Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

f Ysgolion NODIADAU BYWYDEG MELFYN R. WILLIAMS BWYDIAD PLANHIGION SY'N BLODEUO GALL planhigion gwyrdd amsugno sylweddau anorganig fel dwr, halwynau mwyn a charbon deuocsid o'u hamgylchedd a'u hadeiladu'n syl- weddau cymhleth organig a ddefnyddir at dyfiant ac i roi cyflenwad egni. Mae'r broses adeiladol yma'n mynd ymlaen yn barhaus yn y planhigyn, ac mae'n weithred bwysig tu hwnt, nid yn unig i'r planhigyn ond i'r anifeiliaid oll. Amsugnir y defnyddiau crai i'r planhigyn gan y gwraidd a'r dail. Felly peth doeth fuasai ymdrin yn fwy manwl â fframwaith y rhannau hyn yn ogystal â'r coesyn, gan fod yr olaf yn cludo'r sylweddau i wahanol rannau o'r planhigyn. CYFUNDREFN Y GWRAIDD A'I GWAITH FFRAMWAITH MEWNOL GWREIDDYN IFANC O dan y meicrosgop mae toriad o wreiddyn ifanc yn dangos fod un haen o gelloedd o'r enw yr haen bilifferus yn cau amdano. Mae amryw o'r celloedd hyn wedi'u tynnu allan i ffurfio gwraidd- flew. Mae'r rhain yn cynyddu'r arwyneb amsugno'n helaeth iawn a hefyd gallant dreiddio rhwng y gronynnau pridd (Ffig. 1). Ffìg. 2. Gwahanol fathau o seilem Ffig.1 1 Toriant trawslin o wreiddyn fanc Mae'r haen bilifferus yn amgylchynu pentwr o feinwe meddal o'r enw cortecs ac yn y canol mae bywyn (core) o feinwe cludo. Mae'r bywyn yma'n cynnwys grwpiau o phloem a seilem bob yn ail. Mae'r seilem wedi'i wneud o gelloedd heb brotoplasm byw ond gyda waliau wedi'u cryfhau â lignin (pren). Mae rhai yn ffurfio tiwbiau hir neu lestri sy'n rhedeg drwy'r gwreiddyn a'r coesyn i ddiweddu yng ngwythiennau'r ddeilen. Hwn yw'r prif feinwe cludo dwr yn y planhigyn. Ceir nifer o