Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Ar Ffiniau Meddygaeth, gan Emyr Wyn Jones. Gwasg Gee. Pris: £ 1-25. Cynnwys y llyfr un ysgrif ar ddeg ar deitlau gwasgarog ond sydd, yn ôl yr awdur, â chyfeiriad at feddygaeth mewn rhyw agwedd neu'i gilydd ym mhob un. Anuniongyrchol hwyrach yw y cyfeiriad hwn mewn pedair ohonynt, sef y gyntaf-anerchiad draddodwyd gan yr awdur i'w hen ysgol-a'r dair olaf, un ar Tom Nefyn, anerchiad arall oddi ar y Maen Llog yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno ac anerchiad a draddodwyd ganddo fel Llywydd y dydd yn Eisteddfod Caernarfon. Mae dwy bennod arall, un ar archwilio'r galon a'r llall ar draws- blannu meddygol sydd, nid yn gymaint ar y ffin ond yn hytrach ar ganol llwyfan meddygaeth gyfoes. Dwyn y penodau eraill y teitlau-Hugh Owen Thomas, gwr o dras, canmlwyddiant geni Syr Robert Jones, Crefydd a meddygaeth, Ar ffiniau meddygaeth ac yn olaf Y Bywydegwr a'i Gymdeithas. Yn naturiol iawn mae atgofion yn cael lle amlwg yn anerchiad yr awdur i'w hen ysgol-Ysgol Ramadeg Caernarfon, ond ceir ynddi hefyd anogaeth ddoeth a da i'r disgyblion presennol i fanteisio ar y cyfle i wneud eu rhan i hyrwyddo anrhydedd yr ysgol ac i gymwyso eu hunain i dderbyn cyfrifoldeb llawn fel aelodau o gym- deithas. Er mor adeiladol sylwadau fel hyn, dichon y myn rhai fod yr awdur wedi syrthio cryn dipyn oddi wrth ras yn y bennod hon pan yn mynegi ingoedd ei enaid fel hen giciwr ymroddedig y bêl gron, o sylweddoli fod y bêl hirgron bellach gyda'i 'Seremonîau paganaidd a chyntefig' yn cael ei swcro yn ei hen ysgol Stori ramantus un o gyfraniadau pwysicaf Cymru i feddygaeth a geir yn y ddwy bennod nesaf sef hanes Hugh Owen Thomas a'i nai, Syr Robert Jones. Olrheinir achau Thomas. Perthynai i'r bedwaredd genhedlaeth o feddygon esgyrn enwog Môn a'r cyntaf ohonynt i ennill gradd feddygol. 'Roedd ei dad, Evan Thomas, yn feddyg esgyrn annhrwyddedig ond hynod lwyddiannus yn Lerpwl a chawn fod aelodau o deulu'r Dug Westminster a'r Gladstones yn ogystal â llawer o wledydd tramor ymhlith ei gleifion. Ef oedd gwrthrych y ddrama The Bonesetter of Crosshall Street, a ysgrif- enwyd yn gymharol ddiweddar. Sylweddolodd Hugh Owen Thomas fod dulliau ei dad o drin esgyrn yn rhagori yn fawr ar yr hyn a welodd yn y canolfannau meddygol y bu ef ei hun yn astudio ynddynt-Caeredin, Llundain a Pharis. Ymrodd- odd i gymwyso a helaethu rhain gan lunio splintiaL yn ei weithdy ei hun ar gyfer llawer toriad mewn asgwrn. Dylanwadodd yr egwyddorion sylfaenol o drin esgyrn a sefydlwyd ganddo yn fawr ar gwrs llawfeddygol orthopedig gan ennill iddo y teitl answyddogol 'The Father of Orthopaedic Surgery'. Er iddo gyhoeddi cryn dipyn o'i waith ei hunan, ei ewythr, Syr Robert Jones, fu yn gyfrifol am ddod a'i waith i sylw y byd meddygol a thrwy ei allu gweinyddol eithriadol ef fel Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf y cymhellwyd yr awdurdodau milwrol i ddefnyddio splint Thomas ar gyfer toriad yn asgwrn y glun. Arbedodd hyn bedwar milwr allan o bob pump a ddioddefodd yr anaf hwn, oedd yn gyffredin ar faes y gad, pryd 'roedd pedwar allan o bob pump yn marw ohono cyn defnyddio'r splint. Ar wahân i ledaenu gwaith ei ewythr a'i egnïon gweinyddol fel prif drefnydd meddygol pan y torrwyd camlas o Lerpwl i Fanceinion ac yn ddiweddarach, fel Llawfeddyg Orthopedig Ym- gynghorol y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, nodir tri chyfraniad pwysig arall o eiddo Syr Robert Jones. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio pelydrau-X ym Mhrydain, a hynny ymhen ychydig wythnosau ar ôl eu darganfod gan Roentgen yn 1895. Trwy gydweithrediad â Dame Agnes Hunt sefydlodd Ysbyty Orthopedig enwog Gobowen ac ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf darparodd gynllun cenedlaethol -y cyntaf o'i fath­i roi triniaeth i bob plentyn a enid yn gloff neu yn fusgrell ym Mhrydain. Dwy ysgrif wedi eu hysgrifennu gyda Dr. Glyn Penrhyn Jones ar grefydd a meddygaeth a geir yn y bennod nesaf. Cawn fod y cysylltiad agos fu rhyngddynt ar hyd y canrifoedd yn tarddu o hen ddamcaniaeth yr ysbryd aflan fel achos afiechyd. Yr offeiriad felly oedd y gwr cymwys i ryddhau'r corff o afael yr ysbrydion hyn. Hippocrates oedd y cyntaf i sylweddoli mai diffyg cydbwysedd mewnol rhwng elfennau hanfodol y corff oedd afiechyd a bod lle hefyd i'r hyn a alwn ni yn foddion meddyliol ac ysbrydol. Pwysleisir yr un athrawiaeth yn nysgeidiaeth Crist fod dyn yn undod o gorff, meddwl ac ysbryd ac ar sail y ddysgeidiaeth hon y sefydlodd Ei Eglwys, a'i hysbytai yng ngwledydci cred drwy'r canol oesoedd. Ffynnodd y meddyg- offeiriad am ganrifoedd, a chawn restr o weinidog ion yng Nghymru yn ystod yr ail ganrif ar bymthe� a'r ddeunawfed ganrif a oedd hefyd yn ffisigwyr i'v deiliaid, a Hywel Harris yn ei plith.