Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Ffseg Heddiw
VIII. Awdl y Bydysawd
UN o benodau mwyaf rhyfeddol ein gwareiddiad yw
ymgais dyn i fapio'r bydysawd, ac i olrhain ei
orffennol a phroffwydo ei ddyfodol. Yma cawn y
meidrol yn canfod yr anfeidrol ac un adlewyrchiad
o fawredd gwareiddiad yw ei syniad o safle dyn yn
y greadigaeth.
Er i'r Swmariaid, y Babyloniaid, yr Assyriaid a'r
Eifftiaid wneud cyfraniadau mawr,  ein syniadau
modern o'r cosmos a'r modd o'i archwilio yn l i
wareiddiad Groeg. Chwe chanrif cyn Crist 'roedd
Thales o Miletus wedi deall bod y ddaear yn gron
ac y goleuid y lleuad gan yr haul. Yn wir proffwyd-
odd eclips ar yr haul yn 586 c.c. Yna'r drydedd
ganrif cyn Crist cymharodd Aristarchus o Samos
y pellter o'r ddaear i'r lleuad ac o'r ddaear i'r haul
trwy ddefnyddio syniadau geometreg. Sylwedd-
olodd bod y ddaear a rhai o'r planedau yn cylch-
droi'r haul a bod y sr eraill bellter maith i ffwrdd.
Felly canfu'r gwr rhyfeddol hwn, a oedd ganrifoedd
cyn ei amser deyrnas yr haul. Rhai blynyddoedd
wedi ei farw, mesurodd Eratosthenes amgylchedd
y ddaear a'i ddiamedr a bu Hipparchus tua 150 c.c.
yn ddiwyd yn gwneud map o'r sr na ragorwyd
arno hyd yr unfed ganrif ar bymtheg.
Ond aeth syniadau a dulliau Groeg yn angof tan
y dadeni yn y bymthegfed ganrif. Ail gyhoeddodd
Copernicus ddysgeidiaeth Aristarchus fod y plan-
edau yn cylchdroi'r haul, darganfu Kepler reolau
empirig eu mudiant ac yn fwy pwysig fyth
darganfu Galileo y telescob. Ac i goroni'r cyfan
sylweddolodd Newton fod ei ddeddfau mudiant a'i
ddealltwriaeth o'r grym disgyrchiant yn gyffredinol
i fudiant corff yn disgyn i'r ddaear yn ogystal 
mudiant y planedau o gwmpas yr haul.
Map a chynnwys y bydysawd
Cyn y medrwn drafod ein dealltwriaeth cyfoes
o'r bydysawd rhaid yn gyntaf ddisgrifio ei gynnwys
a'r dulliau a ddefnyddiwyd i'w fapio. Ni ellir
defnyddio'r dull cyfarwydd o driongleiddio ond i
benderfynu pellter y planedau a'r haul y maent yn
ei gylchdroi a rhai sr cyfagos yn unig. Yn wir ni
'wyddwyd i fesur pellter rhai o'r sr cyfagos hyd
oed, tan 1838 pan wnaeth Bessel hynny yn
TEGID WYN JONES
Konigsberg. Defnyddiodd ddiamedr orbid y ddaear
o gwmpas yr haul fel ei linell bs a sylwodd ar y
gwahaniaeth bychan yn ongl godi'r seren fel yr
'r ddaear o un pen i'r orbid i'r llall mewn hanner
blwyddyn.
Yn ffodus iawn, sylwodd Miss H. Leavit o
Harvard yn 1911, fod goleuni rhai o'r sr cyfagos
ac felly o bellter gwybyddus yn dirgrynu a darganfu
ymhellach fod amledd y dirgryniant yn gymesur 
disgleirdeb absoliwt y seren. Dyma sr enwog y
Cepheid-sr sydd wedi datblygu mor bell fel nad
ydynt yn gwbl sefydlog o dan ddylanwad atdyniad
disgyrchiant a'r gwrthdyniad sy'n deillio o wres yr
adweithiau nuclear yn eu crombil. Yn y stad yma
o'u datblygiad maent yn llosgi nuclei trymach na'r
ddau danwydd cyntaf sef hydrogen a helium, ac
mae eu ansefydlogrwydd yn peri dirgryniant yn eu
parthau allanol.
Felly os gwelir y goleuni o seren bell, sydd 
spectrum tebyg i'r cepheidau cyfagos yn dirgrynu,
yna medrwn gymeryd yn ganiataol mai cepheid
ydyw ac mae ei disgleirdeb absoliwt yn wybyddus.
Mesurir ei disgleirdeb cymharol mewn telescob ar
ddaear a gellir yn hawdd benderfynu ei phellter o
gofio fod disgleirdeb cymharol yn hafal i'r
disgleirdeb absoliwt dros sgwr y pellter.
Ehangodd y darganfyddiad yma orwelion y
bydysawd o gyfundrefn yr haul a'i phlanedau a'r
sr cyfagos i'r galaeth o sr yr ydym yn rhan ohoni.
Mapiodd Shapley fraslun o freichiau spiral ein
galaeth ac yn eu tro canfuwyd y galaethau eraill
sydd bellterau enfawr i ffwrdd. Sylwyd hefyd fod
yn aml glystyrau crynion o sr y tu allan i gorff
galaeth ac weithiau mae'r galaethau eu hunain yn
clystyru gyda'i gilydd.
Pwyswyd llawer o'r galaethau trwy sylwi gyda
telescob ar fudiant rhai o'r sr ynddynt. Dewisir
sr sydd  spectrwm arferol eu golwg fel y gellir
amcanu eu pwysau. Oherwydd eu bod yn symud o
dan ddylanwad disgyrchiant ac felly pwysau'r
galaeth mae'n bosib amcanu faint o fater ac o sr
sydd ynddi. Yn aml ceir 1011 o sr mewn galaeth
unigol.
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.