Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymraniad Celloedd Ganwyd yr awdur yn Llundain yn 1944 ond symudodd i Eifionnydd pan oedd yn chwe mlwydd oed. Cafodd ei addysg yn Ysgol Eifionnydd, Porthmadog, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd mewn Sŵoleg ac ennill ei Ph.D. yn 1969. Mae ar hyn o bryd yn Cymrodor Ymchwil gydag Uned Bywyd y Gell yn yr Adran Swoleg ac yng ngofal Uned Meicrosgôp Electron yr Adran. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys dringo mynyddoedd a ffotograffiaeth. GwYBODAETH gyffredinol i bob plentyn heddiw yw'r ffaith y cyfansoddir bron pob ffurf ar fywyd gan gelloedd, rhai o'r ffurfiau mwyaf syml yn un gell, eraill megis dyn yn filiynau lawer o gelloedd. Ffurf ar gell unigol yw wy a ddatblyga, ar ôl ei ffrwythloni, yn anifail aml-gellog drwy ymraniad y gell yn ddwy ran, ac yna y ddwy yn bedair a'r bedair yn wyth ac yn y blaen hyd nes ceir, ar ôl aildrefnu sylweddol, anifail llawn dwf. Pan gyrhaedda anifail ei lawn faint peidia'r broses o rannu celloedd, ond lle bo angen ail- gynhyrchu celloedd mewn rhannau arbennig o'r corff. Un o nodweddion y cyflwr a elwir yn ganser yw'r ffaith fod celloedd yn ymrannu'n ddilywod- raeth, ac yn colli'r gallu gludiol rhyngddynt â chelloedd eraill. O'r herwydd ymleda'r celloedd annormal drwy'r corff gan ymledaenu'r nodwedd- ion sydd ganddynt ar yr un pryd. Mewn termau cyffredinol gellir dweud fod dwy brif ran i gell, sef y cnewyllyn, lle y ceir y defnydd genetig, a'r gweddill a elwir yn seitoplasm. Y mae ymddangosiad y gwerthyd mitotig, sydd yn gyfrifol am rannu cynnwys y cnewyllyn, yn adnabyddus erbyn hyn gyda'i ffurf ffibraidd. Yn ystod y broses a elwir mitosis rhanna'r gwerthyd hon y chromo- somau a dosbarthu'r haneri i begynnau'r gell (gweler Ffig. 1). Ni sylweddolir, efallai, bod y broses a ddilyna mitosis, sef rhannu'r seitoplasm, yn weithred hollol ar wahân, ac fe gyfeirir at hyn fel ymraniad. Y mae ceisio deall peirianwaith y broses hon wedi peri gwaith sylweddol a dadlau brwd ers blynyddoedd lawer, ac nid yw natur y weithred wedi ei sefydlu yn iawn hyd heddiw. Un o'r adegau mwyaf cyfleus i astudio ymraniad yw yn ystod rhaniad cyntaf wy ar ôl iddo gael ei ffrwythloni. Disgrifiwyd hyn yn wreiddiol gan Prevost a Dumas yn 18245. Ar yr un pryd nid oedd hyd yn oed ddamcaniaeth y gell wedi ei chynnig, ac y mae'n debyg nad oedd y gwyddonwyr cynnar hyn yn sylweddoli arwyddocâd eu harsylliad. IOLO AP GWYNN Bu llawer yn ymddiddori yn y pwnc yma yn ystod y dyddiau cynnar, gyda syniadau diddorol yn cael eu cynnig i geisio egluro'r hyn a welwyd. Yn 1855 cyflwynodd Remak8 'gynllun' ar gyfer rhaniad celloedd. Rhan o'r 'cynllun' hwn oedd yr arsylliad fod cnewyllyn y gell yn diflannu o flaen rhaniad, mewn celloedd planhigion ac anifeiliaid. Credwyd ar y pryd fod diflaniad y cnewyllyn yn hanfodol i raniad y gell, i ailymddangos o'r newydd yn y merchgelloedd. Pan ddatblygwyd sylweddau sefydlogi a staenio (e.e. asid asetig, asid osmig, carmîn), yn ddiweddarach, canfuwyd mai newid ffurf a ddigwyddai i'r cnewyllyn ac nid diflaniad. Rhwng 1870 a 1940 bu ymchwilio helaeth i'r maes hwn gyda damcaniaethau cymhleth yn ymddangos yn awgrymu fod ymraniad yn digwydd drwy briodoli grymau trydanol, magnetig a mecan- yddol i'r gwerthyd mitotig, fel y gallo'r fframwaith hwnnw mewn rhyw ffordd rannu'r seitoplasm. Yn 1940 cyflwynodd Beams ac Evans2 ganlyn- iadau arwyddocaol iawn yn dangos ei bod yn bosibl i seitoplasm cell ymrannu heb fod y gwerthyd mitotig i'w gael, hynny yw, ar ôl ei ddifetha mewn ffordd arbennig. Dilynwyd y gwaith hwn gan ragor megis eiddo Swann a Mitchison yn 195312 a Hiramoto yn 19563 yn dangos tu hwnt i bob amheuaeth nad oedd gan y gwerthyd mitotig unrhyw gysylltiad uniongyrchol â'r broses o rannu seitoplasm y gell. Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf gwnaed llawer o waith arbrofol ar wyau, yn bennaf gan astudio'r rhaniad cyntaf. Cyfleustra yw'r prif reswm dros ddefnyddio wyau ar gyfer astudiaethau o'r fath, gan eu bod yn un gell o ran cyfansoddiad, fel y bo astudio un gell ar ei phen ei hun yn llawer haws na cheisio astudio celloedd unigol sydd yn rhan o feinwe. Un o brif anfanteision astudiaeth o' fath hon yw'r ffaith mai cell anarferol yw wy, y enwedig o ran maint, felly rhaid bod yn ofalus iaw)