Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes Pont Britannia Cafodd awdur yr erthygl hon ei eni a'i fagu yn Sir Fôn lle bu ei dad yn brifathro ar ysgol gynradd Llanfachraeth. O Ysgol Gyfun Caergybi fe aeth i Bolitechnig Plymouth i astudio Peirianneg Sifil ac wedi ennill ei ddiploma yno ymunodd â chwmni o Ymgynghorwyr Peirianegoì. Bun gweithio Vr cwmni yn Llundain a'r Alban cyn dychwelyd i Gymru yn gynharach eleni. Ei brif ddiddordebau yw hwylio a chanwio ac ar un adeg bu'n ffigwr adnabyddus iawn yng ngwersyll yr Urdd yng Nglanllyn. HEB os nac oni bai fe achosodd darganfyddiad pwer stêm gryn chwyldro, ac yn ei sgîl daeth llwyddiant masnachol. Ar ôl i brif borthladdoedd y wlad gael eu cysylltu â rheilffyrdd, digon naturiol oedd i economwyr ehangu eu gorwelion, ac un o'r gwledydd a dynnodd eu sylw oedd Iwerddon. Hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cwblheid y daith o Lundain i Iwerddon gyda mordaith o Lerpwl-siwrnai a allai fod yn ddigon peryglus ar adegau. Mantais felly fyddai ymestyn y daith ar y tir a chroesi'r môr mewn man culach. Digon naturiol felly oedd i feddyliau'r cynllunwyr droi tuag at Ogledd Cymru-a chynigiwyd ymestyn y rheilffordd o Gaer tuag at borthladdoedd Caer- gybi neu Borthdinllaen-Dinllaen fel y'i gelwid yr adeg hynny. Bu dadlau brwd, ac ar ôl nifer o adroddiadau gan Beirianwyr Sifil a Swyddogion y Morlys dewiswyd Caergybi fel diwedd y lein. DYFRIG H. ROBERTS Heb amheuaeth yr orchest beirianyddol fwyaf a ddaeth i'r amlwg yn ystod y broses o adeiladu'r lein oedd pont Britannia. 'Roedd maint y bont yn ei gwneud yn gampwaith, ond rhaid cofio nad ar chwarae bach y cynlluniwyd ac yr adeiladwyd y gweddill o'r lein. Cychwynnai yng Nghaer gyda thwnel 400 llath drwy dywodfaen, a chariwyd hi gan ddwy bont tros y Ddyfrdwy a'r Foryd hyd at dwnel 530 llath ym Mhenmaen Rhos. Croesai Afon Conwy mewn pont diwb, ac âi ymlaen at ddau dwnel, ym Mhenmaen Bach (630 llath) a Phenmaen Mawr (220 llath). Oddi yno âi ar draws y traeth ar bont haearn ac ymlaen hyd at bont garreg tros Afon Ogwen. Arweiniai tri thwnel (440, 920 a 720 llath) hi wedyn hyd at lan y Fenai. Gan fod pont grôg Telford yno'n barod, ac oherwydd rhesymau ariannol y syniad cyntaf oedd defnyddio hanner y bont yma i gario'r lein i Fôn