Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau Ar Archaeoleg Diwydiannol II. Gwaith Allanol (1) YN hanes y diwydiant haearn yn Ne Cymru, 1760 hyd 1850 oedd cyfnod y tyfiant ac fel y datblygai cyrhaeddwyd cynnyrch uchel. Ar rimyn ogleddol y maes glo sylfaenwyd dros ugain o weithfeydd sylweddol mewn byr amser a bu tyfiant eithriadol ar rai ohonynt. Dros nifer o flynyddoedd, rhwydd oedd eu hynt-mwyn haearn yn agos at wyneb y y tir, digonedd o lo at gynhyrchu cols glo, cyflenwad helaeth o garreg calch a oedd bellach yn cael ei ddefnyddio fel fflycs yn y broses toddi a charreg adeiladu briodol i godi'r ffwrneisi a'r adeiladau a oedd yn gysylltiedig â hwy. Cofier hefyd am gyfraniad pwysig y peiriant ager i'r cynnydd mawr a hefyd am yr haearn gyr a ddilynodd ddarganfyddiad y broses pwdlo gan Henry Cort ac a fu'n gyfrifol am y cynnyrch eithriadol mewn haearn gorffenedig yn ystod chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan mor niferus ydoedd y gweithfeydd, rhesymol ydyw disgwyl gweld bod nifer o'u safleoedd yn tystio i weithgareddau'r gorffennol trwy adeiladau sydd eto'n cael eu defnyddio, adeiladau maluriedig ac ambell wrthrych a fu'n rhan o ryw broses neu gilydd. Felly mae hi ar fangreoedd hen weithfeydd haearn Dowlais, Cyfarthfa ac Ynysfach, Blaenafon, Hirwaun ac Ynyscedwyn (ger Ystradgynlais), enwau cyfarwydd bob un. Ceir yr un dystiolaeth ar safleoedd heb fod mor enwog, megis Cefn Cribwr, Banwen Pyrddin a Stepaside. Mae'n dilyn felly bod digon o gyfle i waith allanol ar safleoedd yr hen weithfeydd haearn. Nid anfuddiol yn awr, efallai, fyddai ychydig o sylwadau ac awgrymiadau ymarferol ar waith allanol er mai braidd yn elfennol ydyw rhai ohonynt hwyrach ar yr olwg gyntaf. Misoedd gorau'r gwaith allanol ydyw rheiny rhwng yr hydref a diwedd y gwanwyn. Golyga hyn wynebu ar dywydd anffafriol yn aml er mwyn manteisio ar brinder y tyfiant naturioI-mae hwnnw, wrth gwrs, bellach wedi cuddio nifer o bethau diddorol a phwysig. Mae synnwyr felly mewn gwisgo'n briodol ac i sicrhau pâr o 'sgidiau cryf a phâr o 'sgidiau rwber yn ogystal. Soniwyd eisoes am fapiau; mae llyfr i wneud nodiadau a brasluniau yn eitem hynod D. MORGAN REES bwysig yn y darpar, ynghyd â chamera, defnyddiau mesur hir a byr hefyd, bwyell fechan, morthwyl, caib, rhaw, het galed os mentrir i lefelau, ysbien- ddrych a chwmpawd i ddangos cyfeiriad. Er mwyn rhoddi amcan o faint, uchder a lled mae polion mesur yn bwysig pan dynnir llun, ond os nad ydynt ar gael mae rhoi person i sefyll mewn man priodol yn llawn mor effeithiol pan mae'r ffoto- graffydd yn edrych am gymhariaeth. Nid anodd ydyw meistroli'r dechneg o fesur ac archwilio adeiladau a thir er mwyn cyfarfod â gofynion archaeoleg diwydiannol, ac yn ddi- eithriad bron mae un â phrofiad ohono yn aelod o gymdeithas neu ddosbarth sydd yn amcanu tuag at gofnodiad manwl o safle gwaith. Mae llyfrau ar dechneg ffotograffig ar gael, ond trwy brofiad yn y maes yma daw gwelliant parod. Gorsymleiddio, efallai, ydyw crybwyll bod tri chategori yma- lluniau du a gwyn, lluniau lliw a'r rhai sy'n dryloyw, a ffilmiau, er hynny mae'r tri yn hanfodol i'r astudiaeth. Mae ffilmiau, wrth reswm, yn hynod o bwysig pan fo galw am recordio symudiadau dynion a pheiriannau cyn iddynt beidio. Mae'n debyg mai un o'r egwyddorion pwysig mewn gwaith allanol ydyw edrych am yr hyn sydd yn gymharol rhwng un safle a'r llall yn yr un diwydiant. Ceir enghreifftiau aml o hyn yn y diwydiant haearn, ond nid digon ydyw yr hyn sy'n weladwy, mae gofyn am ryw gymaint o wybodaeth ar wneuthuriad yr haearn bwrw i ddechrau. Cyn cyfnod y cynhyrchu mawr, ffwrneisi bychain oedd yn gweithredu yng Nghymru o ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae'r olion sydd wedi parhau hyd heddiw yn awgrymu mai adeiladau sgwâr, rhyw 12 i 15 troedfedd o uchder, wedi eu gwneud o gerrig oeddynt, pob un yn glynu wrth lechwedd yn y tir er hyrwyddo llwytho'r defnydd crai (mwyn haearn a golosg) trwy ben agored simdde fer y ffwrnais a defnyddio llwyfan paratoi, yn o gyfuwch a thu ôl i Iwyfan llwytho y ffwrnais. Gan mai hanner toriad sydd rhan amlaf ar ôl erbyn hyn, sylweddolir mai yn wreiddiol siambr gron oedd calon y ffwrnais (siafft oedd enw arall arniì, yn lledu o'i gwaelod i fyny tuag at ei chanol a