Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rermau Technegol [Mae y Dr. Aled Rhys Wiliam, Cyfarwyddwr Adran Clywedeg Prifysgol Salford, a chyn gyfieithydd newyddion y B.B.C., wedi arloesi llawer gyda bathu termau technegol ar gyfer y radio a'r teledu. Cyhoeddwn yma ei sylwadau ar yr egwyddorion sydd tu ôl i'w ddewis o'r termau a rhai enghreifftiau o'i waith.-GoL.] I.gwyddor sylfaenol Y GWYDDONYDD yw ei ymlyniad wrth yr iaith Gymraeg, a'r gred mai prin y bydd gobaith amdani oni chaiff ei defnyddio tu allan i'r capel a'r gegin; mae'n rhan o'r gyffes ffydd fodern fod rhaid iddi ennill ei lle yn y labordy a'r gweithdy ac ym mha le bynnag y bo angen cyfathrebu. Gan fod llawer o Gymry heddiw yn gyfarwydd â gwaith teledu, er enghraifft, ac yn ennill eu tamaid drwyddo, mae'n hen bryd inni ddechrau trafod y grefft hon trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond sut y gellir gwneud hynny heb eirfa bwrpasol ? Mae i bob crefft ei phriod ieithwedd, ac mae gan y Saeson eirfa arbennig ar gyfer teledu: cymysgedd o dermau hen a newydd, cynefin a dieithr, ond addas at eu pwrpas. Nid felly yn achos y Gymraeg. Rhaid dechrau o'r dechrau, trwy fathu neu fenthyca neu gymhwyso geiriau. A'r cwestiwn cyntaf i'w ateb yw cwestiwn yr egwyddor: pa fath o eirfa sydd eisiau? Geiriau bath neu rai benthyg? 1 ba raddau y dylid ceisio llunio termau Cymraeg yn hytrach na benthyca a chymreigio rhai Saesneg? Pa faint gwell yw dweud heddgeidwad na dweud plismon? Pwy sydd i farnu pa bryd y gellir cyd- nabod ac arddel gair benthyg, a pha bryd y bydd angen bathu gair newydd, neu gyfaddasu neu gymhwyso hen ymadrodd? Onid oes rhai geiriau 'cydwladol' sy'n dderbyniol ymhob iaith? Onid iawn yw arddel y termau hynny sy wedi ennill eu plwy ac sy'n gydnabyddedig tu hwnt i'r wlad hon? Gwir mai trwy arferiad y daw gair yn gyffredin ac yn gydnabyddedig, ond faint o arfer sydd eisiau? A beth os bydd mwy nag un ymadrodd yn cael eu harfer gan wahanol siaradwyr? 'Television', medd rhai; 'telefisiwn', medd eraill; dyna'r un gair mewn dwy iaith. Mae 'teledu' ar y llaw arall, yn air newydd sbon: bathiad yw hwn, ar batrwm 'darlledu', a'r elfennau 'tele' a 'lledu' wedi'u cywasgu at ei gilydd (yn hytrach na dweud tde-ledu). Er mor boblogaidd yw'r geiryn tele- yn y Vyd sydd ohoni, nid yw hwn wedi llwyddo ymhob g vlad: er mai rhyw ffurf neu'i gilydd ar 'television' a glywir yn Ffrainc a'r Eidal ac Iwerddon a F irydain, eto i gyd Fernseh a ddywedir yn yr ALED RHYS WILIAM Almaen. Amhosib plesio pawb. Ofer cwyno nad bathiad rheolaidd-gywir yw teledu-mae'r gair wedi'i dderbyn, ac wedi ennill ei blwy. Ond pwy wyr pam yr arddelwyd hwn yn hytrach na'r llu o fathiadau eraill a gynigiwyd pan ddaeth y peth i fod gyntaf? Nid hawdd yw penderfynu sut mae dewis geirfa. Hyfryd o beth fyddai gallu dweud 'Dyma'r llyfr egwyddorion; dilynwch y rheolau'. Ond nid oes neb yn hollol gyson; 'heb ei fai, heb ei eni'. Gan hynny, ni fedrwn fwy na dewis rhestr o dermau ac ymadroddion sy'n ymddangos yn rhai cymeradwy, a gobeithio y gwêl eraill eu bod yn dderbyniol. Mater o chwaeth, wedi'r cyfan, yw pob 'safon' mewn gramadeg yn ogystal a llên. Er hyn i gyd nid mympwy pur, ychwaith, sy'n dweud bod rhagor rhwng gair a'i gilydd. Gellir nodi rhai canllawiau go ddiogel wrth lunio termau newydd: (1) Ofer bathu gair Cymraeg os bydd gair benthyg o'r Saesneg eisoes wedi ennill ei blwy. Pwy sy'n mynd i drafferthu i ddweud 'oriawr' yn lle 'watsh'? Mae'n rhy hwyr. 'Watshus' sy gan bawb erbyn hyn. (2) Ofer disgwyl i'r Cymro ddefnyddio'r gair Cymraeg os bydd hwnnw ddwy neu dair sillaf yn fwy na'r gair cyfatebol yn Saesneg: os bydd angen sôn am speeds, prin y bydd neb yn dweud 'cyflymderau'. Dyw 'gweinyddesau' ddim yn debyg o ddisodli 'nyrsus', chwaith. (3) Ofer cymreigio os bydd y trosiad yn ymddangos yn un dieithr neu annaturiol. Dyw Bi Bi Ec ddim gwell na Bi Bi Si: os oes rhaid cymreigio, sonier am yr 'EG-EDD-BI' (y Gor- fforaeth Ddarlledu Brydeinig). Dyw 'di-wifr' ddim yn ddisgrifiad o'r radio mwy nag yw Wireless. (4) Ofer trosi Saesneg gwael i Gymraeg gwael. Os na ddeallaf skin-diving yn Saesneg, fydda'i ddim callach o gael cyfieithiad llythrennol o hynny. Fe wyr y cyfarwydd ffasiynol beth yw hot pants-ond prin y deallai neb ystyr 'trowsusau poethion'. (5) Ofer ceisio disodli termau cydwladol cydnabyddedig. Tywyllu cyngor fyddai mynnu