Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COLEG Y BRIFYSGOL, CAERDYDD UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: C. W. L. BEVAN, C.B.E., D.SC. Y mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r Coleg ym Mharc Cathays. Darperir cyrsiau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru (B.A., B.Sc., B.Sc.Econ., LL.B., B.Mus.). Gellir astudio'r pynciau a ganlyn: YNG NGHYFADRAN Y CELFYDDYDAU Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portwgaleg, Hebraeg, Athroniaeth, Efrydiau Beiblaidd, Hanes, Hanes Cymru, Cerddoriaeth, Archaeoleg, Addysg, Mathemateg, Seicoleg, Economeg, Cyfraith. Gellir cymryd gradd B.Mus. yn yr Adran Gerddoriaeth. YNG NGHYFADRAN EFRYDIAU ECONOMAIDD A CHYMDEITHASOL Economeg, Cyfraith, Athroniaeth, Cyfrifyddiaeth, Cysylltiadau Diwydiannol, Seicoleg, Gweinyddiad Cymdeithasol, Cyfarwyddo a Rheoli Gweithwyr, Gwyddor Gymdeithasol, Gwleidyddiaeth, a Chymdeithaseg. Gellir cymryd gradd LL.B. drwy Ysgol y Gyfraith Caerdydd. YNG NGHYFADRANNAU GWYDDONIAETH A GWYDDONIAETH GYMWYSEDIG Mathemateg Bur, Mathemateg Gymwysedig, Ystadegau, Ffiseg, Mathemateg Gyfrifyddol, Cemeg, Llysieueg, Swoleg, Microbioleg, Daeareg, Electroneg, Anatomeg, Ffisioleg, Biocemeg, Meteleg, Mwyngloddiaeth, Peirianneg Sifil, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol ac Electronig, Seicoleg, Archaeoleg, ac Economeg. Y mae gan y Coleg neuaddau preswyl ar gyfer dynion a merched. Ceir hefyd feysydd chwarae, gymnasiwm, ac Undeb Myfyrwyr newydd i'w rannu gyda'r Athrofa. Rhoddir nifer o ysgoloriaethau bob blwyddyn gan y Coleg ar sail canlyniadau'r flwyddyn gyntaf. Adeiladwyd Canolfan Cyfrifiaduron i ddal cyfrifiadur I.C.L. 4-70. Gellir cael manylion pellach oddi wrth y Cofrestrydd. COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH UN O GOLEGAU PRIFYSGOL CYMRU Prifathro: Syr GORONWY H. DANIEL, K.C.V.O., C.B., D.PHIL. CYRSIAU GRADD Darperir cyrsiau yng nghyfadrannau'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gwlad, y Gyfraith, Cerddoriaeth, ac Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol. Mae'r holl Adrannau Gwyddoniaeth yn awr mewn adeiladau modern, digonol eu hoffer a'u celfi. CYRSIAU DIPLOMA Diplomâu mewn Addysg, Gwyddor Gwlad, Ystadegaeth, Ffiseg yr Awyrgylch, Ffiseg Electronig, Mathemateg Bur, Micropalaeontoleg, Palaeograffeg, Cyfraith a Chydberthynas y Gwledydd, Addysg Ddwyieithog. YMCHWIL Darperir ar gyfer graddau uwch ym mhob pwnc. Yn yr holl adrannau Gwyddoniaeth Bur a Gwyddor Gwlad mae ysgolion ymchwil grymus, a gynhelir gan grantiau o ffynonellau gwladol a phreifat. LLYFRGELLOEDD Yn Llyfrgell y Coleg mae dros 240,000 o gyfrolau rhwymedig, gan gynnwys casgliadau arbenigol a chyfnodolion. Ceir cyfleusterau digymar ar gyfer pob pwnc yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. YSGOLORIAETHAU Dyfernir nifer fawr o ysgoloriaethau ar ganlyniadau arholiad a gynhelir ym mis Ionawr. Nid yw dal un o'r ysgoloriaethau hyn yn lleihau dim ar y grant y bo myfyriwr yn ei dderbyn oddi wrth awdurdod addysg lleol. NEUADDAU PRESWYL Mae gan y Coleg bum neuadd i ddynion (yn un ohonynt, a orffennwyd yn 1960, ceir lle i 250) a phum neuadd i ferched (lle i 600 o ferched), ynghyd â neuadd newydd (gymysg) i'r myfyrwyr hyn. PROSPECTUS Gellir cael Prospectus y Coleg, Llawlyfr Cymraeg, a gwybodaeth bellach oddi wrth y Cofrestrydd.