Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae parhad y gefnogaeth ariannol sylweddol iawn a dderbynnir o'r C.Y.G. yn destun boddhad teilwng i ymchwil- wyr yr adran a'u cyfarwyddwyr ac mae'r cynnydd eithriadol yn nifer y myfyrwyr a dderbyniwyd i'r adran eleni'n argoeli'n addawol am y dyfodol. Daearyddiaeth. Yn ystod yr haf bu'r Athrawon Kidson a Carter yng Nghyng- res Ryngwladol Daearyddiaeth ym Montreal. Bu'r naill hefyd mewn Symposiwm ar Forffoleg Arfordirol yn Nova Scotia a'r llall yn cyfrannu mewn Symposiwm yn Toronto ar Dyfiant Trefol mewn Gwledydd sy'n Datblygu. Wedi'r Gyngres Ryngwladol bu'r Athro Carter yn astudio'r Cordillera Gor- llewinol yn Canada a'r Athro Kidson yn darlithio i'r Sefydliad Astudiaethau Arfordirol yn Louisiana. Bu Mr. D. J. Unwin yn cynorthwyo mewn Ysgol Haf ym Mhrifysgol Manitoba ac yn ymweld â Symposiwm y G.R.D. ar 'Dyn a'i Amgylchfyd' yn Calgary ac â'r Sefydliad Ymchwil Arctig Alpaidd yn Boulder, Colorado. Ar ddechrau'r haf gwahoddwyd myf- yrwyr ymchwil a staff Sefydliad Daear- yddiaeth Diwylliannol Prifysgol Stock- holm i Symposiwm ar Ddaearyddiaeth Dynol yn Aberystwyth. Trefnwyd y Symposiwm gan Dr. Morgan Davies a bu ef ar ymweliad â Sweden dan nawdd y Cyngor Prydeinig. Ym Medi cyfarfu Cangen Astud- iaethau Trefol Sefydliad y Daearyddwyr Prydeinig yn Aberystwyth. Anerchwyd y Gangen gan ei Chadeirydd, yr Athro Harold Carter. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd dau lyfr o bwys gan aelodau o'r adran, A Concise Physical Geography (Daearyddiaeth Ffis- egol Cryno) dan olygyddiaeth Dr. D. Q. Bowen, ac yn cynnwys cyfraniadau gan Dr. B. E. Davies. Bydd hwn o werth arbennig i'r VI Dosbarth ac i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn y prifysgolion. Hefyd cyhoeddwyd llyfr yr Athro Carter at The Study of Urban Geography (Astudiaeth o Ddaearyddiaeth Drefol). Y mae hwn yn addas i astudiaeth o safon gradd anrhydedd. Un o gyfraniadau'r adran at Gan- mlwyddiant y Coleg oedd cyhoeddi catalog cyfan a llwyr o'r Casgliad Mapiau ac Atlasi. Gwahoddir pawb o fyfyrwyr a staff y Coleg i wneud defnydd o'r Casgliad trwy gyfrwng y Catalog newydd. Derbyniodd Dr. B. E. Davies gymorth sylweddol o'r C.Y.A.N. (N.E.R.C.) i gefnogi ei waith ymchwil ar elfennau prin yn y pridd gyda golwg ar lygriad yr amgylchfyd gan sbwriel gweithiau mwynol. Y mae hwn yn destun perth- nasol iawn yng Ngheredigion a chyfran- nodd y Cyngor Sir £ 1,000 eisoes at yr ymchwil. Llysieueg a Microbioleg. Etholwyd yr Athro Wareing yn Aelod o Academi Gwyddorau'r Almaen. Fe'i penodwyd yn Gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol y Comisiwn Coedwigaeth ar Ymchwil mewn Coedwigaeth. Fe'i penodwyd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg Biolegol y Gymdeithas Frenhinol a'r Sefydliad Biolegol. Llongyfarchwn Dr. J. W. Bradbeer, cyn-aelod o staff yr adran, ar ei ethol i Gadair Bersonol mewn Llysieueg yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain. Ymadawodd Dr. J. van Staden â'r adran i ddychwelyd i Brifysgol Natal a Dr. J. Box i ddychwelyd i'r Iseldiroedd gyda'n dymuniadau da. Croesawn Mr. Roger Menhennet o Brifysgol Canberra i'r adran. Yn ddiweddar cyfrannodd yr Athro Wareing a'r Drd. Horgan, Hall, Woolley ac eraill at raglen deledu Prifysgol yr Awyr ar 'Tyfiant a Datblygiad Plan- higion'. Cyflwynodd Dr. Muriel Rhodes a Mr. D. Wynn-Williams eglureb ymar- ferol ar 'Clymiad Nitrogen mewn Amgylchfyd Arfordirol' (Nitrogen Fixa- tion in Coastal Marine Environments) yng nghyfarfod y Gymdeithas Facter- ioleg Gymhwysol yn Llundain. Derbyniodd yr adran ddwy grant CAPS gan y C.Y.G., un ohonynt i hyrwyddo cydweithrediad â Shell Res- earch Cyf. mewn ymchwil ar ddylanwad cyto/cinins ar ganolfannau tyfiant mewn planhigion a'r llall i gynnal astudiaethau ar organebau pydredd mewn bwydydd wedi eu rhewi. Mae'r cyntaf dan arweiniad yr Athro Wareing a'r olaf dan gyfarwyddyd Dr. Muriel Rhodes mewn cydweithrediad â Marks a Spencer Cyf. Mathemateg Gymhwysol. Adroddir bod mwy o fyfyrwyr ymchwil yn yr adran ar hyn o bryd nag erioed o'r blaen, cyfanrif o bedwar-ar-ddeg. Ceir cefnogaeth arwyddocaol iawn o'r C.Y.G., yn arbennig at astudiaethau arbrofol ym maes rheoleg. Cyfarwyddir y gwaith yma gan Dr. K. Walters. Bu ef a'i fyfyrwyr ymchwil a nifer o'r staff yn ddiweddar yn Lyon, Ffrainc, yn y Chweched Gyngres Ryngwladol ar Reoleg lle cyflwynid tri phapur ganddynt. Ymhlith ymwelydd ddarlithwyr yn y adran yn Nhymor Mihangel yr oedd y Athro T. V. Davies (Prifysgol Caerlyr Athro J. G. Oldroyd (Prifysgol Lerpw a Dr. J. A. Rearson (Prifysgol Caei grawnt). J.B.B. BANGOR Mae'n chwith gennyf gofnodi marwol- aeth dau o gyn-athrawon y Coleg, sef yr Athro J. Morgan Rees, a fu'n bennaeth yr adran Economeg, a'r Athro Eric Mobbs, a fu'n bennaeth yr adran Goedwigaeth. Rhoddodd y ddau wasan- aeth hir i'r Coleg a bu colled ar eu hôl. Penodwyd Syr W. E. Jones, Cyfar- wyddwr Gwasanaeth Ymgynghorol Dat- blygiad Amaethyddiaeth, yn Gymrawd Athro Anrhydeddus yn yr adran Amaethyddiaeth. Mae'n bleser gennyf longyfarch Dr. J. B. Hughes, o'r adran Fathemateg Gymhwysol, ar ennill Gwobr Y Gwydd- onydd yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd. Edrychir ymlaen at ym- ddangosiad yr erthyglau buddugol. Mae Dr. Hughes yn treulio'r tri mis nesaf fel tymor sabothol ym Mhrifysgol Birmingham. Fel arfer, bu amryw yn gweithio dramor yn ystod y misoedd diweddar. Er enghraifft, bu Mr. J. D. McArthur, o'r adran Amaethyddiaeth, yn bwrw chwech wythnos yn Ethiopia yn cyng- hori ar weinyddiaeth y tir. Bu Dr. J. Popplewell, o'r Ysgol Gwyddorau Ffis- egol a Moleciwlar, yn ymweld â labordai yn America ar gais llywodraeth yr Unol Daleithiau. Bu'r Athro Paul Richards, o'r Ysgol Lysieueg, yn Vietnam yn bwrw golwg dros effaith y rhyfel ar y planhigion yno, ym Mharis yn trafod effaith dyn ar yr amgylchfyd yn y trofannau a'r isdrofannau, ac yn trafod parciau cenedlaethol yn America, tra bu'r Athro J. L. Harper, o'r un ysgol, yn darlithio yn Sicily ar geneteg. Hefyd bu Mr. W. Brown, Dr. A. G. Chamberlain, a Dr. G. M. Davies yn Saudi Arabia yn trafod amethyddiaeth y wlad. Bu amryw mewn cynadleddau fel arfer-Rwsia, Gwlad Pwyl, Dulyn. Canada, Sweden, Yr Iseldiroedd. Mac sawl problem yn codi ynglyn â arferiad hyn. A yw'r gynhadledd werth yr arian? Mae cost rhai cynadleddau dau neu dri diwrnod (heblaw costau llety a theithio) gymaint â £ 40. A yw*! gynhadledd gydwladol fawr yn werth