Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Difwyniant-Ei Fesur o Bell DYFRIG JONES (ESRO, Yr Iseldiroedd) Gellir diffinio dulliau mesur-o-bell fel y rhai hynny sy'n defnyddio cyfarpar mesur sydd gryn bellter o'r hyn sydd i'w brofi. Mae'r dulliau hyn yn holl-bwysig pan mae'r ardal lle ceir y difwyniant" yn anodd i'w chyrraedd neu pan mae'r cyfarpar arferol, drwy ei bresenoldeb, yn newid yr amgylchfyd. Gan fod difwyniant yn broblem fyd-eang rhaid yw wrth awyrennau, rocedi a lloerennau. Dengys y llun cyntaf grynodeb o'r llwyfannau pwysicaf. CRYNODEB O LWYFANNAU PROFI·O·BELL UCHDER PELLTER AMSER PWYSAU LLWYFAN EFFEITHIOL EFFEITHIOL EFFEITHIOL CYFARPAR AWYRENNAU Llai na 20 km 4.103km 5·8awr Llai no 5·103kg. BALẂNAU 20km-50km 4.103km 24 awr- 30 dydd 102kg·2.103kg ROCEDI 40Em 2.103km 5 Em- 5.102km 1fun.·5awг 1kg·2.102kg. LLOERENNAU 2.10akM-4.104km Byd·cang Amh«ndant 10kg·3104kg Yn gyffredinol, mae defnyddiau difwynol yn effeithio ar donnau electromagnetig-yn eu hamsugno, trawsgludo, adlewyrchu, allyrru neu yn eu gwasgaru. Gyda'r offeryniaeth electro-optegol presennol gellir recordio'r pelydredd gryn bellter o'i darddiad, a thrwy hynny gasglu gwybodaeth am y defnydd a'i adlewyrchodd neu a'i allyrrodd. Yr offerynnau a ddefnyddir yw: (i) cameráu cyffredin neu rhai teledu; (ii) radiomedrau-cyfarpar a fesura'r ynni pelydrol mewn rhan gymharol lydan o'r spectrwm, e.e. yn yr is-goch, neu yr ynni yn y microdonnau; (iii) spectromedrau-cyfarpar sydd yn rhannu'r spectrwm i'w wahanol linellau. Mae'r dechneg hon wedi ei datblygu ymhell erbyn hyn ar loerennau yn ogystal ag yn y labordy; (iv) interfferomedrau-er bod y dechneg hon yn bwysig ar wyneb y ddaear, ar hyn o bryd mae'r cyfarpar yn gymharol fawr ac felly anodd oedd ei roi ar y lloerennau cynnar a hefyd