Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERTAWE Gyda thwf y Coleg i rhyw dair mil a hanner o efrydwyr daeth amser i rannu'r baich gweinyddol ar ben y mwdwl. Penderfynodd Cyngor y Coleg ethol tri dirprwy-brifathro i helpu'r Prifathro F. Llewellyn-Jones gyda gwein- yddu cymdeithas sydd erbyn hyn yn rhyw chwe mil o bobl â chynnwys y myfyrwyr ymchwil, y staff academaidd a'r staff gweinyddol hefyd. Penodwyd yr Athro W. G. V. Balchin yn ddirprwy- brifathro gyda'r cyfrifoldeb dros y gweinyddu cyffredinol a'r Athro T. J. Morgan fel dirprwy-brifathro gyda chyfrifoldeb dros faterion academaidd. Daw y cyfrifoldeb am faterion ynglyn â myfyrwyr o dan adain yr Athro W. Gosling. Gyda ymadawiad yr Athro Hassall mae'r adran Gemeg wedi cael gwedd newidiad. Pennaeth newydd yr adran yw'r Athro Howard Purnell, Deon y gyfadran Wyddoniaeth Bur, a oedd eisoes yn Athro Cemeg Ffisegol yn yr adran. Ar wahân i hyn mae wedi bod yn flwyddyn bwysig i'r Athro Purnell oherwydd cyhoeddwyd yn ystod yr haf ei fod wedi ennill Medal Aur Beilby. Rhoddir y fedal ynghyd â gwobr o gan punt gan Sefydliad Brenhinol y Cemeg- wyr, Cymdeithas y Diwydiant Cemegol a Sefydliad y Metelau am waith cread- igol o safon uchel dros gyfnod o flynyddoedd ym myd egwyddorion gwyddonol. Derbyn yr Athro Purnell y Fedal Aur am ei ymchwil i adfeiliad hidrocarbonau pan y'u twymir, ac am ei gyfraniad i ddatblygiad cromato- graffeg nwyol. Bydd yn derbyn ei Fedal mewn cynhadledd ym Manceinion ym mis Ebrill, a Chymro arall, sef Syr Ewart Jones, Prifysgol Rhydychen, fydd yn cyflwyno'r wobr iddo. Penodwyd Dr. Andrew Pelter o Brif- ysgol Manceinion i fod yn Athro Cemeg Organig. Graddiodd yr Athro Pelter ym Mhrifysgol Bryste a chafodd radd doethor yno yn 1956. Wedi blwyddyn gyda chwmni I.C.I. symudodd i'r Unol Daleithiau i weithio yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Meddygol. Penodwyd ef yn ddarlithydd mewn cemeg ym Manceinion yn 1962 ac yn 1967 fe'i gwnaed yn uwch- ddarlithydd. Prif feysydd ymchwil yr Athro Pelter yw agweddau ar gemegau'n cynnwys boron a charbon, a chynhyrch- ion naturiol o wahanol blanhigion. Nodiadau o'r Colegau Mae'r Athro T. J. Murto, o Brifysgol Helsinki, yn treulio'r Tymor Mihangel gyda grwp ymchwil ar spectorscopeg yr is-goch o dan gyfarwyddyd Dr. Harri Hallam. Cafodd peth o ymchwil yr adran Gemeg gyhoeddusrwydd yn y papurau lleol ac ar y radio yn ddiweddar. Canlyniad oedd hyn i bapur a gyhoedd- odd Dr. J. A. Ballantine a Dr. R. F. Curtis yn y cylchgrawn gwyddonol Nature, ar gyfansoddiad cemegau a gynhyrchir yn ystod 'tymor poeth' benyw y mwnci Rhesus. Mae'r cyn- hyrchion hyn, a elwir yn phenomonau, yn effeithiol iawn fel cyffroion rhywiol i wryw'r mwnci sydd o fewn taflad yr arogl. Drwy ddefnyddio techneg spectroscopeg modern profwyd mai cymysgedd o bump asid organig syml, yn cynnwys asid asetig (un o gyfansodd- ion finegr) ac asid biwtyrig (sy'n gyfrifol am arogl ymenyn wedi suro). Arogl bur annymunol rwy'n siwr i'r byd dynol- pob lwc i'r mwnci, wrth gwrs! Mae'r ymchwil i'r phenomonau rhywiol ym myd y mwnci yn codi'r cwestiwn a oes yna rhywbeth tebyg yn cael ei gyn- hyrchu mewn bodau dynol-os ydyw cemegau fel hyn yn gwneud rhyw waith anymwybodol, yna gwell meddwl ddwy- waith cyn chwistrellu arnom bêraroglau masnachol y byd cyfoes. Ymchwil arall ac iddo ddefnydd cymdeithasol yw'r gwaith a wneir yn yr adran Lysieueg o dan gyfarwyddyd Mr. Gordon Goodman. Prif egwyddor yr ymchwil yw darganfod crynhoad elfennau metelau gan fwswgl sy'n arbennig o dda am grynhoi elfennau fel plwm neu sine. Os tyfir y mwswgl mewn gwahanol ardaloedd gellir cymharu'r crynhoad o'r metelau ac yna efallai gael argraff o'r llygriad gan yr elfennau yn yr ardaloedd hyn. Mae yna bosiblrwydd wrth gwrs nad yw effaith yr elfennau hyn ar ddyn ac anifail yn dilyn yn union- gyrchol o gyfartaledd yr elfennau sydd yn y tir lie y tyfa'r mwswgl. Serch hynny, mae'r canlyniadau a gasglwyd gan Mr. Goodman a'i dîm ymchwil yn Nyffryn Tawe wedi bod yn ddigon syfr- danol i gyffroi'r Weinyddiaeth Iechyd i wneud arolwg meddygol i effaith llygriad gan elfennau metelau ar iechyd y trigolion. Mae Mr. Goodman yn un o arloeswyr yr ymchwil ar lygriad gan fetelau a mae wedi bod yn y maes hwn ers rhai blynyddoedd. Heddiw mae llygriad yr amgylchfyd wedi dod yn bwnc pwysig i'n cymdeithas-digon pwysig yn wir ddenu Mr. Goodman i gadair newydd ym Mhrifysgol Llundain y flwyddyn nesaf. Mae dwy adran yn y Coleg yn derbyn cymorth ariannol oddi wrth y Gorffor- aeth Genedlaethol at Ddatblygu Ym- chwil. Mae'r Gorfforaeth yn cefnogi ymchwil yr Athro A. R. E. Singer (Adran Feteleg) i ffordd newydd o gynhyrchu lleiniau metel. Mae'r ffordd newydd yma'n gwneud i ffwrdd â chastio mewn ingot ac yna rolio'r metel twym. Chwistrellu'r metel toddedig mewn awyrgylch diynni yw'r egwyddor newydd ac yna gweithio'r gwaddod twym mewn un gweithred. Ymchwil ar dechnoleg ensimau yn yr adran Beirianneg gemegol yw'r gwaith arall a gefnogir gan y Gorfforaeth. Mae Dr. Atkinson a'i dîm ymchwil yn yr adran honno yn ymchwilio, i effaith clymu'r ensimau wrth gyfansoddion fel cellulose, ac i'r defnydd â ellir ei wneud o hyn mewn diwydiant. Llongyfarchwn Mr. Dewi Z. Phillips ar ei benodiad yn Athro Athroniaeth yn y Coleg. Mae'n gyn-fyfyriwr o'r adran a thros dro bu'n bennaeth arni ers pan fu farw y diweddar Athro J. R. Jones. Ni fydd y swydd felly yn hollol newydd iddo. Erbyn hyn mae'n swyddogol gywir i longyfarch Athro Athroniaeth yn Y GWYDDONYDD oherwydd mae cwrs blwyddyn gyntaf mewn athroniaeth i'w gael yn awr yn y gyfadran Wyddonol. Cymro hefyd yw pennaeth newydd yr adran Addysg, sef yr Athro D. J. Pritchard a oedd yn uwch-ddarlithydd mewn addysg ym Mhrifysgol Lerpwl cyn ei benodi i'r swydd yn Abertawe. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Normal. Bangor, ac yng Ngholeg y Brifysgol. Aberystwyth. Cyhoeddwyd gan y Cyngor fod y darlithwyr canlynol wedi eu gwneud yn uwch-ddarlithwyr: Dr. J. A. Ballantine (Cemeg), Dr. P. R. Hooper (Daeareg). Dr. R. A. E. Tilney-Bassett (Geneteg) a Dr. W. G. Townsend (Peirianneg Trydanol).