Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Effeithiau Gwenwynig Síanid ac Arsenig ar y Corff J. HYWEL THOMAS (Ysgol Feddygol Ysbyty Sant Thomas, Llundain) Bu pryder mawr yn ddiweddar o ddarganfod fod cwmnïau diwydiannol wedi bod yn tipio ysbwriel yn cynnwys sïanid yn agos i drefi yng nghanoldir Lloegr. Mae sîanid mor effeithiol fel gwenwyn fel bod 0.05 gram yn ddigon i ladd dyn. Erbyn hyn gwyddom fod sïanid yn gwenwyno'r corff trwy ymyrryd â'r broses o gynhyrchu ynni o'r bwyd a fwytawn. Gwna hyn wrth uno gyda'r cytocromau yn y celloedd a thrwy hyn fe rwystrir symud yr hydrogen o'r bwyd i'r ocsigen. O wybod hyn, bu'n bosibl dyfeisio triniaeth wrthwenwynig i sïanid trwy ddefnyddio nitraid a thiosylffâd. Yn naturiol rhaid gweithredu'n gyflym os yw'r driniaeth am fod yn llwyddiannus. Defnyddir tunelli o sïanid gan ddiwydiant gan fod y sylwedd yma yn angenrheidiol yn y broses o gynhyrchu defnyddiau synthetig, plastig, ac yn y diwydiant haenellu metalau. Serch hynny, gan fod sïanid mor adweithiol, mae'n gymharol hawdd i gael gwared â'r sîanid gwastrafflyd drwy broses gemegol sy'n defnyddio clorin. Sylwedd gwenwynig arall a ddefnyddir yn helaeth gan ddiwydiant yw arsenig. Er enghraifft, defnyddio arsenig i wneud gwydrau, paent a lliwurau. Yn wahanol iawn i sianid, mae arsenig yn aros yn y corff, ac felly yn gweithredu fel gwenwyn cynyddol. Yn hyn o beth mae arsenig yn debyg i'r metelau eraill gwenwynig fel plwm a mercwri. Mae effaith wenwynig arsenig yn deillio o'r ffaith fod yr elfen yma yn amharu ar y broses o gynhyrchu ynni yn y corff trwy atal rhai o'r ensymau sy'n gyfrifol am y broses. Er bod sïanid yn llawer mwy gwenwynig na metelau fel arsenig, plwm a mercwri yn yr ystyr fod dogn llai yn lladd, mae'n llawer haws ymdopi gyda'r gwenwyn yma. Wrth gwrs, mae yna Ie i ofidio am unrhyw ysbwriel sy'n cynnwys si'anid, ond mae'r broblem o gael gwared ar y sylwedd yma'n ddiogel yn un o'r problemau llai sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Yn hytrach, gwaredu'r metelau gwenwynig yw'r broblem fawr; problem sydd rhaid ei hwynebu ar unwaith. Y Defnydd o Wrtaith-llwch-Y Gwrthdrawiad Rhwng Cynhyrchu Bwyd a Gwarchod yr Amgylchfyd GARETH WYN JONES (Adran Biocemeg a Gwyddor Pridd, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor) Fel y datblygodd amaethyddiaeth yn ystod y deugain mlynedd diwethaf, cynyddodd y gofyn am wrtaith-llwch dros 5 y cant y flwyddyn. Golyga hyn fod y defnydd a wneir o'r prif ymborthegolynau, nitrogen, potasiwm a ffosfforws yn dyblu bron bob deng mlynedd. Hyd y chwedegau cyfyngwyd y twf i'r gwledydd datblygiedig­-Gogledd America, Gorllewin Ewrop a Japan, ond erbyn hyn, mae y cyfanswm o lwch a ddosberthir yn y gwledydd tlawd yn cynyddu'n gyflym. Rhan yw y datblygiad yma o'r ymgais frwd a wneir mewn rhannau helaeth o'r byd i drechu newyn, ond mae y tyfiant echrydus ym mhoblogaeth y byd (a ddyblir bob 30-35 mlynedd) yn gwasgu fwy-fwy ar ein cyflenwad o fwyd. Felly mae llawer yn rhagweld y bydd cynnydd sylweddol yn y defnydd byd-eang a wneir o wrtaith-llwch fel rhan hanfodol o'r ymdrech i gynhyrchu mwy o fwyd. O ystyried hyn, rhaid wynebu dau bryder sylfaenol. Yn gyntaf, a oes gan y byd yr adnoddau crai i ateb y gofynion ychwanegol am wrtaith-llwch; ac yn ail, a fydd y gwrtaith ychwanegol yn achosi difrod mawr i'r amgylchfyd ? Yr adnoddau crai Mae digon o nitrogen a potasiwm ar gael ar gyfer y dyfodol yn ein byd, ond awgrymwyd gan Sefydliad Ecoleg Prifysgol Michigan (1971) fod yr ystôr byd-eang o ffosfforws (3 x 109 tunnell) /n brin, ac na fyddai bron ddim ar ôl mewn 20-30 mlynedd. Dangoswyd gan Freeman (1972) fod