Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Planhigion Meddyginiaethol o Gefn Gwlad Cymru II. Bysedd y Gŵn (Digitalis Purpurea) DAVID BAILEY UN o'r planhigion mwyaf adnabyddus yng nghefn gwlad Cymru yw Bysedd y Cwn (Digitalis purpurea); arwydd o hyn yw'r ffaith fod iddo o leiaf ddwsin o wahanol enwau Cymraeg. Llysieuyn gosgeiddig ydyw a'i flodau ar ffurf utgorn. Fe'i ceir yn bur gyffredin yn rhannau tymherus Ewrop ond ni thyf yn ardaloedd y Môr Canoldir-a hyn, mae'n debyg, sy'n egluro paham nad oes dim sôn amdano yn ysgrifau meddygol y gwareiddiadau cynnar. Ceir cyfeiriad cynnar at ei rinweddau meddyginiaethol yn llyfr Meddygon Myddfai o'r drydedd ganrif ar ddeg; argymhellwyd bysedd y cwn ar gyfer nifer o anhwylderau gan y meddygon cynnar hyn ond oherwydd ei natur wenwynig nis defnyddid ond ar gyfer triniaethau allanol yn unig. Er enghraifft, honnwyd i eli o laeth, saim dafad a dail bysedd y cwn wella'r pen tost. Fe'i defnydd- iwyd hefyd i drin tyfiannau peryglus, casgliadau a chlwy'r brenin (scrophula); erys enw tylwyth bysedd y cŵn­y Scrophulaceae-i'n hatgoffa hyd heddiw am hyn. Ym 1592 enwyd bysedd y cwn yn Digitalis purpurea gan y llysieuydd enwog Leonard Fuchs- a hyn oherwydd tebygrwydd y blodau i fysedd piws. Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg bu cryn ddefnyddio ar fysedd y cwn fel chwydbair neu fel carthbair mewn gwahanol rannau o Brydain a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn llên-gwerin y cyfnod. Gwyddom erbyn heddiw, fodd bynnag, fod nifer o'r arferion hyn yn llwyr amddifad o unrhyw gyfiawnhad meddygol ond er hyn, erbyn 1650 roedd rhinweddau tybiedig bysedd y cwn wedi eu cydnabod yn swyddogol trwy ei gynnwys yn y British Pharmacopoeia. Gosodwyd hyn oll ar sylfaen fwy gwyddonol ym 1785 pan gyhoeddodd William Withering, meddyg o Sais, draethawd cynhwysfawr yn disgrifio sut i dyfu bysedd y cwn a sut i'w ddefnyddio. Prif gasgliad Withering oedd fod y planhigyn hwn yn 'meddu ar y gallu i ddylanwadu ar symudiadau'r ,alon i raddau llawer mwy nag unrhyw feddygin- teth arall a bod modd defnyddio'r gallu hwn i dibenion meddygol'. Deilliodd sylwadau Withering o'r ffaith iddo sylwi fod meddyginiaeth a gafodd gan hen wraig o Swydd Stafford yn cynnwys dail bysedd y cwn. Dan gyfarwyddyd yr hen wraig gwnaethai Wither- ing drwyth o'r dail-yn union fel y byddwn ninnau heddiw yn gwneud te mewn tebot. Ers blynyddoedd lawer defnyddiwyd y feddyginiaeth hon i drin y dropsi (ymgrynhoad o ddwr yn y cnodweoedd). Yn fuan ar ôl yfed y trwyth dechreuai'r claf gynhyrchu cryn dipyn o iwrin a byddai'r chwydd yn y coesau a'r migyrnau yn cyflym leihau. Ond ni fu'r driniaeth yn effeithiol bob tro. Erbyn heddiw, gwyddom fod dau beth hollol wahanol yn gallu achosi'r dropsi-diffyg yn yr arennau (elwlod) neu wendid yn y galon— a'r ail fath yn unig a wellheir gan drwyth o ddail bysedd y cwn. Gelwid y trwyth yn 'digitalis'. Nid ystyriai Withering fod cysylltiad