Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwarchod yr Amgylchfyd rhag Llygredd yr Her i Gymru Heddiw TOM PRICHARD (Bwrdd Gwarchodaeth Natur) 'Dydw i ddim am arolygu ar yr hyn a elwir 'y broblem lygru' sydd yn faes eang a chymhleth ac yn weddol gyfarwydd i rai ohonoch. Yn hytrach, fel ecolegydd, yn gweithredu fel swyddog gyda'r Warchodaeth Natur, credaf mai'r peth gorau i mi yw canolbwyntio ar y newidiadau sydd wedi digwydd yn ein hamgylchfyd. Newidiadau sydd wedi effeithio, neu yn gyfrwng i ryw fath o effaith ar y gyfundrefn ecolegol naturiol. Neu os mynnwch, effaith dyn ar y cydweithrediad sydd rhwng y gwahanol lefelau biolegol a'i gilydd sydd yn sylfaen i fodolaeth bob math ar fywyd gan gynnwys dyn ei hun. Mi geisiaf hefyd wneud hyn trwy dynnu sylw arbennig at y sefyllfa yng Nghymru, a'i defnyddio fel patrwm-patrwm sydd yn cael ei dderbyn mewn llawer gwlad arall yn Ewrop. Rhaid i mi yn gyntaf ddiffinio y prif dermau sydd o fewn teitl y ddarlith sef llygredd a gwarchodaeth. Yn gyntaf, llygredd-gellir diffinio hwn yn fyr fel rhywbeth sydd yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir, yn y mesur anghywir. Felly mewn termau dyn, mae digwyddiadau sydd yn achosi fod unrhyw beth yn cael ei osod yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir ac yn y mesur anghywir yn peri llygredd ac yn cael rhyw fesur o effaith niweidiol ar yr amgylchfyd. Y syniad mwyaf cyffredin o lygredd yw mai peth cemegol yn unig yw, ond nid wyf am drafod llygredd awyr, dwr, a thir gan wastraff diwydiant yn unig, gan fod o fewn y maes yma, a'r diffiniad yma, newidiadau ecolegol sydd yn cael eu hachosi gan weithgareddau dyn yn gyffredinol ac sydd, o edrych ar y broblem o safbwynt amser, yn llawer mwy pwysig. Rhaid hefyd dadlau fod llygredd yn gorfod caniatáu rhyw gymaint o gloriannu, hynny yw, rhaid penderfynu pa bryd y mae unrhyw broses diwydiannol neu unrhyw ffurf ar ddefnydd tir yn cael ei farnu i fod yn ffactor llygredigaeth mewn termau ecolegol a beth yw maint ei effaith ar yr amgylchfyd. Ystyriwch y mynyddoedd uchel. Nid yn unig yng Nghymru ond led-led y byd, lle mae dyn heddiw yn dyrchafu ei lygaid tuag ato fel mangre awyr iach a glendid afonydd a llonyddwch nad ydynt i'w cael yn yr iseldiroedd a mannau diwydiannol y wlad. Ond, mae'r mynyddoedd ymysg y mannau sydd wedi newid yn fawr. Mae'r coedydd wedi diflannu oddi ar lethrau Eryri ers llawer blwyddyn. Mae'r grug a'r llys wedi lleihau, ni hed yr eryr yno mwyach, na'r ceirw a llawer llai o'r bela a'r carlwm, a'r afr wyllt. Y famog Gymreig yw brenhines y porfeydd hyn heddiw yn magu cig a gwlân-a dyn bob blwyddyn yn gyson yn cario i lawr i'r farchnad a'r diwydiant gwneud dillad ychydig o gyfansoddiad y tir uchel, a rhoddi nemor ddim yn ei ôl. Mae fforestwaith undonog a thyrrau o ymwelwyr, wedi effeithio ymhellach arno ond er hyn nid yw'n ymddangos fel pe'n cael ei lygru. Mae'r mynydd fel y môr yn dal i gynnal bywyd, er ei newid o dro i dro dan ddylanwad dyn. Er cael ei gamddefnyddio'n aml, mae safon purdeb amgylchfyd yn parhau-nid oes i raddau helaeth ddim llygredd yno. Mae'n parhau i weithredu fel system ddynamig. Pery i gynnal cyflenwad o fywyd gwyllt naturiol a gweithredu megis cymhlethdod o unedau o wahanol gyfundrefnau ecolegol sydd, er eu holl newid o'r gwreiddiol, naturiol, bur, yn ymddangos yn ddilygredig. Mae llygredd felly yn golygu rhywbeth mwy na amhuro. Golyga effeithio ar rannau o'r cmgylchfyd fel na allant gynnal eu hunain fel cyfundrefnau ecolegol ddynamig ac maent yn methu gweithredu i'w llawn effeithiolrwydd. Gweithredu mewn gwendid os mynnwch, ac fel y gwyr