Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASG PRIFYSGOL CYMRU TERMAU LLYWODRAETH LEOL, IECHYD CYHOEDDUS Dyma'r llyfryn diweddaraf yn y gyfres o dermau technegol. Mae iddo 85 tudalen o dermau, y Saesneg ar y llaw chwith a'r termau cyfatebol yn Gymraeg ar y dde. Pris 25c. LLAWLYFR Y CYNGANEDDION Amcan y llyfr hwn yw egluro elfennau Cerdd Dafod i blant o 12 i 18 oed. Adargraffiad, 1971. Gan J. J. Evans. Pris 50c. Y BARDD CWSG A'I GEFNDIR Astudiaeth o 'Weledigaethau y Bardd Cwsg' yn bennaf yw'r llyfr hwn. Ymdrinnir â chefndir hanesyddol y llyfr, trafodir ef o fewn y traddodiad o ysgrifennu gweledigaethau ac o safbwynt llenyddol. Gan Gwyn Thomas. Pris £ 3.00 THE AGRICULTURAL COMMUNITY IN SOUTH-WEST WALES AT THE TURN OF THE TWENTIETH CENTURY Ceir hanes cymdeithas cefn gwlad yn trin y tir, cyn i'r peiriannau mecanyddol ymddangos, a'r newid a ddaeth yn eu sgil yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed. Fel y datblygodd addysg a hwsmonaeth pellhaodd yr hen ddull o fyw, yr hen ddiddordebau plwyfol a'r hen werthoedd lleol, a chollwyd y gymdeithas glos. Gan David Jenkins. Pris £ 3.00 MERTHYR HOUSE, JAMES STREET, CAERDYDD, CF1 6EU. Ffôn: 31919.