Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ABERTAWE Penodwyd Dr. Eric G. Brown yn Athro yn adran newydd Biocemeg. Ymunodd Dr. Brown â staff y Coleg fel darlithydd mewn biocemeg yn yr adrannau Bywydegol ym 1959 a dyrch- afwyd ef yn Ddarllenydd ym 1970. Bydd yr adran newydd yn ymgartrefu dan yr un to â'r adran Gemeg a bydd dau ddarlithydd yn cydweithio â'r Athro. Ymunodd Dr. J. D. Davies o adran Peirianneg Sifil â staff y Coleg yn yr un flwyddyn â'r Dr. Eric Brown, ac yn ddiweddar dyrchafwyd yntau yn Athro, i gadair bersonol. Datblygiad diddorol ydyw'r nifer o gadeiriau personol a welwyd yn y Coleg yn ddiweddar. Dyma un ffordd o gadw staff rhag symud i brifysgol arall er mwyn sicrhau dyrchafiad yn unig, ac o gadw'r timau ymchwil sydd mor bwysig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg heddiw gyda'i gilydd. Mae'r Athro Davies yn flaenllaw ym maes adeiladu cronfeydd. Anrhydeddwyd yr Athro O. C. Zien- kiewicz o'r un adran, sef adran Peirian- neg Sifil, â gradd anrhydedd gan Labordy Cenedlaethol Peirianneg Sifil Portiwgal, oherwydd ei waith disglair mewn ymchwil ac addysg. Dyrchafwyd Dr. P. L. Arlett, prif ddarlithydd mewn peirianneg drydanol, a'r Dr. F. T. Banner, prif ddarlithydd mewn eigioneg, yn Ddarllenwyr yn y Brifysgol. Derbyniodd Dr. V. J. Phillips, adran Peirianneg Drydanol, a'i fyfyrwyr ym- chwil M. H. Lee a J. E. Thomas, wobr Dr. Norman Partridge am y papur disgleiriaf a gyhoeddwyd yn ystod 1971 gan Sefydliad y Peiriannwyr Electroneg a Radio. Testun y papur oedd Sgramblo Seiniau Trwy Ad-drefnu Osgledau Dethol. Cyflwynodd cwmni Alcoa, o Waunar- Iwydd, ddyfais gwerth £ 20,000 a elwir yn gwantometer, i adran Meteleg. Gall y ddyfais hon ddadansoddi hyd at bymtheg o elfennau mewn aloi o fewn ychydig o eiliadau; ar un adeg byddai'r dadansoddi yn cymeryd pedair awr ar hugain. Bu Dr. G. Kelling, adran Daeareg ac Eigioneg, yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar yn cydweithio mewn ymchwil i geunentydd dwfn tanfor. Yn y gwaith hwn defnyddir llong suddo i blymio yn ddwfn i ddyfnderoedd Môr Iwerydd. Nodiadau o'r Colegau Llongyfarchiadau i Mr. John Uzzell Edwards, technegydd yn adran Daeareg, ar ennill y brif wobr am arlunio yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd. Gwelwyd y darlun buddugol gan lawer yn y Coleg. Soniais yn y rhifyn diwethaf am y casgliad archaeolegol ddiddorol a ddaeth i ddwylo'r Coleg eleni. Darganfu'r Curadur, Dr. Kate Bosse Griffiths, un eilun diddorol yn y casgliad y tybir ei fod tua chwe mil o flynyddoedd oed. Cyflwynodd Dr. Griffiths bapur ar yr eilun hwn mewn cynhadledd yn yr Eidal yn ddiweddar. ABERYSTWYTH Eleni yw blwyddyn dathlu can- mlwyddiant y Coleg ond er bod prysur- deb arbennig ynglýn â'r trefniadau ar gyfer gwneud hyn mewn modd teilwng o'r achlysur ni chaniatawyd iddynt ymyrryd i unrhyw fesur gweladwy â phriod-waith academaidd myfyrwyr nac athrawon. Cychwynnwyd y rhaglen ddathlu ar fore Hydref 13eg mewn gwasanaeth crefyddol yn y Neuadd Fawr pan anerchwyd y cynulliad gan Archesgob Cymru. Hydref 13eg hefyd oedd dyddiad cyhoeddi 'Hanes y Coleg' gan Dr. E. L. Ellis o'r adran Hanes. Teg yw nodi'r digwyddiad cofiadwy yma ar y tudalen- nau hyn oherwydd y mae'r gyfrol yma'n ffrwyth ymchwil manwl a gofalus wedi ei gofnodi'n drefnus a'i gyflwyno'n ddi-ragfam mewn arddull raenus a chynnil. Ar yr un dyddiad, agorwyd arddan- gosfa yn y Coleg yn olrhain ei hanes ac un arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dangos casgliad eang o weithiau cynfyfyrwyr a staff y Coleg. Eto ar y 13eg cyhoeddwyd amlen arbennig a dilead llaw i goffhau'r canmlwyddiant. Rhoid stamp tair cein- iog arnynt yn dangos Adeilad y Gwyddorau Ffisegol. Trefnwyd rhaglen eithriadol o ddar- lithiau cyhoeddus yn Nhymor Mihangel. Dechreuwyd gan y Gwir Anrhydeddus Harold Wilson ar Hydref 21ain a chafwyd darlithiau gan Yr Athro Syr Herbert Butterfield, Y Gwir Anrhyd- eddus Arglwydd Harlech a Mr. Derek Ezra yn ystod gweddill y tymor. i.w.w. Yn ystod Tymor y Grawys a gwyliau'; Pasg bydd nifer o gyfarfodydd gwydd onol o gryn ddiddordeb. Ar Fawrth 23 1973, bydd cyfarfod o'r Sefydliac; Ffisegol yn y Coleg ac fe'i anerchir gan Syr Graham Sutton, C.G.F. (un o Is-Lywyddion y Coleg) ar ddatblygiad gwyddor y tywydd (A Review of Meteorology, 1920 onwards). Bydd Cyf- arfod Blynyddol Gwledig Cymdeithas Fathemategol Llundain yn Aberystwyth hefyd i ddathlu 'Canmlwyddiant yr Adrannau Mathemategol' ac fe drefn- wyd cyfarfod arall gan Ysgol y Gwydd- orau Biolegol ar 'Hanes Bioleg yng Nghanolbarth Cymru' (History of Biol- ogy in Mid- Wales). Yng ngwyliau'r Pasg cynhelir dwy Symposiwm yn yr adran Gemeg; un ar 'Chemistry and the Community' (Cemeg a Chymdeithas) a'r lla.ll ar "Chemistry at Aberystwyth from 1920 Onwards'. Nodion o'r Adrannau Addysg. Yn ystod gwyliau'r haf gorffennwyd Cynllun Cyngor yr Ysgol- ion ar ddysgu gwyddoniaeth a mathe- mateg trwy gyfrwng y Gymraeg. Disgwylir cyhoeddi dros drigain o lyfrynnau seiliedig ar gynnyrch y Cynllun hwn. Hefyd yn ystod y gwyliau cynhaliwyd cynhadledd o athrawon Adrannau Addysg Prifysgolion Prydeinig sy'n gyfrifol am hyfforddiant mewn dulliau dysgu Cemeg a Ffiseg. Trefnwyd y rhaglen gan Mr. E. G. Hall o adran Addysg Aberystwyth. Cafodd yr ym- welwyr ymarfer â rhaí o arbrofion mwyaf 'anodd' Cynllun Nuffield dan gyfarwyddyd Mr. Hall. Cafwyd darlith gan Dr. Iwan B. Williams, prifathro Ysgol y Berwyn, ar 'Barn Prifathro ar Hyfforddiant Athrawon Gwyddoniaeth' (A Headmaster's View of Science Teacher Training). Amaethyddiaeth. Trist yw cofnodi marwolaeth Dr. R. S. Edwards, Darlith- ydd Uwch yr adran tan 1970, pan fu raid iddo gymryd at waith ysgafnach yn Llyfrgell y Coleg oherwydd ei afiechyd. Dioddefodd afiechyd dwys am amser maith yn ddirwgnach a gresynwn o goll: ymchwiliwr galluog a thrwyadl; athro da a chyfaill teyrngar. Estynnwn eii cydymdeimlad diffuant i'w weddw a' plant.