Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Perygl Plwm yn yr Amgylchedd JOHN HUGHES A MERFYN JONES (Aberystwyth) I. Mynediad i'r Corff Mae meddygon yn dod ar draws llawer o anhwylderau nad yw yn hawdd eu pennu a rhoi enwau iddynt­-anhwylderau fel poenau cronig y bol, pwys gloesi a chyfog drachefn a thrachefn, poenau yn y pen, llesgedd, iselder ysbryd, poenau yn yr aelodau, ac weithiau farwolaethau anesboniadwy. Y cwestiwn yw-ai gwenwyn a achosid gan blwm sydd yn gyfrifol am hyn ? Gwyddom nad yw plwm yn ei stad naturiol yn ffynhonnell gwenwyn a gwyddom ymhellach nad yw y plwm yn rhan o gyfansoddiad naturiol y corff dynol. Sut felly y mae plwm yn mynd i mewn i'r corff? Rhoddaf ychydig o enghreifftiau pilen o baent, plant yn bwyta pridd, gwaith toddi plwm, gwaith gwneud batri plwm, y plwm a wasgerir gyda mwg o geir, y wast a chwythir oddi ar dipiau hen weithfeydd mwyn plwm ac a ddisgyn ar gaeau gwair, ffrwythau gardd, dwr yn llifo o ardaloedd lle bu cloddio am blwm, dwr meddal sy'n rhedeg i dapiau drwy hen bibellau plwm, llestri pridd a ddefnyddid i wneud gwin, pibau plwm mewn tai tafarnau, a defnyddio paent yn cynnwys plwm. Sut mae'r plwm yn mynd i mewn i gorff dyn? Mae'n mynd i mewn drwy yr ysgyfaint a'r tract gastro-intestinal. Y mae'r maint o blwm a gymerir i mewn i'r corff yn dibynnu llawer ar lefel y calsiwm yn y bwyd-y mae lefel uchel o galsiwm yn lleihau mewnsoddiant y plwm. Unwaith yn y corff fe â'r plwm am yr esgyrn a cheir 90 y cant ohono yn yr ysgerbwd. Nid yw hyn yn niweidiol­- gellir ei ystyried fel cronfa ddiynni o fetel-nid oes perygl ond pan fydd yn symud oddi yno. Gall y symud hwn gael ei achosi gan heintiau garw hen gronig, alcoholiaeth, toriad mewn asgwrn, a therapi cortico-steroid. Y mae plwm yn wenwyn cynyddol a hyn sydd yn ei wneud yn beryglus. Mae lefel 0 80 microgram y cant yn beryglus. Ar hyn o bryd mae gwaith ymchwil yn mynd ymlaen yn Aberystwyth i ddarganfod ymhellach effaith y plwm ar y corff dynol. II. Agweddau Meddygol a Biocemegol Mae yn wybyddus ers dros hanner canrif fod plwm yn effeithio ar y corff dynol. Clywsom am ffermwyr a hen ddynion yn ardal hen fwynfeydd plwm yn methu cadw ceffylau na gwc.rtheg mewn rhai caeau arbennig, eraill yn adrodd am ieir yn peidio dodwy. Hefyd gwelwyd lefel uchel o blwm yn y porfeydd, planhigion, pridd a dwr yn yr ardal. Eisoes y mae gennym adnabyddiaeth dda o arwyddion meddygol gwenwyno gan blwm a hefyd ddulliau o wella'r cyflwr, ond mae posibilrwydd bod effeithiau eraill i'w cael ar y raddfa is-feddygol. Soniwyd am brofiad personol un o'r awduron (M.J.) yn meddwl am y tebygolrwydd o ddarganfod graddfa uchel o blwm yn nwr yfed ei dy oherwydd cludo'r cyflenwad drwy 200 troedfedd o bibell blwm. Dangosodd dadansoddiad o'r dwr raddfa o 1.3 rh.y.m. (p.p.m.) yn gyffredin a chyn uchel â 6.6 rh.y.m. ar ôl sefyll dros y Sul. 0.05 rh.y.m. yw'r raddfa dderbyniol gan y W.H.O. Y mae graddfa fel yma yn debygol o niweidio plant yn enwedig, oherwydd crynhoad y plwm ym mêr yr esgyrn He y cynhyrchir celloedd coch y gwaed. Gwnaed sylw am astudiaethau yn U.D.A. sydd yn dangos perthynas cydrhwng deallusrwydd plant a graddfa plwm yn y dwr yfed. Effeithia'r plwm ar lwybr synthesis haem, y cyfansawdd yn y gwaed sy'n cludo'r ocsigen i gelloedd y corff. Yn fwyaf arbennig effeithir ar yr enzym dehydras asid d-aminolevulinig ar ddechrau'r llwybr synthesis, a hefyd y cam olaf lle trosir protoporphyrin a haearn yn haem. Casgla'r asid d-aminolevulinig yn yr iwrin, a'r protoporphyrin yn y celloedd coch. Eglurir efallai effaidd ymenyddo' gan bwysigrwydd yr asid d-aminolevulinig yn y rhan hon o'r corff yn ogystal.