Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFR CYNTAF TAFLENI RHIFYDDOL DESRIFOL Er rhag arlwyso i gael Trefn Desol gyda Rhifnodau Newyddion (system number) yn tra ragori ar y Deg yn safpn M. W. P. WILUAMS, Ystalyfera. Llun 2. Taflen a gyhoeddwyd ym 1908 fe ddaeth yn gyfreithlon i ddefnyddio'r system fetrig mewn dogfennau cyfreithiol yn myd masnach, er fod y dull Prydeinig hefyd yn aros yn gyfreithlon. Argymhellodd y pwyllgor a ddaeth â'r mesur gerbron y senedd y dylid newid trosodd yn gyfangwbl i'r system fetrig ymhen dwy flynedd, ac argymhelliad diddorol arall oedd y dylid dysgu'r system fetrig yn holl ysgolion y wlad. Gwnaed ymdrech i ddod i ben a hyn ac fe osodwyd y system fetrig yn swyddogol ym Maes Llafur yr ysgolion (yr Educational Code) ym 1900, ond bedair blynedd yn ddiweddarach fe ddywedwyd yn y senedd: 'er fod athrawon wedi mynd i drafferth i ddysgu'r pwnc newydd, nid ydyw'r arholwyr at ei gilydd wedi gosod unrhyw gwestiynau ar yr adran yma o rifyddeg. Felly mae athrawon yn digalonni pan welant agwedd glaear yr arolygwyr tuag at y pwnc, a phan welant mor ychydig o gydnabyddiaeth < gant am yr amser a roddant iddo'. Ym 1904 daeth mesur arall gerbron Tŷ’r rglwyddi, gyda'r Arglwydd Kelvin ymysg eraill yn ei gefnogi, i wneud y system fetrig yn orfodol. Mae'n bur debyg mai'r mesur hwn a roes ysbrydol- iaeth i W. W. P. Williams i gyhoeddi'r llyfryn cyntaf, gan ei fod yn dweud yn y Rhagymadrodd: 'Yn sicr bydd, yn y dyfodol agoshaol, yn cael ei mabwysiadu gan y Llywodraeth Brydeinig, a'r un America. Bydd yn orfodol ar bawb i'w defnyddio, dywedir, ymhen dwy flynedd o amser'. Dywed mai un rheswm tros droi at y dull degol ydyw fod Prydain wedi cael llawer o golledion masnachol ar draul Ffrainc a'r Almaen oherwydd fod 'estroniaid' yn hoffi'r dull ac yn cael anhawster mawr gyda'r dull Prydeinig. Dywed hefyd y 'dylid hyfforddi plant i ddeall yn hollol gywir werth yr holl rifnodau yn y safleoedd laf, 2il, etc., ac egluro iddynt natur, a'r paham, y defnyddir Goddimau 0, a'u gwir werth yn y gwahanol safleoedd'. Dyma resymu cymeradwy iawn, ac yna fe gawn y brawddegau diddorol hyn: 'Lawer o flwyddi yn ôl, cefais foddhad mawr, pryd yn gwrandaw ar blant y Wladfa yn rhifo yn Gampus yn Gymraeg, dim