Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Debygwn i 0. E. Roberts 'ROEDDWN i yn Istanbwl ar fy ngwyliau eleni ac yn yr hen ymrysonfa yno, yr Hipodrom, y mae colofn y cerfiwyd arni ddwy neidr gordeddog. Cludwyd hi gan Gystennin i Fysantiwm gynt o Delffi ond mewn cyfnod o ddryllio delwau, tua'r unfed ganrif ar bymtheg, diflannodd pennau'r seirff. Ar hyd y canrifoedd derbyniwyd dau symbol yn arwyddion gan feddygon. Y naill yw ffon â sarff yn ei dringo, sef pastwn Aescwlapiws, a'r llall yw ffon hud (Caduceus) y duw Mercher â dwy sarff o'i chwmpas, y rheini'n wynebu ei gilydd. Yn ôl yr hen chwedl, y duw-feddyg Apolo, hebryngwr bywyd, a'i rhoddodd i Fercher pan benodwyd hwnnw yn gyfryngwr rhwng dyn a'r duwiau, y ffon yn gangen o olewydd, i arwyddo heddwch. Cludai Mercher hi gydag ef bob amser. Yn y llun cyffredin o'r ffon honno y mae dwy adain ar ei phen, y rheini'n arwyddo cyflymder y cennad, a dynoda'r seirff y doethineb a roddwyd iddo. Yn yr hen chwedlau Groegaidd duw iachâd oedd Asclepios (enw a newidiodd y Rhufeiniaid yn Aesculapius), mab y duw Apolo a Choronis, merch Brenin Thesali. Daeth haneswyr i'w ystyried yn Dad Meddygaeth. Dywed hen stori bod Aescwlapiws yn eistedd mewn pabell, yn archwilio claf o'r enw Glawcws, pan ymlusgodd sarff i mewn a dringo'r ffon a oedd ganddo a thrwy hynny rywsut rhoddodd ddoeth- ineb i'r ffisigwr. Mewn adroddiad arall, yr oedd Glawcws yn farw pan ddaeth y sarff i mewn. Lladdodd Aescwlapiws hi â'i bastwn ond daeth un arall i mewn a rhoi llysiau yng ngenau'r sarff gyntaf. Adferwyd hi. Yna defnyddiodd y meddyg yr un llysiau i ail-fywhau Glawcws. Mae'n bosibl bod Aescwlapiws yn ddyn gwirion- eddol, yn feddyg enwog yng ngwlad Thesali yn y bumed ganrif cyn Crist. Dyrchafwyd ef yn dduw wedi iddo farw, megis y gwna Eglwys Rhufain saint o wyr amlwg yr eglwys gynt. Wedi iddo ym- SAFBWYNT PERSONOL AR WYDDONIAETH HEDDIW Sarff ar drostan sefydlu'n feddyg yn Epidawros cyrchodd miloedd ato am wellhad a bu yntau mor llwyddiannus nes i bobl edrych arno fel hanner duw o leiaf. Aeth cenhedlaethau diweddarach i gredu mai duw ydoedd a chodwyd teml iddo. Daeth y fangre yn enwog yn hanes meddygaeth ac y mae yno heddiw olion nifer o hen demlau ac allorau ac adeiladau a fu, mae'n debyg, yn fannau i drin cleifion. Ymysg yr adfeilion mae gwesty i gleifion gerllaw ffynnon wyrthiol a phwll yn ymyl a thri o furiau ynddo, yn cylchredeg o amgylch ei gilydd, rhyw labyrinth o Ie i gadw seirff santaidd. Er y credir nad oedd y nadroedd hwyrach yn rhai gwenwynig, mae'n debyg bod eu gweld yn ddigon o ddychryn i ambell un, therapi modern seiciatreg gyntefig. Am ryw reswm rhyfedd daethpwyd i ystyried y neidr fel symbol o iachâd ac estyniad hyd bywyd, yn ogystal â doethineb, er mai creadur ystrywgar a welodd awdur Genesis yng Ngardd Eden. Mae'n debyg mai'r ffaith bod y neidr yn bwrw'i chroen wrth dyfu a roddodd y syniad ei bod yn adnewyddu ei hieuenctid a dyna'r cysylltiad ag estyniad oes. Er ystyried y sarff yn elynol i ddyn ac yn gyfrwng marwolaeth, rhoddwyd iddi barchedig ofn hefyd a thybiwyd bod iddi elfennau goruwchnaturiol. Rhoddwyd iddi le amlwg ym mywyd a chrefydd pobl ar hyd y canrifoedd ac ar hyd a lled y byd— ym Mabilon 4000 c.c. a Chreta, ymysg pobl India a'r Indiaid Cochion, yng ngwallt Medea yng Ngroeg a phenwisg Ra ac Osiris yn yr Aifft. 'Roedd ymysg duwiau'r Astec a phobl y Dwyrain Pell. Bu'r ddraig yn symbol i Tseina a Chymru. Rhoddwyd lle amlwg iddi yn y Beibl. 'A gwnaeth Moses sarff bres ac a'i gosododd ar drostan, yna os brathai sarff wr ac edrych ohono ef ar y sarff bres. byw fyddai' (Numeri 21, 9). Honno a ddinistriodd Hesecia yn ei sêl dros ddileu eilunaddoliaeth: 'Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd ac a ddryll- iodd y delwau ac a dorrodd y llwyni ac a faluriodd