Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stanley PHce Morgan Bligh GANWYD Stanley Price Morgan Bligh yn 1871. Efe oedd unig fab Oliver Morgan Bligh, Aberhonddu, ac Ellen Edwards o'r Clifton. Ar ochr ei dad yr oedd yn hanu o gyff y llyngesydd Bligh, capten y Bounty. Bu'r teulu Bligh mewn busnes yn Aberhonddu, a thrwy briodas daethant i feddiant stad Prysiaid Cilmeri bob ochr i Afon Irfon, rhwng Llanfair-ym- Muallt a Llangamarch. Thomas Price Bligh oedd y Bligh cyntaf i etifeddu'r stad, a dilynwyd ef gan ei frawd Oliver Morgan Bligh. Disgynnodd y Bligh gwreiddiol o deulu tiriog yng Nghernyw. Yr oedd Yswain Cilmeri wedi etifeddu gwaed Celtaidd o un ochr o'r teulu fodd bynnag, a hawdd credu hynny o'i adnabod yn dda. Cafodd Stanley Bligh ei addysgyn Eton a Choleg y Drindod, Rhydychen. Galwyd ef i'r Bar (Inner Temple) yn 1895, a gweithredodd am rai blynydd- oedd ar gylchdaith deau Cymru mewn cysylltiad â John Sankey (Arglwydd Sankey wedyn). Cyfrifid Bligh yn arbenigwr mewn rhan o'r gyfraith, ac o'r herwydd bu gofyn am ei gyngor yn y maes hwnnw. Yn 1895 priododd Matilda Agnes Wilson, merch yr Uchgapten John Wilson o'r Royal Scots Greys, un o'r ychydig a ddaeth yn ôl yn ddihangol o Ruthr y Light Brigade (1854) yn Rhyfel y Crimea. Ar ôl cyfnod gyda'r Bar, galwodd ei fam weddw ef adref i ofalu am yr ystad. Ni wyddai lawer am y gelfyddyd o amaethu, a llai am amaethu gwyddonol. Estynnai'r ystad tros 2,969 o erwau, a golwg ddigalon oedd arnynt wrth edrych i lawr o ucheldir yr Epynt. Tiroedd gwyllt, gwlyb, diffaith, a phor- feydd garw oedd cyfran helaeth o ffermydd Bligh. Digon hawdd oedd synio am anffrwythlondeb y borfa o bellter yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf am ei fod mor llwytgoch. Ychydig o ddefaid a da corniog a welid ar yr erwau am eu bod yn tueddu i nychu arnynt. Am fod y pridd yn dra chleiog a thlawd ar y llechweddau, 'roedd yr arwynebedd yn wlyb, ac yn magu brwyn a carex. Yno 'roedd y defaid yn debyg o ddioddef o'r ffliwc a chael eu lladd wrth y cannoedd. Ar y llaw arall, 'roedd priddoedd gwael a sych ar y blaenau, i fyny tros fil o droedfeddi, yn tyfu cawn pensidan a pheisgwellt y defaid. Os nad oeddynt yn weiriau maethlon iawn, yr oeddynt yn rhydd o'r ffliwc. Sylweddolodd yr Yswain nad oedd GWILYM EVANS Hawlfraint: Bridfa Blanhigion Cymru gan ei ddeiliaid ddiddordeb mewn gwella'r por- feydd diffaith. Credent y dylent roi llonydd i'r tir garw, a rhoi sylw i drin y tir gorau, a gwella ansawdd y gwartheg a'r defaid. Gochelwyd ceisio codi cynnyrch porfa'r tir gwlyb heb ei sychu, dim ond llygru'r defaid wnai hynny, gyda'r canlyniad bod llawer o'r stad yn orestydd llydain. Credai Bligh fod miliwn o erwau diffaith yng Nghymru y gellid eu gwella yn sylweddol, a dwyn elw. Felly, yn wr ifanc gwrthododd y syniad na ddylid gwneud dim i wella'r porfeydd sâl. Dywedodd C. S. Orwin, Rhydychen, amdano: 'Dyma enghraifft o antur- iaeth dyn a oedd yn anfodlon derbyn y safon amaethu oedd o'i gwmpas fel rhywbeth digyfnewid. Datblygodd ddulliau effeithiol a darbodus o wella tir pori gwnaeth hynny heb offer costfawr na medr neilltuol'. Gyrru ymlaen wnaeth yr yswain heb wybodaeth na phrofiad, ond meddwl diwyli- iedig a dogn o synnwyr cyffredin.