Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

:yflwyniad cryno a darllenadwy iawn o'r rhesymau dros ei safbwynt. Defnyddia Yudkin ddau fath o dystiolaeth. Ýn gyntaf, dengys fod amlder rhai clefydau ac yn enwedig clefyd y galon) yn codi law-yn-llaw à'r siwgr a fwyteir. Ac yn ail, defnyddia arbrofion o'r labordy i ddangos fod cynnwys siwgr mewn lluniaeth anifeiliaid bychain yn newid eu patrymau metabolaidd ac yn byrhau hyd eu heinioes. Craidd ei theori yw fod swcros (siwgr) yn peri fod gormod o fraster yn ymgrynhoi yn y cnodweoedd a bod hyn, yn ei dro, yn cychwyn newidiadau dirywiol sy'n arwain i glefyd y galon ac afiechydon eraill. Oherwydd hyn, mae Yudkin am weld y Llywod- raeth yn gosod gwaharddiad ar ddefnyddio siwgr. Erbyn hyn y mae damcaniaeth Yudkin wedi ei thrafod bron ad nauseam yn y cylchgronau gwydd- onol a chan y gwahanol gymdeithasau. Ond ychydig, hyd yma, sy'n barod i dderbyn holl ymhlygiadau ei thesis. Efallai mai'r droedigaeth fwyaf trawiadol oedd eiddo Yudkin ei hun- dywed iddo ostwng y siwgr a gymerai ei hun o chwe phwys yr wythnos i ryw ddwy owns. Y mae rhai pethau nad oes modd eu gwadu. Yn ystod y ganrif ddiwethaf bu cynnydd sylweddol iawn yng nghyfanswm y siwgr a fwyteir mewn nifer o wledydd. Ac yn sicr, gallai newid sydyn o'r math hwn osod straen fetabolaidd ar y corff-yn enwedig os digwydd yn gyflymach na gallu ymaddasol y corff. Nid yn hollol annisgwyl felly fyddai canfod canlyniadau dirywiol yn digwydd yn y corff. Yn sicr dyma un o'r meysydd ymchwil pwysicaf yn ymbortheg fodern, ac er bod cyfraniad Yudkin yn un teilwng iawn, fe fydd eisiau llawer rhagor o waith arbrofol cyn y gellir derbyn ei ddamcaniaeth yn hollol ddibetrus. Chemistry in Industry: Food and Drugs, gan Peter Tooley. John Murray, 1971. Pris £ 1.85 (clawr llipa), £ 2.85 (clawr caled). Dyma deitl arall mewn cyfres sydd eisoes wedi derbyn cryn ganmoliaeth ar dudalennau Y GWYDD- ONYDD. Awgrymir mai fel tarddiad-lyfr ar gyfer athrawon ysgol y sgrifenwyd y llyfr hwn yn bennaf ond yn sicr, fe ddylai fod o gryn werth hefyd i fyfyrwyr coleg sy'n dilyn cyrsiau mewn bioleg gymwysedig neu gemeg gymwysedig. Cynnwys bedair adran-Cemeg Bwyd, Gwarchod Cnydau, Poenleiddiaid a Sylweddau Gwrthfacteraidd. Ym- hob pennod telir sylw arbennig i'r cefndir hanesyddol ac i'r berthynas rhwng saernïaeth folecylaidd a gweithgaredd biolegol. Llyfr ardd- crchog ac un y gellir ei gymeradwyo yn ddibetrus. R.E.H. Experiments and Models for Young Physicists, gan A. D. Bulman. Ail argraffiad. John Murray, Llundain, 1972. Tud. vi + 87. Pris £ 1.50. Dilyn ffurf y llyfr hwn yr un patrwm â'r argraffiad cyntaf ohono yn 1966, ag eithrio un peth-y tro yma defnyddir unedau S.I. Gwyr y rhai sy'n wybyddus â'r argraffiad cyntaf, fod y llyfr yn cynnwys darluniau eglurhaol da, ffotograffiau o gyfarpar gorffenedig a manylion llawn yn disgrifio sut i wneud deuddeg cyfarpar â'r modelau. Mae cryn amrywiaeth yn y safon; ceir gwaith llawer mwy anodd i'r ffisegwr ieuanc yn y llyfr hwn nag yn y llyfr blaenorol gan yr un awdur. Cynnwys y llyfr presennol schemograff, modur dwr, osigladur awdio, a llestr niwl Wilson. Ceir esboniadau ar y ffiseg a ddefnyddir, ac awgrymiadau am arbrofion i'w gwneud gyda'r aparatws. Er fod pob cam yn cael ei esbonio'n glir iawn, mae'r awdur wedi llwyddo i osgoi gormod o ddamcaniaethau cymhleth. Mae'r llyfr yn werth i'w gael mewn ysgol-gellir ei ddefnyddio gan ddisgybl ac athro, heb o angenrheidrwydd wneud yr aparatws a awgrymir. Gresyn fod ei bris bron wedi dyblu ers yr argraffiad cyntaf. GWILYM EILIAN OWEN LLYFRAU ERAILL A DDERBYNIWYD Outdoor Biology, gan O. N. Bishop. Llyfrau 1, 2 a 3. John Murray, 1971. Pris 50c yr un. Cyfres o dri llyfr ar gyfer plant o oedran 9-13 a'r cwbl yn seiliedig ar weithgareddau ymarferol. Mae hefyd lyfr at wasanaeth yr athro (pris 80c). Experimental Work in Biology, gan D. G. Mackean. Llyfrau 1 (Food Tests), 2 (Emymes) a 3 (Soil). John Murray, 1971. Pris 25c yr un (Nodiadau'r Athro, 30c yr un). Llyfrau ar gyfer arholiadau lefel-O a TAG. Digon o amrywiaeth a digon o ddewis i ateb gofynion disgyblion o wahanol alluoedd meddyliol. Chemistry: An Electronic and Structural Approach, gan H. G. Wallace a V. W. Cowell. John Murray. Tud. 267. Pris £ 1.50. Nid oes yn rhaid dysgu cemeg heddiw yn yr hen ddull anniddorol. Mae i'r pwnc drefn, oherwydd bod gan yr elfennau eu hunain gyfansoddiad trefnus. Gyda gwybodaeth am adeiladwaith yr elfennau, a'r modd y cysylltant, gellir proffwydo nodweddion y molecylau a ffurfiant. Llyfr campus. Radiochemistry. Cyhoeddir gan y Gymdeithas Addysg Wyddonol. John Murray. Casgliad gwerthfawr i ysgolion o arbrofion gydag ymbelydredd.