Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Wanderings of a Biochemist, gan Fritz Lipmann. Cyhoeddwyd gan Wiley-Interscience. Efrog Newydd a Llundain, 1971. Pris: ;(4.25. Bu trafodaeth ddiddorol yn nhudalennau'r cylchgrawn Chemistry in Britain yn ddiweddar ar y modd y cyflenwa ATP (adenosin triffosffad) egni i adweithiau'r corff. Yn ôl biocemegwyr mae ATP yn cynnwys yr hyn a alwant yn fondïau ffosffad `llawn egni', a dadleuir mai'r egni sydd ynghlwm yn y bondïau yma sy'n gwneud gwaith yn bosibl yn y corff; gwaith megis ymdynhad y cyhyrau a symudiadau y coluddion. Ond yn ôl ambell i gemegwr ffisegol, mae'r syniad yma am weithrediad ATP yn rhy syml, ac yn wir, yn anghywir. Beth bynnag am hyn, mae'r ddamcaniaeth o fondïau ffosffad 'llawn egni' yn un ddefnyddiol dros ben i esbonio trawsffurfiadau egni yn y corff. Y gwr a greodd y syniad yma yw Fritz Lipmann, un o fiocemegwyr amlycaf y byd heddiw ac enillydd Gwobr Nobel mewn meddygaeth yn 1953. Yn ei lyfr Wanderings of a Biochemist cawn hanes ei fywyd fel gwyddonydd. Iddew a anwyd yn yr Almaen yw Lipmann ac yno y graddiodd mewn meddygaeth. Ond yn fuan wedi graddio sylwedd- olodd nad oedd wedi'i alw i fod yn feddyg, ac o dipyn i beth dechreuodd ymddiddori yn y pwnc newydd o fiocemeg. Cafodd brentisiaeth drwyadl mewn cemeg a biocemeg, a bu'n gweithio gyda gwyddonwyr amlwg fel Meyerhof, Fischer a Lohmann. Nid oedd yr Almaen yn adeg y Natsïaid yn lle diogel i Iddew ac yn 1939 aeth Lipmann i weithio yn yr Unol Daleithiau. Yno y gwnaeth y rhan fwyaf o'i waith ymchwil. Priodolir i Lipmann nifer o ddarganfyddiadau pwysig ym maes Biocemeg. Dangosodd, er eng- hraifft, fod angen y corff am fitaminau yn deillio o'r ffaith fod y rhain yn gweithredu yn y celloedd fel co-ensymau mewn adweithiau metabolig. Lipmann, yn arbennig, a brofodd fod fitamin Bi yn angen- rheidiol i alluogi'r corff i ddefnyddio carbohidrad fel bwyd, ac ef hefyd a ddangosodd bod y fitamin asid pantothenic yn rhan hanfodol o co-ensym A. Cyn i'r corff allu defnyddio'r asidau brasterog a geir yn ein bywyd, rhaid eu cyplysu â co-ensym A. Pwrpas y cysylltiad yma yw 'ysgogi' yr asidau brasterog, a thrwy hyn ei gwneud hi'n bosibl iddynt gymryd rhan mewn adweithiau metabolig. Mae'r broses yma o 'ysgogi' sylweddau cemegol yn y corff yn hanfodol i fywyd, a dangosodd Lipmann sut yr ysgogir sylffad, amonia a deuocsid caibon cyn eu defnyddio yn y corff. Mae Lipmann hefyd wedi ychwanegu llawer at ein gwybodaeth o'r broses o ffurfio prodinau gan facteria ac anifeiliaic ac mae'n dal i weithio yn y maes arbennig yma. Ni ellir disgrifio'r llyfr yma fel hunangofiant y yr ystyr gonfensiynol; yn wir, ychydig iawn o hanes bywyd personol yr awdur a geir. Yn hytrach, ysgrifenna Lipmann am ei waith fel biocemegydd; disgrifia y llwyddiant a'r siomedigaethau a ddaeth i'w ran. Rhydd gipolwg hynod ddiddorol ar ei ffordd o feddwl drwy ddisgrifio sut y daeth i gynllunio ac i weithredu yr arbrofion a'i galluogodd i ffurfio ei syniadau biocemegol. Mae'r llyfr yn syrthio yn naturiol i ddwy ran. Yn y rhan gyntaf ceir disgrifiad, ar ffurf hunan- gofiant, o waith gwyddonol Lipmann. Yn yr ail ran ceir gasgliad o'i draethodau pwysicaf. Pwysleisia Lipmann iddo ddewis y traethodau yma er mwyn dangos sut yr arweiniodd ei waith arbrofol at ddatblygiad ei syniadau. Mae'r traethodau yn ymdrin yn gyffredinol, yn hytrach nag yn fanwl, â phynciau dewisiedig ac fe fydd yn werth i unrhyw un sydd am ddysgu am gysylltiad hanfodol egni â bywyd eu darllen. Ceir priodas dda rhwng y cofiant a'r traethodau ac ychwanega hyn at werth y llyfr. J. HYWEL THOMAS (Adran Biocemeg, Ysgol Feddygol Ysbyty Sant Tomas, Llundain) Living with the Computer. Golygwyd gan Basil de Ferranti. Gwasg Rhydychen, 1971. Pris: 90c. Yn yr oes bresennol mae dylanwad y cyfrifiadur wedi dod yn amlwg iawn, ac yn ôl pob tebyg bydd y dylanwad hwn yn cynyddu mwy byth. Priodol felly yw i Wasg Rhydychen ddwyn allan y llyfr hwn yn ei chyfres Science and Engineering Policy. Mae yn y llyfr hwn naw o ysgrifau gan wahanol awduron ar destunau amrywiol megis y Cartref, y Gyfraith a Diwydiant. Un diben cyfrifiaduron yw gwneud y cyfrifiadau anferth sy'n ymddangos mewn ymchwil gwydd- onol. Cyfeirir, er enghraifft, gan Dr. J. Howlett, o'r Labordy Atlas, at yr arbrofion mewn ffiseg niwclear lle mae'r cyfrifiadau yn cymryd 20 eiliad ar y cyfrifiadur; mae gwaith i ddeg mil o ddynion am flwyddyn os gwneir rhain gyda pheiriannau cyfrif llaw. Y prif ddiben arall yw trafod, casglu a chadw gwybodaeth. Trafodir y peryglon a all godi pan fydd manylion dynion ar gadw mewn cyfrifiaduron, a'r posibiliadau o anonestrwydd y rhai sy'n gyfrifi am raglenni'r cyfrifiaduron, ac mae E. F. Schoeter yn yr erthygl ar ddiwydiant, yn cyfeirio at osodia i Lecklader nad oes modd dyfeisio rhaglenni i gyfrifiaduron sydd cymaint â'r un sy'n rheoli r