Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

eu cysylltu er mwyn cael cryfder i wrthsefyll gwyntoedd geirwon. Achosodd y dull o adeiladu dipyn o broblem. Buwyd yn meddwl y gellid adeiladu'r colofnau'n gyfangwbl, gosod darnau bychain o'r tiwb i nofio ar wyneb y dwr y naill ochr i'r golofn, eu codi yr un pryd i'w lefel priodol ac yna eu cysylltu â'i gilydd. Buasai'r broses yma'n cael ei hailadrodd hyd nes y byddai'r adeiladu'n cyfarfod yng nghanol y rhychwant. Wedi pendroni daethpwyd i'r casgliad fod hyn braidd yn beryglus: yr oedd angen codi'r tameidiau tiwb i uchder sylweddol a buasai'n anodd cadw cydbwysedd y naill ochr i'r golofn. Hefyd credid y byddai'n anodd cyfarfod ar lein a lefel yn y canol. Gan fod y colofnau wedi eu hadeiladu o gerrig nid oedd ganddynt lawer o wrthiant i blygu, ac o'r herwydd byddai'r cwestiwn o gydbwysedd wedi bod yn un pwysig. Heddiw, gydag ychydig o gyfnewidiadau defnyddir y ffurf yma o adeiladu yn ami iawn; mae'n gwestiwn p'un a yw'n hollol lwyddiannus ai peidio. Cynllun arall oedd crogi rheilffordd oddi wrth gadwyni ar draws y Fenai; adeiladu'r tiwb ar yr un lefel, ac yna ei thynnu i'w lle. Nid oedd hyn yn syniad ffafriol iawn oherwydd: (a) byddai canol disgyrchiant y tiwb yn uchel o'i chymharu â'r pellter rhwng yr olwynion, (b) y pwysau yr oedd angen ei symud, (c) problem ymsigliadau, (ch) y gôst. Gellid gorchfygu'r broblem gyntaf yn weddol trwy gynyddu'r pellter rhwng yr olwynion ond nid oedd y gweddill mor syml. Bwriad Stephenson i orch- fygu'r ymsigliadau oedd llwytho'r rheilffordd gyda wagenni o'r un pwysau â'r tiwb, a'u tynnu i ffwrdd fel y deuai'r tiwb arni. Felly byddai yr un tyniant yn y cadwyni drwy'r amser. Tybiwyd y byddai côst hyn oddeutu £ 150,000 — yr oedd côst y bont yn gyfangwbl o gwmpas £ 600,000. Yn y diwedd penderfynwyd adeiladu'r tiwbiau ar y lan a'u symud ar hyd wyneb y dwr i waelod y colofnau. Yr oedd y rhan gyntaf yn eithaf syml, a chymerodd yr adeiladu a'r profi Ie ychydig i'r de o graig Britannia. Cynhaliwyd cyngerdd yn un o'r tiwbiau ar Fai 18, 1849. Yn ôl y Times goleuwyd y tiwb â chanhwyllau, eisteddai'r 'byddigion' yn un pen yn ymyl y gerddorfa a'r gweithwyr y pen arall. Dywedir i'r sain fod o safon uchel iawn. Ffig.9 Nid oedd symud y tiwb at y colofnau'n fater mor hawdd. Meddyliwyd y gellid un ai roi balast yn y tiwb, selio'r ddau ben, a'u 'nofio' allan; neu 'nofio' pontwn oddi tanynt pan oedd y llanw'n isel a gadael iddynt gael eu codi ar ben llanw. Gwrthod- wyd y cynnig cyntaf oherwydd ei bod yn anodd cadw y tiwb yn bensyth a selio dau ben fel nad ai'r dwr-môr i mewn. Adeiladwyd y colofnau ar y ffurf a welir yn Ffigur 9. Gollyngai y pontwns y tiwb ar y silff, yna caent eu codi gyda chadwyni a jac dwr i'w safle penodedig. Yr oedd y tiwb yn cael ei chadw'n bensyth yn ystod y broses yma gan y bwlch a ffurfiwyd yn y golofn. Cafwyd damwain yn ystod y gwaith o godi'r tiwb pan dorrodd y jac. Lladdwyd un gweithiwr ac achoswyd difrod mawr i waelod y tiwb. Nid gwaith hawdd oedd 'nofio'r' tiwb allan i'r Fenai. Gwnaed pethau'n anodd gan y llanw rhyfedd, a nerth y llif. Naturiol felly oedd i fintai gref o bobl droi allan i weld y gwaith, ac ar un amgylchiad cawsant eu hunain yng nghanol y stwr a'r miri. Torrodd y capstan a oedd yn cael ei weithio 0 ochr Sir Fôn, ac o'r herwydd 'roedd perygl i'r tiwb nofio i ffwrdd a tharo un o'r colofnau. Galwyd ar y bobl yn ymyl i afael yn y rhaff, a thrwy gymorth rhai degau ohonynt llwyddwyd i atal y tiwb a'i harwain i'w lle. Yr oedd un ochr i'r bont yn barod ar Fawrth 4. 1850, a chroesodd Stephenson a'i gyfeillion y Fenai gyda'r trên y diwrnod canlynol. Profwyd y bont yn swyddogol, a chafodd ei hagor i'r cyhoedd ar Fawrth 18, 1850.