Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhwng effaith dwrbeiraidd (diuretaidd) digitalis a'i effaith ar y galon. Rhaid oedd aros tan 1799 pryd y darganfuwyd y stethosgôp gan y Llydawr René Laënnec cyn sylweddoli gwir werth digitalis mewn rhai achosion o glefyd y galon. 'Roedd darganfod priodoleddau meddygin- iaethol digitalis yn garreg filltir bwysig yn hanes meddygaeth. Hyd yn oed heddiw nid oes yr un cyffur sydd mor effeithiol â digitalis. Yr unig newid sydd wedi digwydd yw bod darpariaethau pur o digitalis ar gael bellach yn lle'r trwythau a diodydd a ddefnyddiwyd ryw ddwy ganrif yn ôl. Er hyn, y mae nifer o feddygon heddiw yn dal i ddefnyddio tabledi a wneir oddi wrth ddail cyfain bysedd y cwn am eu bod yn cynnwys nifer o wahanol sylweddau gweithgar yn hytrach nag un sylwedd pur yn unig. Ond gwaetha'r modd, cafwyd nifer o enghreifft- iau o grach-feddygon yn defnyddio digitalis mewn modd hollol anfeirniadol i drin clefydau. Ac oherwydd fod dognau sylweddol ohono yn achosi gwenwyndra, rhaid derbyn ei fod wedi peri nifer o farwolaethau anfwriadol ar hyd y blynyddoedd. Cyfeiria Withering ei hun at enghraifft o hyn pan ddywed i wraig bron â lladd ei gwr trwy roi iddo ormod o de bysedd y cwn. 'Roedd y wraig, yn ôl Withering, 'yn ddigon cyfarwydd â'r feddyginiaeth ond heb feddu'r syniad lleiaf am y ddogn fwyaf addas'. Yn ganlyniad i ddigwyddiadau o'r math yma collodd digitalis beth o'i fri meddyginiaethol hyd nes i feddygaeth wyddonol ei adfer i'w iawn Ie ar ddechrau'r ganrif bresennol. Mae gan ddigitalis ddwy effaith ar y corff. Yn gyntaf, y mae'n cryfhau cyfangiad y galon. Ac yn ail, y mae'n peri ar yr un pryd fod y galon yn curo'n arafach. Gall hyn ymddangos yn baradocs- aidd braidd ar yr olwg gyntaf. Ond nid felly y mae mewn gwirionedd ac y mae'r effaith ddeublyg hon o werth arbennig i'r sawl sy'n dioddef oddi wrth y math o wendid calon sy'n gyfrifol am y dropsi. Yn y galon normal ceir fod cyfnod o ymlacio yn dilyn pob cyfangiad o'r cyhyr. Yn ystod y cyfnod ymlacio fe ail-lenwir y galon gyda gwaed. Mewn math arbennig o wendid calon y mae'r cyfnod ymlacio yn fyrrach na'r normal a'r canlyniad yw fod yr ail-lenwi bob tro yn anghyflawn. Y mae hyn yn ei dro yn peri fod cylchrediad y gwaed trwy'r corff yn llai effeithiol a daw tuedd i ddwr ym- grynhoi yn y cnodweoedd (y dropsi). Trwy arafu ar guriad y galon y mae digitalis yn estyn y cyfnod ymlacio ac yn galluogi'r galon i gael ei hail-lem i yn gyflawn. Yn sgîl hyn daw gwelliant i gylchredia y gwaed trwy'r corff. Mae gwell cylchrediad y gwaed yn golygu fod llai o'r hormôn aldostercn yn cael ei secredu gan gortecs y chwarren adrena mae aldosteron yn rheoleiddio lefel y sodiwm a ollyngir i'r iwrin gan yr elwlod a hyn, yn ei dro, sy'n penderfynu faint o iwrin a gynhyrchir. Can- lyniad hyn oll yw fod digitalis, trwy arafu'r galon, yn peri bod y corff yn cynhyrchu mwy o iwrin ac oherwydd hyn y mae llai o ddwr ar ôl yn y corff i grynhoi yn y cnodweoedd ac i greu'r oedema sy'n nodweddiadol o'r dropsi. Yn wir, pan roddir digitalis i ddioddefydd o'r dropsi y peth cyntaf a ddigwydd yw cynnydd sylweddol ym maint yr iwrin a gynhyrchir. Fe welir felly fod digitalis yn dileu symptomau calon wan ond heb gywiro achos y gwendid. Cynnwys bysedd y cwn nifer o sylweddau eraill sy'n meddu ar wahanol fathau o weithgaredd biolegol. Y mae'r rheiny, megis digitalis, sy'n dylanwadu ar y galon yn perthyn i'r dosbarth a elwir yn glicosidau. Y mae i'r glicosidau niwcleus steroidaidd (yr 'aglicôn') ac un neu fwy o unedau siwgr ynghlwm wrtho. Y mae gweithgaredd biolegol y glicosidau i'w briodoli yn bennaf i natur yr aglicôn; mae'r uned(au) siwgr yn llawer llai pwysig. Er hyn, y mae'r uniad â'r siwgr yn bwysig am ddau reswm: mae'n peri bod y glicosid yn ymdoddi mewn dwr yn rhwyddach ac y mae'n hwyluso ffurfiad cysylltiad rhwng y glicosid a chyhyrau'r galon. Gellir rhannu'r glicosidau yn dri dosbarth: y digitocsigeninau (Ffig. 1, R=RX=H), y gitocsi- geninau (Ffig. 1, R=H, Rx=OH) a'r digocsi- geninau (Ffig. 1, R=OH, R!=H). Yr unig wahaniaeth rhwng y gwahanol licosidau o fewn y grwpiau hyn yw eu bod yn cynnwys gwahanol fathau o siwgr. Y mae nifer o blanhigion Cymreig eraill sy'n cynnwys glicosidau cardiaidd. Cynnwys y ffurf flewog ar Fysedd y Cwn (Digitalis lanata) yr un glicosidau â D. purpurea ac y mae'n ffynhonnell bwysig o ddigitalis ar gyfer y farchnad. Planhigyn cyffredin arall sy'n dylanwadu ar y galon yw Lili'r Dyffryn (Convallaria majalis) a ddefnyddiwyd yn bur helaeth mewn meddyginiaethau traddodiadol ac a ymddangosodd yn y British Pharmaceutical Codex hyd at 1934. Nis defnyddir bellach yng ngwledydd Prydain ond fe'i defnyddir o hyd yn