Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cynhadledd Y Gymdeithas Wyddonol 1972 Fel y soniwyd eisoes datblygiad hanesyddol oedd cynnal cynhadledd breswyl ar wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn Aberystwyth yn ystod gwyliauf Pasg 1972. Daeth mwy na 70 ynghyd a bu trafod brwd. I gofnodi'r achlysur pwysig yma, mae Y GWYDDONYDD yn cyhoeddi y prif ddarlithiau a thalfyriad o'r papurau a draddodwyd. — Gol. Difwyno'r Amgylchfyd (Darlith Agoriadol Cynhadledd Y Gymdeithas Wyddonol 1972) O. E. ROBERTS PRIN bod angen dweud bod y pwnc sydd gennym i'w drafod yn y gynhadledd hon yn un amserol, gan i'r papurau newydd, y radio a theledu roi lle mor amlwg i wahanol agweddau ar ddifwyno amgylchfyd y misoedd diwethaf. Oherwydd hyn mae gan bobl ddiddordeb dwfn ym mhroblemau difwyno, mor ddwfn weithiau nes arwain at banig bron, er na chafwyd ym Mhrydain hyd yn hyn mo'r hysteria a welwyd yn America. Yr oedd natur gynt, oherwydd y mantoliad rhwng gwahanol fathau o organebau, yn llwyddo i lanhau'r ddaear, ond erbyn hyn mae dyn yn difwyno'r cyfan mor gyflym fel nad oes cyfle i brosesau naturiol, ac y mae hefyd yn cynhyrchu ysbwriel annaturiol. Etifeddu a wnaethom ni, i raddau helaeth, feiau diwydiant y ganrif ddiwethaf, pan na phoenai neb am fwg simneiau nac ysgarthion trefi. Hyd yn oed pan ddeffrowyd cydwybod y rhai a welai'r peryglon, araf iawn y symudwyd. Cyn belled yn ôl â 1954 cyhoeddodd pwyllgor y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol bod difwyno yn peri colled o £ 250 miliwn y flwyddyn, heb gyfrif colli iechyd. Canlyniad yr adroddiad hwnnw oedd cyflwyno Deddf Awyr Lân ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn ei gwneud yn drosedd i fwg tywyll esgyn o simneiau tai a gweithfeydd. Araf y symudwyd ymhellach yn ystod y pymtheng mlynedd hyn. Yn wir, dim ond ar ôl i chwi gyhoeddi testun y gynhadledd y cyhoeddwyd ail adroddiad Ashby ac y cytunodd y Senedd i basio deddf i ofalu am amgenach gofal o ysbwriel gwenwynig gweithfeydd. Propaganda diweddar y gwrth-ddifwynwyr a dynnodd sylw llawer o bobl at y sefyllfa bresennol, ond y mae'n anodd i'r cyhoedd ddod i unrhyw benderfyniad gan fod yr arbenigwyr ym methu cytuno ar beryglon y sefyllfa a'r moddion i wella. Mae gennym yn Eifionydd ddywediad am ddwy garfan yn methu cytuno. Medda-ni: 'Rhwng gwyr Pentyrch a'i gilydd', ac y mae arnai ofn bod dwy garfan anghytun yn uchel eu cloch yn aml ar bwnc difwyno. Ar un ochr mae'r Athro Paul Ehrlich, y biolegwr o Brifysgol Stanford, cyflym ei feddwl a llithrig ei dafod, yr leremia a fyn bod y dyfodol yn ddu oherwydd gorboblogi a'r gorddefnyddio ar adnoddau naturiol ein planed a gwr na wêl ddyfodol i Brydain erbyn diwedd y ganrif hon, ac y mae'r diwedd hwnnw'n beryglus o agos. Fel y cynydda'r boblogaeth, meddai ef, cynyddu a wna'r difwyno a'r problemau cysylltiedig. Heb fod lawn mor eithafol mae'r Athro Barry Commoner o adran botaneg Prifysgol Washington. Ar yr ochr arall mae John Maddox, golygydd Nature, a gred bod dyn yn ddigon call a medrus i'w addasu ei hun i wynebu her y dyfodol, ac oherwydd hyn myn ef bod Ehrlich yn gorddweud ei achos ac fel y dyn hwnnw yn un o ddamhegion Esop yn gweiddi 'Blaidd' yn rhy aml.