Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yn rhedeg drwy ganol llafn y ddeilen (lamina) nae parhad y deilgoesyn (petiole) sy'n cynnwys mî wythïen y ddeilen. Mae yna nifer o wythiennau ilai yn rhedeg o hon ac yn rhannu amryw o weithiau ffurfio rhwydwaith y tu mewn i'r llafn (Ffig. 14). Gellir gweld y rhwydwaith yma wrth ddal y ddeilen i'r golau, ond yn well fyth drwy archwilio sgerbwd deilen farw lle mae'r meinweoedd meddal wedi pydru gan adael y gwythiennau yn amlwg. Mae'r gwythiennau yn cynnal llafn y ddeilen eiddil ac hefyd yn cludo dwr o'r coesyn a'r gwraidd i gelloedd y ddeilen. Mae hefyd yn cludo bwyd a gynhyrchir gan y ddeilen i bob rhan o'r planhigyn. Dengys toriant trawslin o'r ddeilen fod wyneb uchaf ac isaf y ddeilen wedi'i ffinio gyda haen sengl o gelloedd epidermis. Mae'r haen yma'n ddiliw heblaw am y celloedd gwarchod sy'n amgylchynu'r stomata. Yn gorchuddio tu allan yr epidermis mae haen denau fel cwyr o'r enw argroen (cuticle). Mae hwn yn annhreiddadwy i nwyon ac anwedd dwr. Tu mewn i'r epidermis mae'r mesophyl sy'n cynnwys celloedd a chloroplastau. Rhennir y mesophyl yn ddwy haen: (a) yr haen uchaf balis, (b) yr haen isaf feddal (Ffig. 15). HAEN BALIS Mae'r celloedd palis yn silindrig, wedi'u lleoli nesaf at ei gilydd ac yn iawn onglog i wyneb y ddeilen. COLEG PRIFYSGOL ABERTAWE UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: F. LLEWELLYN-JONES, C.B.E., M.A., D.PHIL., D.SC., F.INST.P. Darperir y cyrsiau canlynol i fyfyrwyr gwyddonol: (a) Graddau Prifysgol Cymru mewn Gwyddoniaeth Bur a Gwyddoniaeth Gymwysedig. (b) Diploma'r Coleg mewn Ffiseg Fathemategol. (c) Diploma'r Coleg mewn Cartograffì. (ch) Diploma'r Coleg mewn Peirianneg Gemegol. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Bur yn cynnwys Athroniaeth, Seicoleg, Economeg, Mathemateg Bur, Ystadegau, Mathemateg Gymwysedig, Ffiseg, Cemeg, Daeareg, Daearyddiaeth, Botaneg, Swoleg, Geneteg, Microbioleg ac Eigioneg. Mae'r cyrsiau yng Nghyfadran Gwyddoniaeth Gymwysedig yn cynnwys Peirianneg Sifil, Trydanol, Mecanyddol, Technoleg Cyfrifyddol a Diwydiannol, Peirianneg Gemegol, a Meteleg. Ceir Neuaddau Preswyl ar gyfer dynion a merched. Dyfernir Ysgoloriaethau Derbyn bob blwyddyn ar sail canlyniadau arholiadau lefel 'A'. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. Ffig 15 Toriant trawslin o'r ddeilen HAEN MESOPHYL MEDDAL Mae'r celloedd hyn yn afreolaidd iawn eu ffurf ac wedi'u pacio'n llac hefo'i gilydd. Rhyngddynt mae amryw o wagleoedd rhyng-gellol. Yn yr epidermis isaf mae yna nifer o dyllau mân o'r enw stomata. Drwy'r rhain mae'r gwagleoedd rhyng-gellol mewn cysylltiad â'r awyr y tu allan i'r ddeilen. CYWIRIAD Yn erthygl I Ysgolion, Rhifyn Medi 1972, t. 140 (5) (c), yn lle 'diogelu llinyn arian', darllener 'diogelu madruddyn y cefn'; yn lle 'Madruddyn y cefn (spinal cord)', darllener 'Ysgerbwd atodol (appendicular skeleton)'.