Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arian byw Cafodd arian byw gryn sylw yn ddiweddar. Defnyddid mercwri gynt i galedu hetiau bifar a dioddefai gweithwyr o wendid, cur yn y pen, coll cof a rhithweledigaeth. Un o'r dioddefwyr oedd yr hetiwr gwallgof hwnnw yn nhe-parti Alice. Gwyddom bellach bod mercwri yn peri niwed i'r elwlen a'r ymennydd. Mae deuddeng mlynedd ers trychineb Minimata yn Siapan, pan fu farw 35 o bentrefwyr ac y gwnaed dros gant yn analluog am y gweddill o'u hoes ar ôl bwyta pysgod a ddaliwyd yn y bae, y dwr yno wedi ei ddifwyno â mercwri o ffatri plastigau leol. Rhoddodd 20 o'r merched enedigaeth i blant â pharlys arnynt. Pan wenwynwyd teulu yn Sweden yn gyffelyb bu pawb yn wael iawn ond un wraig feichiog, ac yr oedd ei phlentyn hi yn fongol pan anwyd ef. Gwaherddir pysgota yn Sweden yn y llynnoedd ger mannau y taflwyd mercwri gan ddiwydiannau, ac yno, fel yn y Taleithiau Unedig, rhybuddir mamau beichiog rhag bwyta pysgod, ar wahân i benfras, dyweder, a ddaliwyd ymhell yn y môr. Yr hyn sy'n arswydus yw y gallasai'r difwyno ddigwydd ar hyd y blynyddoedd diwethaf heb i neb sylweddoli'r cysylltiad. Mae'n bosibl bod aml un wedi ei amharchu gan gymdeithas a'i fwrw i wallgofdy, hwyrach, heb i rai 'callach' nag ef ei hun wybod mai ei wenwyno a gafodd. Mae'r gwir yn anodd ei ganfod. Wedi'r holl stwr yn America a dinistrio tuniau o bysgod wrth y miloedd, daeth adroddiad y llynedd o Brifysgol Califfornia nad oedd difwyno pysgod â mercwri ddim gwaeth na'r hyn ydoedd ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf. Ac o sôn am fwyd, mae agwedd gwyddonwyr a thechnolegwyr yn anhygoel i mi. Wedi ein dysgu am hanfodion maeth, yr hyn a gawn ni yw ein hamddifadu ohonynt. Tyn y melinydd y prif faethion o'r grawn a channu'r blawd; ychwanega ato gemegolau i'w gadw rhag llwydo a phydru. 'Cyfoethogi' yw'r gair od am hyn. Rhydd y pobydd yntau diglyceride i rwystro'r dorth ddifetha'n rhy gyflym wrth ei chadw. Wedyn mi gewch ddadleuon, fel yr un bresennol ar saccharin. Myn y cynhyrchwyr ei fod yn ddiniwed. Ond dywed adroddiad o brifysgol yn America ei fod yn wenwyn peryglus. Wedi i chwi ddeall mai cwmnïau siwgr a dalodd am yr ymchwil mae'r adroddiad hwnnw yn fwy nag amheus. Fel y dywedodd rhywun, mae mwy o flas arian na dim arall ar fwyd heddiw. Ymbelydriad Ni allaf ond cyfeirio at ymbelydriad. Myn Sternglass o Pittsburgh i ffrwydriadau Hiroshima a Nagasaki ychwanegu'n ddirfawr at lwcemia ar blant, nid yn Siapan yn unig ond hefyd yn Ewrop ac America. Dywed bod rhagor na'r cyffredin o ganser ac anhwylderau'r ysgyfaint ar bobl yn byw'n agos at adweithyddion atomig a gweithfeydd darparu cynnud niwclear. Nid oes ddewin a wyr y niwed genidol na ddangosir mohono am rai cenedlaethau. Cofiwn am ddamweiniau Windscale a Denver a'r broblem o beth i'w wneud â'r atomfeydd sy'n heneiddio mor gyflym. O ganiatáu bod angen ynni ychwanegol yn y byd yma, a yw'r budd o bwerdai niwclear yn gorbwyso'r niwed a all ddigwydd i fywyd y blaned? Datguddiodd Sternglass bod gan yr Americanwyr stoc o 8,000 o fomiau niwclear yn Ewrop yn unig, ac fe gofiwn yr helynt drudfawr pan syrthiodd rhai ar ddamwain yn Spaen. Ysbwriel Problem arall yw tynged ysbwriel. Ychydig iawn o ymdrech a wneir i'w ail-ddefnyddio er y gellid trwy hynny arbed llawer o fetelau a throi papur wast yn bwlp a siwgrau ac ethanol. Mi fedrwch falu poteli gwydr ac fe ryda tuniau, ond beth andros fedrwch chi ei wneud â defnyddiau plastig? 450 miliwn o boteli mewn blwyddyn ym Mhrydain nad oes neb mo'u heisiau, ac y mae sôn y bydd y llaeth ar stepan y drws mewn potel blastig cyn bo hir, 32 miliwn y dydd. Da gweld bod yr Athro David Hughes o Gaerdydd a'r Athro Gerald Smith o Birmingham ar drywydd dulliau addawol i ddinistrio plastigau, y naill â phroses biolegol a'r llall trwy ddarparu plastig ag iddo oes fer.