Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y duedd yw troi tuag at yr Almaen am gyngor ac am yr offer angenrheidiol. Eisoes mae rhai wec i awgrymu bod math newydd o imperialaeth yn awr yn tyfu. Nid oedd trefnwyr y gynhadledd y ] Berlin yn awyddus i drafod yr oblygiadau hyn o'u polisi, wrth reswm. Daeth yn amlwg lawnnal cynrychiolwyr y trydydd byd oedd yn beirniadu, ond y rhai a ddaeth o wledydd sydd wedi methj j cael dylanwad ar ddatblygiad y gwledydd tlawd yn y gorffennol. Os pery dylanwad yr Almaen i dyfu, fe fydd yr Almaenwyr yn fodlon iawn bod yr arian y maer t yn ei wario mor haefyn cyrraedd ei amcan. Mae'r bartneriaeth yn tyfu'n gyfeillgarwch, ac ar yr u 1 pryd, dylanwad ac enw da yr Almaen yn ymledu yn y byd. Fel bydd y gwledydd hyn yn datblygt, fe fydd angen mwy a mwy o nwyddau arnynt, ac yn ddiau bydd yr Almaen wrth law i ddiwallu r gofynion newydd. Mae mwy nag un ffordd i goncro'r byd, onid oes? Yr Eidal l'r gwrthwyneb yn gyfangwbl mae yr Eidal yn datblygu. Nid oes yno sefydlogrwydd gwleidyddol, ac oherwydd yr ymdrech sy'n angenrheidiol i gadw'r wlad i fynd, nid oes fawr o ynni dros ben i geisio ymledu ei dylanwad y tu allan. Bûm yno fis Medi yn cyfrannu mewn cynhadledd NATO ar y testun 'Photobioleg'. Cynhaliwyd y gynhadledd mewn hen abaty, Badia Fiesolana, ar ymylon Fflorens. Hamddenol iawn oedd y gweithrediadau o'u cymharu â rhaglen haearnaidd Berlin. Fel canlyniad cafwyd digon o hamdden i fwynhau peth o gyfoeth diwylliannol dinas Michelangelo a Dante. Unwaith eto sylwais ar ddiddordeb dwfn y gwyddonydd Eidalaidd yn nhrysorau celfyddydol ei genedl. Yn yr awyrgylch arbennig oedd yno, tybiaf fod peth o ysbryd Galileo wedi llithro i'r trafodaethau. Llwyddwyd i asio diddordebau cemegwyr, biolegwyr, ffisegwyr a meddygon, fel bod y gor-arbenigo sydd mor nodweddiadol o drafodaethau gwyddonol heddiw yn diflannu. Trafod prosesau llygad sy'n ein galluogi i weld ac i synhwyro lliwiau yr oeddem. Cemegydd a lwyddodd i ddatrys saermaeth molecwlar retinal, y cemegolyn sensitif i oleuni ar gefn y llygad, sydd oherwydd ymwaith gemegol yn anfon y neges i'r ymennydd. Biolegydd a ddangosodd safle'r defnydd hwn yn y rhoden a'r côn, sy'n cysylltu â'r system nerfol. Meddyg, yn arbrofi ar ei lygaid ei hun, a ddangosodd bod y trawsnewidiadau cemegol y sylwir arnynt pan wahenir y retinal o'r system fiolegol mewn labordy yr un â'r rhai sy'n digwydd yn y llygad i'n galluogi ni i weld. Dyma unoliaeth y byddai Galileo ei hun wedi ei gymeradwyo, ac sydd yn dangos fod patrymau rhesymol a phrydferth i'w cael o hyd mewn gwyddoniaeth. GLYN O. PHILLIPS Y GYMDEITHAS WYDDONOL GENEDLAETHOL Cynhelir cynhadledd flynyddol y Gymdeithas o Ebrill 13-15, 1973, yn Neuadd Gregynog (Maldwyn). Pwnc: 'Ynni a Phwer' Manylion pellach gan: DR. ARTHUR BOYNS, SEFYDLIAD TENOVUS, YSGOL FEDDYGOL CYMRU, HEATH, CAERDYDD.