Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golygyddol t RBYN hyn yr Almaen ac nid yr Unol Daleithiau yw'r wlad sydd yn rhoi y cymorth mwyaf i wledydd t awd y byd yn Affrica, Asia a De America. Oherwydd fy ymchwil cysylltiol, gyda Ghana a Nigeria, íc'm gwahoddwyd i dreulio wythnos ym Merlin yn ystod yr haf eleni i drafod sut yr oeddem yn trefnu'r ymchwil. Gwahoddwyd hefyd fy nghydweithwyr o'r gwledydd tramor a thalwyd y cyfan o'r costau gan yr ymddiriedolaeth Almaenig Deutsche Stiftungfur Entwicklungs/ander. Fe'm lletywyd niewn villa moethus Villa Borsig, a fu'n gartref i Borsig, y gwr a aeth â thren a rheilffordd o'r wlad yma i'r cyfandir am y tro cyntaf. Yr un modd daethpwyd ag eraill yno, oedd yn cysylltu mewn ymchwil rhwng eu gwledydd datblygiedig hwy a gwlad arall o'r 'trydydd byd', lle nad yw diwydiant eto wedi ei ddatblygu ar unrhyw raddfa sylweddol. Casglwyd tua 60 yno i gyd, a rhaid bod yr wythnos, gyda'r costau teithio wedi costio 0 leiaf £ 15,000 i'r ymddiriedolaeth, a nawddogir yn gyfangwbl gan lywodraeth Gorllewin yr Almaen. Un yn unig yw'r Villa Borsig o bump o ganol- fannau tebyg yn yr Almaen, lle cynhelir dwsinau o gynadleddau bob blwyddyn ar faterion sydd o ddiddordeb uniongyrchol i wledydd y trydydd byd. Y mae gan yr ymddiriedolaeth, yn ogystal, staff o rai cannoedd i drefnu'r ffordd orau y gellir sianelu cymorth, mewn arian a phobl, i'r gwledydd tlawd. Y mae'r drefniadaeth, a'r arian sydd at y gwasanaeth, yn rhagori llawer iawn ar ymdrechion ein gwlad ni. Y mae gan eglwysi yr Almaen yn unig £ 10 miliwn i'w ddosbarthu, a chyfartaledd bach iawn yw hwn o'i gymharu â'r arian a ddaw yn uniongyrchol oddi wrth y llywodraeth. Methiant America Ers y rhyfel diwethaf mae yr Unol Daleithiau wedi tywallt arian ar raddfa anhygoel i bob cyfeiriad, ond yn anffodus o'u rhan nhw, nid oes namyn yr un wlad wedi datgan unrhyw ddiolchgarwch am y cymorth yma. Yn wir, magodd y cyfan rhyw chwerwedd tuag at y rhoddwr, ac aeth y gweithiwr gwirfoddol o'r Unol Daleithiau bron yn destun gwawd ar y pum cyfandir. Aiff y cyfan o dan y teitl USAID, a bellach mae'n hawdd gweld enw mor drychinebus ydoedd. Nid oes neb yn derbyn cardod (AID) yn llawen iawn, ac ar raddfa fach, hyd yn oed, mae'n magu cenfigen yn y derbynnydd. Yn ogystal aethpwyd â rhan fach o'r America i'r gwledydd hyn at wasanaeth y staff oedd yn gweithredu USAID. Datblygwyd ty arbennig, oedd yn hawdd i'w gludo, a gynigiai i'r Americanwr I holl foethusrwydd y cartref dosbarth canol yn y fam-wlad. Cludwyd hefyd fwyd a diod addas iddynt o'u cartrefi, nes yn wir pan ddeuai'r ŵyl ddiolchgarwch draddodiadol heibio ym mis Tachwedd, ni sylwais ar unrhyw wahaniaeth yn Nigeria rhwng y cynulliad yno a'r rhai tebyg yr oeddwn wedi eu mwynhau eisoes yn yr Unol Daleithiau. Nid am fod y gwledydd hyn yn gyntefig chwaith, mae yr holl bethau hyn yn cael eu hallforio fel parsel. Cymerwyd yr un agwedd at yr Almaen, hyd yn oed, ar ôl y rhyfel diwethaf. Sut y gellir cyfiawnhau sefydlu cangen Ewropeaidd o Brifysgol Maryland i'r milwyr Americanaidd yn Heidelberg, canolfan hen brifysgol o'r radd flaenaf? Yr Almaen Dysgodd yr Almaen oddi wrth y camgymeriadau hyn, sydd wedi dinistrio ymdrechion yr Unol Daleithiau. Ni soniwyd yr un gair am roi cymorth, ond ystyriwyd yr holl fenter yn bartneriaeth rhwng y ddwy wlad, gyda'r un awdurdod gan y naill a'r llall i ddefnyddio'r arian. O'r dechrau i'r diwedd cynllunir yn ofalus, fel bod yr offer a'r bobl yn dod yn rhan o raglen ddatblygu y wlad. Y canlyniad yw bod y gwledydd yn fwy parod i fynd ar ofyn yr Almaen nag a wnaethant gyda America. Yn raddol, ond yn sicr, mae dylanwad yr Almaen wedi cynyddu nes bod y cydweithrediad yn ymestyn i'r meysydd gwleidyddol yn ogystal â'r rhaglenni gwyddonol a thechnolegol. Mewn ygolion, colegau technegol, prifysgolion, ysbytai, y gwasanaethau sifil a llywodraeth leol, mae f maenwyr yn gweithio yn ddistaw ac effeithiol. Fel y daw cynlluniau adeiladu newydd ar y gweill,