Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Agweddau ar Archaeoleg Diwydiannol VI. Gogledd Cymru Llun I. Pyllau adennill copor Mynydd Parys YN y rhagair i'w gyfrol The Industrial Rerolution in North Wales dywed yr Athro A. H. Dodd bod pwrpas deublyg i'r llyfr ac un ohonynt oedd taflu golwg newydd ar agwedd o'r chwyldro na chafodd o'r blaen ei sylw priodol. Bellach, ceir amcan o gyfraniad y rhan yma o Gymru i'r cyfnod arbennig yma ar leoliadau cloddfeydd mwyn plwm, mwyn copor, olion adeiladau smeltio a nifer fawr o chwareli. Nid mannau gweithio mewn ardaloedd poblog mohonynt, ond tystia aml un i fedr, dyfeisgarwch a dyfalbarhâd eu rheolwyr a'u gweithwyr. Mae hawl i amau'r cysylltiad rhwng y term 'chwyldro' a thyfiant diwydiant am mai ffrwyth llafur hir a dygn, rhan amlaf, yw peiriant neu D. MORGAN REES broses newydd. Datblygu wnaeth diwydiant a deil i wneud hynny. Ond pan edrychir ar hanes diwyd- iannau mae'n bosib dweud mai yn ystod cyfnod neu oddi mewn i flwyddyn arbennig y gwelwyd dechrau ar y cynnyrch mawr, pa bryd y dechreuodd y trai ac y daeth y terfyn. Mae hyn oll yn arbennig o wir am hanes mwyngloddio am gopor ar Fynydd Parys ym Môn. Yno, darganfuwyd yr 'Wythien Fawr' ym 1768 ac mewn ychydig flynyddoedd 'roedd 3,000 o dunelli o gopor metelig yn cael eu cynhyrchu o'r gweithfeydd ar ochrau gorllewinol a dwyreiniol y Mynydd, hynny yw, Cloddfa Parys, a Chlodda Mona. Cloddiwyd i ddyfnder o 570 troedfedd o dan wely'r môr ac 'roedd man uchaf suddo sia ft