Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

amser? Mae'n anodd iawn, mewn cynhadledd fawr, i gyfarfod â rhywun sydd â'r un diddordebau, ac yn aml nid oes ond un neu ddwy o'r darlithiau o ddiddordeb. A yw'r rhai iawn yn mynd? Mae rhai yn dadlau ei fod yn bwysicach i fyfyrwyr ymchwil fynd nag i'r rhai hyn. Dyma rai o'r problemau sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd. Etholwyd Mr. A. R. Owens, o'r Ysgol Beirianneg, yn gadeirydd adran rheol- aeth electroneg Gogledd Cymru a Lerpwl o Sefydliad y Peirianwyr Trydan, a'r Athro S. D. Richardson, o'r adran Gwyddor Coed, yn gadeirydd pwyllgor Addysg Coedwigol F.A.O. Hefyd etholwyd yr Athro G. E. Fogg ALLYRRU (ffiseg): gyrru allan; S. emit. CARTHBAIR (meddyg., ffarmacoleg): cyffur neu sylwedd arall sy'n symbylu ffurfiad carthion; S. laxative. CERFWEDD: tirffurf; S. topography. CHWERFAN (peirian.): S. pulley. chwydbair (meddyg., ffarmacoleg) cyffur neu sylwedd arall sy'n peri chwydu; S. emetic. ATHROFA GWYDDONIAETH A THECHNOLEG PRIFYSGOL CYMRU PARC CATHAYS, CAERDYDD CYFRIFEG BIOLEG GYMWYSEDIG FFISEG GYMWYSEDIG GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG ASTUDIAETHAU PENSAERNIOL BANCIO A CHYLLID TECHNOLEG ADEILADU GWEINYDDIAETH BUSNES CEMEG PEIRIANNEG SIFIL ECONOMEG PEIRIANNEG DRYDAN AC ELECTRONEG Darperir nifer o gyrsiau wedi-gradd; a chynigir ysgoloriaethau ymchwil. Mae gan y Coleg ei gyfrifiadur electronig a'i labordy iaith ei hun. Ceir y Prospectws a phob manylion oddi wrth Gofrestrydd y Coleg. o'r adran Fôr-fioleg yn llywydd adran Lysieueg y Gymdeithas Brydeinig, a phenodwyd Dr. W. S. Lacey, o'r Ysgol Lysieueg, yn aelod o Fwrdd Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri Bydd Dr. E. A. B. Sykes, o'r adran Seicoleg, yn treulio 1972-73 yn yr Unol Daleithiau, tra bydd yr Athro V. V. Lloyd, o Goleg Wilson ym Mhensylvannia, yn cymryd ei lle hi yma. Ymddeolodd Mr. L. M. Jackson o'r adran Sôoleg eleni ar ôl iddo fod yn darlithio yn y Coleg hwn ers 1929. Mae'n bur annhebyg y bydd neb gyda chymaint â hyn o wasanaeth i'r Coleg eto. Geirfa dwrbair (ans. dwrbeiraidd) (meddyg., ffarma- coleg): cyffur neu sylwedd arall sy'n symbylu'r corff i gynhyrchu iwrin; S. diuretic. HAENELLU (metaleg): gosod haenen o fetel ar fetel arall; S. to plate. TRYDARTHIAD (llysieueg): dull y planhigyn o golli dwr i'r awyr trwy'r dail; S. transpiration. UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: A. F. TROTMAN-DICKENSON, D.SC. Cynigir CYRSIAU GRADD mewn ELECTRONEG PEIRIANNEG GYNHYRCHU Y GYFRAITH ASTUDIAETHAU MORWROL MATHEMATEG PEIRIANNEG FECANYDDOL ASTUDIAETHAU SAESNEG MODERN SEICOLEG ALWEDIGAETHOL OPTEG OPHTHALMIG FFERYLLEG GWLEIDYDDIAETH CYNLLUNIO DINESIG YSTADEGAETH Cynhaliwyd cwrs i athrawon Ffiseg, Bioleg a Chemeg ar 'Astudiaethau Arbrofol a'r Amgylchfyd' ym mis Gorffennaf. Trefnwyd hwn gan yr adran Addysg mewn cydweithrediad â'r Ysgol Lysieueg a'r adran Amaeth- yddiaeth. Mae'n ddrwg iawn gennyf gofnodi marwolaeth dau aelod o'r staff, sef Llyfrgellydd y Coleg, Mr. Emyr Gwynne Jones, a Chyfarwyddwr Ymarfer Corff y Coleg, Dr. Llewelyn Rees. Mae ymadawiad y ddau wedi gwneud bylchau ym mywyd y Coleg a fydd yn anodd i'w llenwi. LL.G.C.