Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llun 6. Adeilad yr Efail heddiw 'roedd defnydd crai arbennig a alwyd yn haearn osmond yn dod o'r efail uchaf ac o efeiliau y tu allan i'r ardal-ac yr oedd honno hefyd yn defnyddio'r dwr a redai i lawr y cwm. Ar hyn o bryd yn Nhyndyrn mae adeilad (SO 529002) a fu, mae'n bur debyg, yn efail ar un adeg. Dyma gyfle i gym- haru hen engrafiad, ag iddo wrthrychau gwreiddiol yn perthyn i'r adeilad, a'r hyn sydd yn ymaros yn yr adeilad heddiw. Yn Llun 5, llun o engrafiad T. Hearne o Efail yn Nhyndyrn, dyddiedig tua 1800, gwelir dwy olwyn ddwr a dwy simdde fer a phlât haearn ar ben bob un i'w symud i fyny neu i lawr yn ôl y gofynion am wres i danau'r efail. Nid oes sôn am y cafnau dwr yn arwain at ben yr olwyn fawr na chwaith at yr un llai, ond diddorol ydyw sylwi ar fwndel o rodenni, haearn mae'n debyg, a'r iau-pwyso a phwysau ar y llawr i'r chwith o'r llun. Mae gwahaniaeth mawr rhwng Llun 5 a Llun 6, yn enwedig ym maint yr adeilad presennol, y ffenestri a diflaniad yr olwynion, ond gwelir hefyd debygrwydd elfennol. Mae'n amlwg bod olwynion dwr wedi eu defnyddio yma ar ôl cyfnod yr efail gyntaf. Gwyddom i'r rhedfa dwr droi'n fforch wrth nesáu tuag at yr adeilad yma ac mae gweddillion olwyn ddwr yn parhau i aros yr ochr arall i'r adeilad (Llun 7). Mae i'r ardal hon hanes hynod am gynhyrchu haearn. Ffasiynol tua diwedd y ddeunawfed ganrif ydoedd teithiau trwy rhannau o Gymru i'w dilyn gan Iyfrau yn cynnwys engrafiadau. Yn 1782 'roedd sôn am 'bwniadau di-ddiwedd morthwylion gefeiliau' yn yr ardal hon, ac eto ym mis Awst 1797 Llun 7. Olion olwyn-ddwr ar ochr arall yr Efail, Mai 1971 y Parchedig Richard Warner yn sôn am 'efail haearn fawr, gyferbyn â'r ystyfell ymha le y lletywn, un ymhlith nifer a oedd yn gweithio ddydd a nos'. Rhyfedd y cysylltiad rhwng clerigwr o'r ddeunawfed ganrif a gwaith allanol mewn diwydiant archaeol- egol yn y dyddiau presennol. Gyferbyn â'r gwesty sydd yn wynebu Abaty Tyndyrn mae cymysgedd rhyfedd o sylfeini adeiladau, un wedi dilyn y llall mae'n debyg. Safant o flaen y gwesty presennol ac efallai yr un y bu Warner yn aros ynddo. Yn eu plith gwelir olion rhedfeydd dwr a nifer fach o byllau a fu efallai yn y dyddiau gynt yn cynnwys olwynion dwr i yrru morthwylion gefail ac efallai fegin ffwrnais. Yn ddiweddar iawn yn y fan hon cafwyd aml ddarn o slag haearn yn cynnwys golosg, a darn o haearn. Mae criw o dan gyfarwyddyd Arolygwr Henebion o Adran yr Amgylchedd, yn gweithio yma'n gyson. Disgrifiwyd y darn haearn hwn gan arbenigwr, wedi iddo ei archwilio'n fanwl, fel darn o haearn bwrw gwyn o safon uchel iawn ac yn nodweddiadol o haearn a gynhyrchwyd yng Nghoedwig Dean mewn ffwrnais golosg a dyddiad fel 1700 A.D. heb fod o le. Golyga hyn fasnach rhwng ffwrneisi y Goedwig a gefeiliau ardal Tyndyrn yn ystod y ddeunawfed ganrif. Nid bwriad gwreiddiol yr erthygl hon ydoedd cyplysu gwaith allanol â diwydiant haearn golosg mewn ardal arbennig yn unig, ond gobeithir bod un neu ddau o bethau defnyddiol wedi ymddangos. Symudir ymlaen yn yr erthygl nesaf at flynyddoedd diweddarach yn hanes gweithfeydd haearn a'r manylion sydd yn dod i'r golwg trwy waith allanol yn eu plith.