Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jcedi 'Mike-X'. Teimlaf y buasai mwy o drafod- eth ar faterion fel hyn yn werthfawr. Hefyd gan 3d y llyfr wedi'i ysgrifennu gan y rhai sydd â iddordeb proffesiynol mewn cyfrifiaduron, mae'r mdriniaeth braidd yn optimistaidd ac unochrog. ^iá oes nemor ddim sôn am yr anawsterau a all effeithio, mewn ffordd annymunol, ar bobl ddiniwed pan fydd y cyfrifiadur yn gwneud camgymeriad. Nid oes amheuaeth fod y cyfrifiadur yn medru bod o gymorth mawr gyda rhai cyfrifiadau. Y cwestiwn mawr, a phrin y'i crybwyllir yma yw'r amheuaeth sydd ynglyn ag angen rhai o'r cyfrifiadau. Yr erthygl fwyaf ddiddorol yw'r un gan y golygydd sy'n trafod y cyfraniad y gall gwyddor cyfrifiaduron rhoi i'n gwybodaeth o natur y ffordd mae'r corff dynol yn gweithio. Amcangyfrifir bod can miliwn miliwn o gyfrifiaduron yn yr ymennydd. Rhoddir geirfa ar y diwedd o rai o'r termau mwyaf cyffredin yn y maes (er na chynhwysir y gair 'real-time' sy'n ymddangos mor aml mewn hysbys- iadau). Fy nheimlad i yw, er fod y llyfr hwn yn eithaf diddorol, nad yw'n foddhaol. Teimlaf fod yr ysgrifau braidd yn fyr, heb i'r awduron gael digon o ofod i drafod eu pynciau, ac nad oes fawr o gysylltiad rhwng yr erthyglau. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: F. LLEWELLYN-JONES, c.b.e., M.A., D.PHIL., D.SC., F.INST.P. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffi. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg ac Eigioneg. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol; Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. LL.G.C. Technology Today. Golygwyd gan Edward de Bono. Routledge a Kegan Paul, 1971. Tud. 144. Pris: clawr meddal 50c. Pum ysgrif yn gosod gwahanol safbwyntiau ar Dechnoleg Heddiw ydyw cynnwys y llyfryn hwn. Ymchwiliwr meddygol ydyw de Bono ond y mae wedi ymddiddori yn helaeth yn y ddawn greadigol, yn enwedig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae ganddo syniadau pendant a gwreiddiol ar y gwahaniaeth rhwng y naill a'r llall sy'n werth eu darllen ac awgrymiadau pryfoclyd ar ddiffygion addysg wyddonol bur. Gan Syr Frederick Warner, llywydd Ffederasiwn Peirianwyr Ewrop, cawn agwedd bersonol y technolegydd diwylliedig at ei waith a'i yrfa, a chan William Gunston ysgrif burion ar thema sydd bellach yn lled gyfarwydd: Technoleg a Pharhad yr Hil Ddynol. Dylanwad technoleg ar gynllunio cymdeithasol ydyw testun Colin Leicester a dylanwad datblygiadau tech- nolegol ar ein cymdeithas ydyw pwnc yr ysgrif olaf gan Ronald Anderton; ceir apendics digon buddiol ar gyrsiau technolegol i fyfyrwyr. Dyma gasgliad digon amserol a chytbwys; nid ydyw'n or-hyderus am y dyfodol ond nid ydyw'n besimistaidd chwaith. Nid oes yma ddim byd newydd iawn­ prin y gellid disgwyl gweledigaeth fawr mewn clawr papur, ond mae yma ddigon i feddwl amdano ac y mae'r pris yn dra rhesymol. i.w.w.