Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Silff Lyfrau Living on the Third Planet, gan Hannes Alfven a Kerstin Alfven. W. H. Freeman. Reading, 1972. Tud. viii + 187. Pris £ 2.20. Ar y cychwyn ni chafodd syniadau Hannes Alfven fawr o dderbyniad. Awgrymodd ei waith ymchwil y syniad o donnau hydromagnetig a oedd yn hollol groes i'r ddamcaniaeth gydnabydd- edig am donnau electromagnetig a allai dreiddio ond ychydig bellter i mewn i drawsgludydd. Modelau ffisegol yn hytrach na mathemategol a ddefnyddiodd, felly 'roedd yn 1934 genhedlaeth o flaen ei oes. Bellach, mae llawer oedd yn trin ei waith yn gwbl ysgafn wedi cael defnydd mawr o'i syniadau. Cyflwynwyd Gwobr Nobel am Ffiseg iddo yn 1970 ac fe'i anrhydeddwyd gan Rwsia yn 1971 gyda Medal Aur Lomonsov. Yn y llyfr hwn cymer Hannes Alfven a'i briod Kerstin Alfven gipolwg ar y blaned yr ydym yn byw arni a'i gosod yn ei fframwaith gosmolegol briodol. Mae'n gosod y creu, bywyd a marw mewn perspectif eang, nes prin y gall y darllenydd eu hadnabod. Er hynny, fe all y lleygwr ymdeimlo bod meddwl mawr ar waith yma. Edrycha hefyd ar drigolion y blaned-gwleidyddwyr a gwyddonwyr -ac ni all yr un ohonom, wedi darllen ei sylwadau, deimlo'n hunan-bwysig eto. Wedi gorffen ysgrifen- nu'r sylwadau hyn af ati i'w ddarllen eto. Efallai daw goleuni cliriach ar ei neges. Mae'n rhaid bod rhyw ystyr i'r cwbl, ond ni allaf yn fy myw ei weld hyd yma. Fel ei waith cyntaf efallai y cymer 36 mlynedd eto i ni sylweddoli mawredd ei syniadau! Continents Adrift. Casgliad o ysgrifau allan o Scientific American. W. H. Freeman, 1972. Tud. 172. Pris £ 3.16 (clawr caled), £ 1.40 (clawr meddal). Ymddangosodd cynnwys y llyfr yma yn gyntaf yn y cylchgrawn rhagorol hwnnw Scientific American. Er hynny, nid oes amheuaeth bod iddynt werth parhaol. Dosbarthir yr erthyglau yn dair rhan. Yn gyntaf ymdrinir â'r syniad bod y ddaear yn graddol golli eu ffurf. Yn ail, ystyrir y symud graddol a ganfyddir yn y cyfandiroedd, ac yn olaf dangosir bod canlyniadau pendant yn dilyn y newidiadau sydd yn dylanwadu ar esblygiad. Y mae'r deunydd wedi ei gyflwyno'n rhagorol ac fe ddylai pawb sy'n diddori mewn daeareg ei ddarllen. G.O.P. The Birth of Penicillin, gan Ronald Hare. Geor^; Allen ac Unwin, Llundain. Tud. 236. Pris £ 3.1 Bellach aeth y stori am ddarganfyddiad penicillin yn rhan o chwedloniaeth gwyddoniaeth. Pwy na chlywodd am Fleming yn gweithio yn Ysbyty St. Mary's, Llundain, ac i beth llwydni ddod drwy'r ffenestr agored a disgyn ar y plât bacteria a'u lladd ? 'Rhaid bod gwerth yn y llwydni', meddai Fleming, a dyna penicillin wedi'i ddarganfod. Mae'n tanio'r dychymyg yn sicr, ond nid fel yna y digwyddodd yn ôl awdur y llyfr yma. 'Roedd yn gweithio yn y labordy lle y darganfuwyd penicillin, ac mae'n nodi llawer iawn o ffactorau eraill, ynddynt eu hunain yn anghysylltiedig, a arweiniodd at y cyffur newydd chwyldroadol. Mae'n trafod hefyd yr amgylchiadau o amgylch y darganfyddiad o'r cyffuriau sulphonomid. 'Roedd Dr. Ronald Hare yn dyst i'r triniaethau cyntaf y tu allan i'r Almaen gyda'r cyffur hwn. Gwyrthiol oedd y farn pryd hynny ac mae'r awdur yn parhau i gofio'r wefr hyd heddiw. Llyfr dadleuol ydyw yn sicr, ond nid oes am- heuaeth bod angen adroddiad ffeithiol am ddargan- fyddiad y cyffuriau pwysig hyn. Yn ei brwdfrydedd mae y wasg boblogaidd wedi creu stori ramantus, ond anghywir, am ddarganfyddiad penicillin, yn arbennig. Nid yw'r ffaith hanner mor ddiddorol â'r dychymyg, ac ar waethaf y llyfr hwn, bydd un genhedlaeth ar ôl y llall yn siwr o glywed y stori am y ffenestr agored. G.O.P. Pure, White and Deadly: The Problem of Sugar, gan John Yudkin. Davis-Poynter Ltd., Llundain, 1972. Pris £ 2.25 (clawr caled), £ 1.50 (clawr j meddal). Ar gyfartaledd fe fwyteir tua dau bwys o siwgr y pen bob wythnos gan drigolion gwledydd Prydain. Bechgyn yn eu harddegau yw'r pechadur- iaid mwyaf yn hyn o beth--bwytánt ryw dri phwys yr wythnos a chryn gyfran o hyn ar ffurf melysion a theisennau. Ganrif a hanner yn ôl ychydig iawn o siwgr (rhyw ddau bwys y pen bob blwyddyn) a fwyteid. Yn ystod y blynyddoedd diweddar hyn cafwyd mwy nag un awgrym fod bwyta siwgr-ac yn enwedig hyd at ormodedd yn beth y dylid ei osgoi: prif ladmerydd y feirnid- aeth hon ym Mhrydain yw John Yudkin, c>i- Athro Ymbortheg ym Mhrifysgol Llundain. Yn ei lyfr diweddaraf, Pure, White and Deadly, c 'ir