oedd yr ateb cywir ganddyn' nhw bob tro ar y cynnig cyntaf. Ond y pwyntiau perthnasol yw hyn: bod trafodaeth mewn pwyll- gorau'n chwarae rhan fuddiol yn eu haddysg, fod hyn yn hybu cyd-ddealltwriaeth, ac yn tueddu i arwain at benderfyniadau sy'n fwy cymeradwy i bawb. Gan mai hanfod prifysgol yw cynnal y safonau uchaf posibl o addysg ac ymchwil mewn awyrgylch o ryddid, mae'n iawn i'r athrawon a'r ymchwilwyr gael y gair olaf ar bolisi academig. Ond y mae yr un mor iawn i ystyried barn y myfyr- wyr wrth ffurfio'r penderfyniadau hyn, ac fe welwn yn glir pa mor fuddiol yw ein trefniant ni o gael cynrychiolwyr y myfyrwyr ar y mwyafrif o bwyll- gorau'r Coleg, gyda'r hawl i fynychu'r Senedd pan drafodir materion yno sy'n ymwneud yn arbennig â'r myfyrwyr. Wrth ystyried peirianwaith y Coleg, mae'n hawdd iawn cyfyngu'n sylw i'r staff academig hyn, ac i'r myfyrwyr, ac y mae'n bwysig peidio â diystyru'r staff academig iau, a'r staff anacademig. Mae'r naill yn dwyn y baich academig trymaf a'r llall yn gyfrifol am drefniadaeth hwylus, ac am awyrgylch dda a chydweithrediad llawn. Mae'n dda iawn gen i, felly, fod trefniant iddyn nhw gael llais ym mheirianwaith y Coleg a'i bod yn bosibl ymestyn hyn, er enghraifft, drwy gyfarfodydd â'r undebau llafur priodol. 'Dyw hyn oll ddim yn golygu nad oes lle i gymhwyso peirianwaith mewnol y Coleg i raddau pellach. Mae'n bwysig archwilio'r posibiliadau o symleiddio trefniadaeth bresennol y Coleg sy'n ymrannu'n gyfadrannau, adrannau, a grwpiau o bynciau, ac i osgoi'r perygl bod rhai o'r prif gyrff awdurdodol yn mynd yn rhy fawr i allu bod yn effeithiol. Rhaid cofio hefyd y gall trefniadau anffurfiol i gyfnewid syniadau fod yn llawn cyn bwysiced â'r peirianwaith ffurfiol. Ofnaf weithiau fod yna berygl i'r gwahanol garfannau o fewn y Coleg-y staff academig hyn, y staff academig iau, y rhai anacademig, a'r myfyrwyr, ddatblygu'n grwpiau ar wahân, pob un â'i gyfleusterau ciniawa a chymdeithasu, a phob un yn gweithredu fel plaid annibynnol ar bwyllgorau. Fe fyddai hynny'n gwbl groes i ddelfryd y Coleg fel cymuned (yn union fel y duedd ymhlith aelodau adrannau i gyfyngu eu hunain i'w pwnc heb gymysgu ag aelodau adrannau eraill) ac fe ddylid ei atal ar bob cyfrif. Pwysig iawn, hefyd, yn y sefyllfa gyfoes, yw'r berthynas rhwng prifysgolion a'r Llywodraeth, a rhwng y prifysgolion a'r cyhoedd. Mae'r ddwy elfen hon yn mynd law yn llaw gan fod pob llywodraeth yn ymglywed â barn y cyhoedd ac yn awyddus i osgoi polisïau a fyddai'n wrthun i'r etholwyr, onid oes rhesymau pendant i'r gwrthwyneb. Mae llawer iawn o fewn i brifysgolion, yn ddi-os, yn poeni'n fawr ynghylch dibyniaeth lled lwyr y prifysgclion ar gyllid y wlad, a'r duedd gynyddol i'r Llywodraeth ymyrryd â materion prifysgol. 'Rwyf i fy hun yn ymwybodol o'r pryder hwn, er i mi fod (neu efallai am i mi fod) yn was sifil. Fe ymddengys agwedd y Llywodraeth at gyllid prifysgolion yn bur debyg i'w hagwedd at gyllid awdurdodau lleol; ar y naill law, gwrthodir i awdurdodau lleol yr hawl i ddatblygu dulliau o godi arian eu hunain, gyda'r canlyniad eu bod yn mynd i ddibynnu fwyfwy ar y Wladwriaeth, ac ar y llaw arall fe ddefnyddir diffyg adnoddau'r awdurdodau lleol fel dadl dros beidio â rhoi cyfrifoldebau ychwanegol iddynt a thros dynnu oddi wrthynt rai o'r cyfrifoldebau a oedd ganddynt eisoes. A'r un modd ag y cynyddodd rheolaeth ganolog Llundain dros fanylwaith yr awdurdodau lleol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, felly hefyd y gellir canfod mwy a mwy o reolaeth ganolog fanwl dros y prifysgolion (er y gwneir hyn yn anuniongyrchol drwy Bwyllgor Grantiau'r Prifysgolion yn hytrach nag yn uniongyrchol drwy'r Adran Addysg a Gwyddoniaeth). Yn achos y prifysgolion, fel gyda'r awdurdodau lleol, gall ymestyn y rheol- aeth ganolog wanhau annibyniaeth a'r ymdeimlad o gyfrifoldeb ar raddfa leol, a lleihau'r awydd i weithio ac i ddatblygu er sicrhau economi a chymdeithas fywiog a blaengar. Wrth ystyried sut i wrthweithio'r tueddiadau hyn (ac fe ddylid gwneud hynny, mi gredaf), rhaid i'r prifysgolion sicrhau eu bod yn ennill a chadw cefnogaeth y cyhoedd. Byddai'n ormod disgwyl i'r rheiny sy'n derbyn symiau anferth o arian y cyhoedd ar gyfer addysg ac ymchwil gael yr hawl i drin yr arian hwn fel pe bai hynny yn fater preifat iddyn nhw fel academyddion. Ac ni all myfyrwyr chwaith gymryd yn ganiataol bod ar yr awdurdod addysg ddyletswydd moesol i'w cynnal mewn prifysgol, unwaith y byddant wedi pasio'r lefel 'A', beth bynnag fo'u safon a'u cynnydd neu eu hymddygiad cyffredinol. Y mae ffafr y cyhoedd, a'u cynrychiolwyr sy'n gwarchod pwrs y wlad, yn hanfodol i'r brifysgol fel cymuned, a mater i bawb ohonom o fewn i'r gymuned yw ennill a chadw'r